1 Hydref 2020

 

Mae strategaethau rheoli tir effeithiol yn allweddol bwysig i bob ffarmwr. Diolch i ddewis ehangach Cyswllt Ffermio o gyrsiau e-ddysgu wedi eu hariannu’n llawn gallwch gael y wybodaeth y mae arnoch ei hangen o’ch cartref eich hun, ar lefel a chyflymder sy’n addas i chi. 

Wedi eu dosbarthu yn y categorïau bras ‘busnes’, ‘da byw’ a ‘thir’, bydd pob modiwl hyfforddi rhyngweithiol ar-lein – disgwyliwch gymryd tua 20 i 30 munud i gwblhau pob un - yn dysgu elfennau sylfaenol yr hyn sydd arnoch angen ei wybod i chi.  Gyda chwis syml ar ddiwedd pob cwrs yn eich galluogi i asesu beth yr ydych wedi ei ddysgu, fe fyddwch yn gweld yn fuan pa feysydd y gall fod angen i chi ail edrych arnyn nhw a gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar bob math o bynciau. 

Yn y categori rheoli ‘tir’, nid yn unig gallwch ddysgu sut i osgoi torri rheoliadau’r parthau perygl nitradau, rheoli plaleiddiaid yn briodol a lleihau nwyon tŷ gwydr, byddwch yn dysgu sut i ffermio yn fwy ‘doeth’ o ran lleihau’r holl lygredd amaethyddol, her fawr sy’n wynebu pob busnes fferm blaengar heddiw.  

Yn y categori hwn hefyd mae modiwlau fydd yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wybod am slyri, silwair a rheoli dŵr glaw; rheoli maetholion fferm a chompostio ar y buarth. 

Esbonia Rebecca Summons, rheolwraig Iechyd a Lles Anifeiliaid ac E-ddysgu Lantra Cymru, sydd, ar y cyd â Menter a Busnes, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, bod e-ddysgu yn gallu rhoi’r wybodaeth a’r cyfarwyddyd angenrheidiol i chi gael y systemau a’r gweithdrefnau gorau yn eu lle. 

“Os oes gennych ddiddordeb mewn rhedeg eich busnes ar y lefel uchaf posibl ar draws pob lefel, a ddylai yn ei dro arwain at fwy o elw, yna bydd e-ddysgu yn rhoi’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i chi.

“Bydd y dewis ehangach o gyrsiau e-ddysgu wedi eu hariannu’n llawn gan Cyswllt Ffermio yn eich helpu i ymdrin ag amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau a phroblemau a all fod yn atal eich fferm rhag gweithredu ar ei lefel gorau,” dywedodd Ms. Summons. 

Pwysleisiodd Ms Summons pa mor hawdd a chost effeithiol y gall hi fod i weithredu systemau a fydd yn eich helpu i gael y canlyniadau gorau ar draws sbectrwm eang o bynciau yn amrywio o reoli tir ac iechyd anifeiliaid i fusnes, agweddau ariannol a marchnata.

Disgrifir pob modiwl rhyngweithiol fel tameidiau byr, a gall pob modiwl gael ei ailadrodd nes y byddwch yn hyderus bod gennych yr holl ffeithiau y mae arnoch eu hangen ar flaenau eich bysedd. Am olwg gyffredinol ar ba bynciau sydd ar gael a beth sy’n cael ei drafod ym mhob un, cliciwch yma.

I gael mynediad at bob cwrs e-ddysgu, bydd angen i chi fod wedi cofrestru eich cyfeiriad e-bost unigol gyda Chyswllt Ffermio a mewngofnodi ar BOSS trwy Sign On Cymru. Rydych wedyn yn barod i ddewis y modiwl e-ddysgu y mae arnoch ei angen.  Os oes arnoch angen help gydag unrhyw ran o’r broses hon, gallwch gysylltu â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio. 

Ar ddiwedd pob cwrs e-ddysgu a gwblhawyd, bydd ‘Tystysgrif cwblhau’ yn cael ei huwchlwytho ar eich cofnod datblygiad proffesiynol parhaus ar eich Storfa Sgiliau bersonol ar-lein ar eich rhan.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu