3 Mehefin 2020

 

Pan ofynnodd gwleidydd gwadd wrth ferch ysgol ddiniwed 14 oed, Anna Truesdale o County Down yng Ngogledd Iwerddon, beth hoffai wneud ar ôl gadael yr ysgol, roedd ymateb y gwleidydd i’r hyn a ddywedodd yn ddigon i’w pherswadio hi i’w brofi ef, ac ‘unrhyw un arall tebyg iddo’, yn anghywir! 

“Pan ddywedais fy mod eisiau bod yn ffermwr, dywedodd bod gyrfa mewn amaeth yn ddewis rhyfedd iawn i ferch!”

Mae hynny’n ymateb digon cyffredin ac yn un y mae Anna (23) sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn technoleg amaethyddol, yn dal i’w weld yn weddol reolaidd. Mae ei 30,000 o ddilynwyr ar Instagram yn gwybod yn well, fel y byddai unrhyw un arall sydd wedi ei gweld hi’n gweithio ar fferm y teulu wrth odre’r Mynyddoedd Mourne ysblennydd. Mae hi’n gweithio oriau hirion gyda’i thad a’i brawd, mewn tywydd heriol yn aml iawn, yn godro, yn geni lloi ac ŵyn, yn gyrru peiriannau’r fferm ac yn ymdrin â’r holl dasgau trymion eraill i’r un graddau â’r dynion.

Mis yma, bydd @annatrues yn un o’r prif siaradwyr a fydd yn cymryd rhan yn ymgyrch Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio a fydd, am y tro cyntaf, yn ymgyrch wythnos ar-lein er mwyn ymateb i’r cyfyngiadau Covid-19. Yn ystod yr wythnos, bydd Anna yn postio fideo arbennig, yn arwain sesiwn holi ac ateb byw ac yn cynnal gweminar i esbonio sut y trodd ei hangerdd am ddau beth, amaeth a ffotograffiaeth, yn fusnes ar-lein llwyddiannus sydd nid yn unig wedi helpu i hyrwyddo busnes fferm y teulu ond sydd hefyd wedi ei rhoi hi yn y safle y mae ynddi fel dylanwadwr blaenllaw, blogiwr adnabyddus a chymeriad proffil uchel o fyd ffermio.

“Gyda fy nhraed yn sownd mewn pâr o welingtons, penderfynais ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddangos yn union sut beth yw bywyd ffermwr benywaidd ifanc yng Ngogledd Iwerddon a’r gobaith yw ysbrydoli merched ifanc eraill i ystyried gyrfa yn y diwydiant arbennig hwn.”

Cychwynnodd diddordeb Anna yn y cyfryngau cymdeithasol pan oedd hi yn ei harddegau.

“Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn dechrau dod i’r amlwg felly roeddwn i’n treulio oriau’n pori drwy’r holl bethau oedd bwysicaf yn y byd i mi bryd hynny, fel gwallt, harddwch a ffasiwn – dysgais lawer am y grym sydd gan bobl, ffotograffiaeth a phwysigrwydd cyfathrebu.”

A hithau’n ddylanwadwr blaenllaw ei hun erbyn hyn, mae Anna yn dweud ei bod hi’n edrych ymlaen at estyn allan at ferched yng Nghymru a rhannu ei hawgrymiadau ar sut i lwyddo mewn byd sy’n dal i gael ei ystyried i raddau helaeth, ac yn llawer rhy aml, yn fyd gwrywaidd.

Mae ymgyrch Merched mewn Amaeth 2020 Cyswllt Ffermio yn ei 11eg blwyddyn erbyn hyn a bydd yn digwydd o Ddydd Llun 15 Mehefin hyd Ddydd Sadwrn 20 Mehefin. Ei nod yw annog merched o bob cwr o Gymru ac o nifer o wahanol sectorau o fyd ffermio, coedwigaeth a garddwriaeth i gymryd rhan o bell mewn gwledd ddyddiol o opsiynau ar-lein a ffôn, oll â’r nod o roi’r hyder a’r wybodaeth angenrheidiol i fenywod i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau personol a busnes.

Bydd nifer o fentoriaid arbenigol Cyswllt Ffermio’n darparu cyngor rhyngweithiol drwy fformat ffrydio byw drwy gydol yr wythnos, gan ymdrin â phynciau sy’n cynnwys magu lloi, mentrau arallgyfeirio, pwysigrwydd datblygiad personol a chynllunio ar gyfer olyniaeth.

Ymysg y bobl eraill a fydd yn cynnal gweminarau bydd y ffermwyr Julie a Keri Davies, sydd â busnes twristiaeth 5 seren ym Mannau Brycheiniog sydd ar gau ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau symud. Mae’r busnes yn dal i ‘Addasu i newid’ fel y gwnaeth yn dilyn tân catastroffig a ddinistriodd eu cartref a thri bwthyn cysylltiedig wyth mlynedd yn ôl. Bydd Emma Picton-Jones o Sir Benfro, sy’n arloeswr adnabyddus mewn ymdrin â phroblemau iechyd meddwl ymysg dynion ifanc mewn amaeth, yn cynnal gweminar ar ‘Gadw llygad ar bobl eraill’, sy’n arbennig o berthnasol wrth i’r byd ddod i delerau â ‘chadw pellter cymdeithasol’ a ‘hunanynysu’.

Mae’r wythnos hefyd yn cynnwys cyfres o gymorthfeydd ffôn ‘un i un’ cyfrinachol, pan fydd merched cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gallu archebu ymgynghoriad wedi’i ariannu’n llawn am hyd at awr, ar bynciau sy’n amrywio o gyfathrebu, marchnata a chyfryngau cymdeithasol i gynlluniau arallgyfeirio, olyniaeth a materion cynllunio.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes sydd, ynghyd â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn dweud bod annog merched mewn ffermio i gadw mewn cysylltiad a chefnogi ei gilydd yn arbennig o bwysig yn y cyfnod heriol hwn.

“Er na allwn drefnu ein digwyddiadau blynyddol ‘wyneb yn wyneb’ arferol sydd, bob blwyddyn ers 2009, wedi dod â channoedd o ferched at ei gilydd sydd o’r un meddylfryd ac sy’n gweithio yn y diwydiant yng Nghymru, credwn y bydd rhaglen ar-lein eleni’n ysbrydoli, annog ac hefyd yn codi   calonnau pobl mewn cyfnod sy’n anodd iawn i ni i gyd.”

Gallwch weld amserlen fanwl ar gyfer pob diwrnod drwy gydol yr ymgyrch Merched mewn Amaeth, ynghyd â ffurflenni archebu ar-lein yma. Cynghorir unigolion cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i archebu eu lleoedd ar-lein ar gyfer pob gweithgaredd cyn gynted ag y bo modd oherwydd, heblaw am y gweminarau, bydd y cymorthfeydd yn rhai un i un a bydd niferoedd cyfyngedig ar y sesiynau mentora. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at delyth.evans@menterabusnes.co.uk neu ffoniwch 01970 600176.  

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio