Dyddiad i’r Dyddiadur

Estynnir gwahoddiad i ffermwyr ddod i ddarganfod mwy ynglŷn ag opsiynau rheolaeth gwahanol ar gyfer eu da byw’r gaeaf hwn yn ystod digwyddiad agored ar un o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio.

Bydd y digwyddiad yn amlygu’r system ffermio ar fferm Rhiwgriafol, Talywern, Machynlleth, gan gynnwys rhaglen ail-hadu a gwella’r defnydd a wneir o laswellt. Mae prosiect yn edrych ar agweddau ymarferol sy’n ymwneud  â gaeafu mamogiaid ar swêj yn cael ei gynnal ar fferm Rhiwgriafol ar hyn o bryd, a bydd cyfle i drafod sefydliad y cnwd a’r potensial ar gyfer bwydo dros y gaeaf.

“Mae swêj yn cynnwys hyd at 18% o ddeunydd sych (DM) ac mae’r treuliadwyedd dros 80%,” meddai Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio. “Mae hyn yn ei gwneud yn haws i’w treulio na glaswellt ac yn ffynhonnell porthiant rhad, gan fod swêj yn costio oddeutu £62/tunnell a glaswellt/meillion yn costio £72 am bob tunnell o ddeunydd sych a ddefnyddir.”

Bydd yr arbenigwr glaswellt, Charlie Morgan yn cael cwmni Rhian Davies, milfeddyg lleol, fydd yn trafod dulliau o fynd i’r afael â chloffni yn y ddiadell. Mae menter magu heffrod yn agwedd arall o’r busnes, lle mae 52 o heffrod yn cael eu rheoli nes iddynt gyrraedd 18 mis oed fel ffynhonnell incwm ychwanegol i’r fferm.

 

Archwilio opsiynau rheolaeth y gaeaf hwn

20 Medi 2016 4yp-7yh Rhiwgriafol, Talywern, Machynlleth SY20 8NY

Croeso cynnes i bawb fynychu’r digwyddiad agored hwn. Am fwy o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â Lisa Roberts ar 07985 379890 neu lisa.roberts@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025
Nid yw manteision amlwg torri padogau ymlaen llaw yn berthnasol i bob system bori, yn ôl astudiaeth
17 Rhagfyr 2025 Mae astudiaeth ar fferm yng Nghymru yn dangos nad
SUT Y GALL CYSWLLT FFERMIO EICH CYNORTHWYO I GWBLHAU GWEITHRED GYFFREDINOL 12 (IECHYD A LLES ANIFEILIAID) O’R CYNLLUN FFERMIO CYNALIADWY