Mae grŵp o arweinwyr ifanc y dyfodol o Gymru wedi lansio fideo yn amlinellu eu hachos ar gyfer polisïau a allai greu diwydiant ffermio cryf yng Nghymru ar ôl Brexit.
Lansiwyd y neges fideo i’r bobl sy’n llunio’r polisïau, sy’n amlinellu’r prif flaenoriaethau, yn y Ffair Aeaf Frenhinol 2017 yn Llanelwedd gan grŵp y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth 2017 sy’n cael ei redeg gan Cyswllt Ffermio.
Cyflwynodd y 12 aelod eu gweledigaeth am ddyfodol llewyrchus a chadarn i amaethyddiaeth yng Nghymru gan ymdrin â materion yn amrywio o dechnoleg a’r Gymraeg i economi a hyrwyddo ffermio.
Mewn sesiwn cwestiwn ac ateb yn y Ffair Aeaf roedd panel o arbenigwyr y diwydiant wrth law i drafod eu rhagolygon, gan ofyn i aelodau’r Rhaglen sut fyddan nhw’n rhoi eu hawgrymiadau ar waith.
Roedd y panel yn cynnwys Alan Davies, rheolwr gyfarwyddwr Undeb Amaethwyr Cymru, Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymru gyda Country Landowners Association Cymru, Gareth Wilson, pennaeth Polisi Ffermio yn y Dyfodol Llywodraeth Cymru, Kevin Roberts, cadeirydd Hybu Cig Cymru, a John Mercer, cyfarwyddwr NFU Cymru.
Yn ymateb i gwestiynau ynglŷn â sut i ddiogelu amaethyddiaeth yng Nghymru ar ôl Brexit, roedd strategaethau’r panel yn canolbwyntio ar wneud y diwydiant yn fwy deniadol i bobl ifanc.
Roedd sawl un yn credu bod yna le i gynllun prentisiaeth ym myd amaeth.
Dywedodd James Evans, o Nant Gwynnant, Gwynedd, bod cynllun o’r fath yn denu pobl i’r diwydiant. “Mae’n bwysig iawn nad yw’r diwydiant yn sefyll yn yr unfan a bod y genhedlaeth nesaf yn camu ymlaen.”
Mae Awel Mai yn ferch i ffermwr ac yn gyfreithwraig i gwmni cyfreithiol o’r Trallwng sy’n arbenigo ar y sector wledig. Annogodd hi’r Llywodraeth i ystyried darparu cefnogaeth ariannol brys i fusnesau ffermio fydd yn cael eu heffeithio mwyaf gan broblemau masnach Brexit sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
Cynigiodd y gallai’r arian fod yn ei le am dair blynedd ac y byddai ganddo drothwy cymhwyso.
“Mae ffermwyr, cleientiaid a chymdogion i gyd yn poeni beth fydd yn digwydd mewn dwy flynedd. Sicrwydd ariannol ynghyd â masnach yw’r prif bryderon.”
Mae Dafydd Jones, is-gadeirydd CFfI Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i daclo’r gwahaniaethau yn y ddarpariaeth o rwydwaith cyfathrebu da.
“Mae technoleg yn chwarae rhan allweddol yn lleihad y gweithlu gwledig. Does gen i ddim signal ffôn adref – does dim G o gwbl gen i, heb sôn am 5G- ac mae hynny’n gyfyngol iawn.”
Cafodd y sesiwn ei gadeirio gan yr Athro Wynne Jones OBE FRAgS, cadeirydd bwrdd cynghori strategol Cyswllt Ffermio.
Dywedodd yr Athro Jones fod y sesiwn yn dangos mai’r buddsoddiad gorau oedd mewn datblygu pobl. “Rydym ni’n medi buddion rhaglen yr Academi Amaeth.”
Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn cynnig pecyn dwys o sesiynau preswyl, seminarau, gweithdai ac ymweliadau astudio, sy’n cynnwys taith i Frwsel, er mwyn ysbrydoli a datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yng Nghymru wledig. Mae sicrhau lle ar yr Academi Amaeth wedi agor drysau i’w alumni ac wedi rhoi platfform iddyn nhw fynd ymlaen i swyddi arwain yn y diwydiant.
Mae cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2018 yn agor ar 23 Ionawr a bydd dosbarth 2018 yn cael eu dewis trwy broses gystadleuol yn 2018.
Am fwy o wybodaeth am yr Academi Amaeth, cliciwch yma neu cysylltwch ag Einir Davies ar 01970 636 297 /einir.davies@menterabusnes.co.