17 Gorffennaf 2019

 

wilfred emmanuel jones
Ar Fedi’r 26ain, bydd digwyddiad cyffrous newydd sbon yn dod i Gymru sy’n cynnig cymorth a chyngor i ffermwyr, perchnogion tir a choedwigwyr ynglŷn â’r syniadau a’r cyfleoedd diweddaraf mewn arloesi ac arallgyfeirio. Bydd y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf un, sy’n cael ei drefnu gan Cyswllt Ffermio, yn digwydd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae’n debyg bod cyfnodau heriol o’n blaenau yn y diwydiant, felly bwriad y digwyddiad hwn yw cefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y dyfodol a chanfod cyfleoedd i fod yn fwy proffidiol. Bydd y bobl a ddaw i’r digwyddiad yn gallu casglu gwybodaeth a syniadau newydd gan amrywiol gwmnïau, gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr sydd ar flaen y gad mewn arloesi amaethyddol, yn ogystal â dysgu sut mae’r mentrau arallgyfeirio mwyaf llwyddiannus ar hyn o bryd yn ffynnu mewn marchnad gystadleuol. 

Gall fod yn her i unrhyw ddiwydiant gadw llygad parhaus ar ddatblygiadau technolegol, a bydd Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru’n annog a chefnogi dysgu effeithiol ymysg ffermwyr a choedwigwyr er mwyn iddynt fabwysiadu technoleg newydd i wella proffidioldeb eu busnesau a, thrwy greu busnesau cynaliadwy, wella safonau byw. 

Bydd y digwyddiad yn cynnig amrywiaeth o stondinau masnach, lle i gynnal seminarau, a chyfleoedd i droi eich syniadau’n realiti drwy fanteisio ar arweiniad, cefnogaeth, hyfforddiant a mentora Cyswllt Ffermio. 

Y prif siaradwr yn ystod y digwyddiad fydd Wilfred Emmanuel-Jones. Mae Wilfred wedi ennill dwy Wobr Entrepreneuriaeth flynyddol ac yn entrepreneur nodweddiadol sy’n credu bod “popeth yn bosibl”. Mae wedi derbyn cydnabyddiaeth am gyflwyno rhai o gogyddion mwyaf adnabyddus y DU i’r sgrin fach gan gynnwys Gordon Ramsay, Antony Worrall-Thompson, Brian Turner a James Martin, cyn iddo sefydlu cwmni marchnata bwyd a diod yn Llundain. 

Aeth Wilfred yn ei flaen i wireddu uchelgais oes drwy brynu fferm fechan yn Nyfnaint, ac mae wedi bod yn gyfrifol am un o lansiadau bwyd mwyaf llwyddiannus y blynyddoedd diwethaf yn y DU gyda’i ystod o gynnyrch cig ei hun dan label The Black Farmer. Bydd Wilfred yn trafod ei gefndir, ei hanes a’i fentergarwch, a bydd ar gael i ysbrydoli eraill i ganfod cyfleoedd o fewn eu busnesau presennol. 

Mae cwmnïau o bob rhan o Brydain ac o amrywiol ddiwydiannau wedi cofrestru i ddod i’r digwyddiad, gan arddangos yr amrywiaeth o gynhyrchion a syniadau sydd ar gael. Dyma rai o’r cynhyrchion fydd yn cael eu harddangos:

  • Ystod o gwmnïau sy’n cefnogi twristiaeth, lletygarwch a’r diwydiant bwyd gan gynnwys The Rural Business Awards, Tyfu Cymru, RSS Hereford a Modulog
  • Syniadau arloesol ar draws pob sector ym myd amaeth gan gynnwys PRECISEAG IBERS, Technoleg wedi’i Bweru gan Ddŵr, synwyryddion Moocall
  • Cefnogaeth a chyngor busnes gan y diwydiant bancio, cefnogaeth a chyngor gan y llywodraeth gan gynnwys presenoldeb gan HSBC, Lloyds Bank a Barclays.
  • Ymatebion ynni adnewyddadwy gan gynnwys NFU Energy a Dragon Drilling

Meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes: “Am fod cyfnod o newid ac ansicrwydd o’n blaenau, roeddwn yn teimlo ei bod hi’n bwysig i ni greu’r digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio pwrpasol cyntaf un ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru. Mae’r digwyddiad wedi derbyn ymateb gwych hyd yn hyn gan gwmnïau ledled Prydain. Ein nod a’n huchelgais ar gyfer y digwyddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim i ddod iddo, yw ysbrydoli a rhoi hyder i bobl i ddatblygu syniadau busnes newydd, arloesol a phroffidiol.”  

I unrhyw gwmnïau sy’n gobeithio arddangos yn y digwyddiad, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â fcevents@menterabusnes.co.uk

Cynhelir Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru gan Cyswllt Ffermio sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o