29 Tachwedd 2018

 

Mae cadw cofnodion effeithiol yn gam cyntaf pwysig er mwyn lleihau cloffni mewn buchesi llaeth yng Nghymru gan ei fod yn caniatáu ffermwyr i ganfod y prif ffactorau risg o fewn eu buchesi eu hunain, yn ôl milfeddyg sy’n arbenigo mewn cloffni mewn gwartheg.

Yn ôl Sara Pedersen, sy’n arwain cyfres o weithdai Cyswllt Ffermio yn canolbwyntio ar gloffni ac iechyd traed gwartheg, mae cofnodion yn ei gwneud hi’n haws canfod meysydd sy’n peri problemau mewn buchesi unigol.

“Er mwyn gwneud cynnydd, mae angen i ni wybod ble i ganolbwyntio ein hymdrechion,” meddai Miss Pedersen wrth ffermwyr a fu’n mynychu gweithdy cloffni buchod llaeth yng Nghastell Newydd Emlyn.

“Er enghraifft, os bydd problem gyda dermatitis digidol, nid oes diben canolbwyntio ymdrech i leihau clefyd llinell wen, gan fod angen mynd i’r afael â dermatitis digidol yn y lle cyntaf.’’

Mae canfod graddfa’r broblem yn bwysig hefyd; mae’n aml yn uwch nag y mae’r ffermwr yn ei ddisgwyl, awgrymodd Ms Pedersen, o gwmni Farm Dynamics Ltd, Bro Morgannwg.

Ar gyfartaledd, bydd achos o gloffni yn costio £250 i fusnes llaeth, ond mae’r ystod yn eang gan ddibynnu ar y rheswm dros yr achosion ac mae nifer o gostau cudd.

Briwiau ar wadn y droed yw’r ffactor mwyaf costus sy’n arwain at gloffni, gyda phob achos unigol yn costio mwy na £550, neu fwy os bydd y fuwch yn cael ei difa o ganlyniad.

“Mae gwybod faint mae cloffni yn ei gostio i chi yn bwysig iawn gan ei fod yn helpu i flaenoriaethu newidiadau yn seiliedig ar eu cost a beth fydd yr enillion o’r buddsoddiad hwnnw,” meddai Miss Pedersen.

Mae ffermwyr yn gwella o ran trechu cloffni – mae’r gwaith ymchwil diweddaraf yn dangos bod y gyfradd cloffni mewn buchesi llaeth wedi lleihau i 31% - ond mae’r ffigwr yma’n dal i fod yn rhy uchel, meddai Miss Pedersen.

“Mae llawer iawn o ffactorau’n dal i fod angen eu trechu, ac mae angen mwy o ymwybyddiaeth o gloffni a’i achosion.’’

Mae tri phrif ffactor yn achosi cloffni mewn buchesi llaeth – clefyd y llinell wen, cleisio a briwiau ar wadn y droed a dermatitis digidol.

Ceisiodd Miss Pedersen chwalu rhai o’r chwedlau sy’n ymwneud â chloffni, gan gynnwys camsyniad cyffredin mai cerrig sydd wrth wraidd briwiau ar wadn y traed.

“Mae cerrig yn cael eu beio’n aml, ond nid y cerrig sy’n achosi’r briw, maen nhw’n dod i mewn wedi i’r broblem ddechrau, pan fo’r niwed eisoes wedi cael ei wneud.

“Ceir cred gyffredin hefyd bod briwiau ar wadn y traed yn gysylltiedig ag asidosis, ond nid yw hynny wedi’i brofi erioed, maen nhw’n digwydd o ganlyniad i ddiffyg cyfforddusrwydd y fuwch a diffyg rheolaeth yn ystod y cyfnod trawsnewid.’’

Mae cerrig yn aml yn cael eu cysylltu â chlefyd y llinell wen hefyd, fel y nododd Miss Pedersen: “Mae clefyd y llinell wen yn digwydd fel arfer ar gefn y droed tuag at y sawdl, pe byddai’n cael ei achosi gan gerrig, ni fyddai’n effeithio ar yr un lle bob tro. Fel gyda briwiau ar wadn y droed, gallant waethygu problem sydd eisoes yn bodoli, ond nid dyma’r rheswm dros y cyflwr.’’

Mae atebion ymarferol ar gyfer pob cyflwr yn dibynnu ar yr hyn sy’n ei achosi.

Os mai dermatitis digidol yw’r broblem, mae’n rhaid ystyried hylendid, golchi traed a thrin yn gynnar.

Mae rheoli symudiad yn allweddol er mwyn trechu clefyd y llinell wen, meddai Ms Pedersen, yn ogystal â sicrhau symudiad llyfn y gwartheg o amgylch y fferm a lleihau unrhyw droadau sydyn.

Mae gwaith ymchwil da ar gael ar gyfer gwahanol opsiynau triniaeth, meddai Ms Pedersen.

“O ran briwiau ar y carn grafanc, gan gynnwys cleisio, clefyd y llinell wen a briwiau ar wadn y droed, gwyddwn mai’r ffordd orau o drin y rhain yw rhoi triniaeth yn gynnar, ond hefyd i roi triniaeth i leddfu’r boen.

“Ar gyfer dermatitis digidol, mae triniaethau arwynebol gyda chwistrell wrthfiotig trwyddedig yn effeithiol iawn os bydd triniaethau’n cael eu hail adrodd.’’

Ei phrif air o gyngor i ffermwr sydd â phroblemau cloffni yw ystyried y broblem o safbwynt y fuwch. “Rhowch eich hun yn sefyllfa’r fuwch, os nad yw’n cerdded yn iawn, mae hi mewn poen, felly mae’n rhaid i chi fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi’r poen hwnnw.

“Pe byddech chi mewn poen, byddech chi eisiau i rywun atal y boen, ac mae hynny’r un fath ar gyfer eich gwartheg.’’

Mae cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

I ddysgu mwy am gloffni gwartheg, dyma Sara Pendersen, arbenigwraig mewn iechyd a chynhyrchiant gwartheg yn crynhoi’r hyn a gaeth ei drafod mewn cyfres o ddigwyddiadau diweddar.

Neu, triwch ein cwrs E-ddysgu Cloffni Gwartheg. Am fwy o wybodaeth ewch i'r dudalen E-ddysgu ar ein gwefan.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint