29 Mawrth 2022

 

Mae ffermwr defaid o Gymru yn dweud bod rhaid cydbwyso cyflawni arbedion carbon mewn amaethyddiaeth yn erbyn yr angen i fusnesau fferm fod yn gynhyrchiol a phroffidiol.

Cwblhaodd Rhys Edwards, sy’n cadw diadell o 530 o ddefaid a 180 o ŵyn benyw gyda’i rieni, Russell ac Eira, yn Hendre Ifan Goch ger Pen-y-bont ar Ogwr, archwiliad carbon o’r fferm yn ei rôl fel safle arddangos Cyswllt Ffermio. Dangosodd yr archwiliad fod y cydbwysedd yn garbon negyddol (ar -197.01), oherwydd bod gan y fferm lefelau uchel o ddeunydd organig yn y pridd.

Mae’r ddiadell ddefaid yn gyfrifol am 49% o allyriadau, felly bydd y ffocws, wrth symud ymlaen, ar effeithlonrwydd mamogiaid a chyfraddau twf ŵyn. Dywedodd Mr Edwards mewn gweminar ‘Yn Fyw o’r Fferm’ Cyswllt Ffermio yn ddiweddar ei fod wedi dewis offeryn mesur ôl troed carbon Farm Carbon Toolkit oherwydd dyma’r unig un sy’n cydnabod dal a storio carbon wrth gyfrifo.

Dywedodd Rhys ei fod yn cymryd camau – gan gynnwys gosod targed i ddiddyfnu ŵyn ar 65% o bwysau’r famog – i leihau allyriadau gan y ddiadell. Mae’r mamogiaid yn pwyso 65kg, felly os yw 1.65 o ŵyn fesul mamog sy’n cael hwrdd yn cael eu magu, a bod yr ŵyn ar gyfartaledd yn 26kg adeg diddyfnu, bydd y targed o 65% o bwysau llawn dwf yn cael ei gyrraedd.

“Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth arall y gallwn ei wneud yn gorfforol i fod yn garbon gyfeillgar, ac mae’n rhaid i leihau allyriadau weithio law yn llaw â rhedeg busnes cynhyrchu bwyd proffidiol,” meddai Rhys.

Ceisir gwelliannau mewn cyfraddau twf ar ôl diddyfnu, oherwydd gall perfformiad fod yn her yn yr hydref o ganlyniad i argaeledd glaswellt a diffygion elfennau hybrin.

Dywedodd yr ymgynghorydd defaid annibynnol Dr Liz Genever, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r fferm ar y prosiect hwn, po fwyaf o ddyddiau y mae ŵyn ar y fferm, y mwyaf y maent yn ei fwyta, a’r mwyaf o fethan y maent yn ei gynhyrchu.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwyr Sir Benfro yn mynd i'r afael â TB trwy waith tîm
07 Ebrill 2025 Mae ffermwyr ar draws Sir Benfro yn profi, hyd yn
Mentor Cyswllt Ffermio ac arweinydd Agrisgôp, Caroline Dawson, yn rhan o gyfres ddiweddaraf o Our Dream Farm ar Channel 4
03 Ebrill 2025 Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd
Cyswllt Ffermio yn Cyflwyno 9 Cwrs Hyfforddiant Ychwanegol i Ffermwyr
02 Ebrill 2025 Mae Cyswllt Ffermio wedi ehangu ei raglen