23 Hydref 2023

 

Mae arallgyfeirio i fenter fusnes nad yw’n ymwneud â ffermio bellach yn rhywbeth cyffredin wrth i ffermwyr Cymru geisio sicrhau eu dyfodol ariannol, gyda llawer yn defnyddio adnoddau Cyswllt Ffermio i gael cymorth, arweiniad a gwybodaeth cyn sefydlu’r ffrydiau incwm amgen hynny.

Mae ystod o gymorth ar gael i ffermwyr, coedwigwyr ac eraill sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, o gymorthfeydd sy’n cynnwys cyngor un i un i gyrsiau hyfforddiant a all helpu i sicrhau’r canlyniad gorau posibl ar gyfer syniad arallgyfeirio.
Edrychwn ar yr hyn sydd ar gael.

1) Cymorthfeydd Un i Un

Gall busnesau sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio drefnu sesiwn un i un am ddim gydag ymgynghorydd ar bwnc arbenigol i gael cyngor ac arweiniad wedi’u teilwra i’w prosiectau neu syniadau arallgyfeirio eu hunain.

Yn ystod y sesiynau hyn mae cyfle i drafod yn fyr syniadau neu faterion busnes cyn symud ymlaen â'r prosiect.
Mae amrywiaeth o bynciau ar gael gan gynnwys edrych ar y camau sydd eu hangen ar gyfer dechrau prosiect arallgyfeirio, gyda thrafodaeth ar syniadau posibl a beth allai weithio i fusnes.

Mae’r elfen farchnata a’r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig i unrhyw fenter newydd, felly mae ymgynghorwyr ar gael i roi arweiniad ar y rhain, yn ogystal â chynllunio a datblygu - popeth o adeiladau newydd, adnewyddiadau a throsi i gynlluniau ynni adnewyddadwy a chyfleoedd twristiaeth.

Gellir hefyd ymdrin â chynllunio ariannol a chyfrifeg yn y cymorthfeydd hyn, yn ogystal â pherfformiad busnes, lle gellir adolygu cynllun busnes a dechrau'r broses feincnodi.

2) Gwasanaeth Cynghori

Trwy'r Gwasanaeth Cynghori, mae mynediad at gyngor annibynnol arbenigol â chymhorthdal ar gael ar arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth.

Mae ein hymgynghorwyr yn gallu rhoi cyngor pwrpasol, gallent asesu ymarferoldeb cynnig, cynnal cynllunio ariannol ar gyfer prosiect newydd neu brosiect cyfredol, crynhoi ymchwil y farchnad a chyngor ar elfennau eraill megis rheoliadau a deddfwriaeth y cynnig.

3) Sgiliau a Hyfforddiant

Mae gan Cyswllt Ffermio bortffolio helaeth o gyrsiau hyfforddiant ac mae llawer o'r rhain yn berthnasol i arallgyfeirio.
Ymhlith y pynciau mae cynllunio busnes amaethyddol, marchnata busnes a chynllunio ar gyfer arallgyfeirio neu fenter newydd ar fferm. Gallwch gael gwybodaeth ynghylch gweithio'n fwy diogel a chynaliadwy gyda chymorth cyntaf a diogelwch bwyd, ymwybyddiaeth o alergeddau a chyrsiau sydd ar gael trwy IOSH ac IEMA.  Bydd modd i chi ddysgu’r sgiliau i reoli eich staff yn effeithiol gyda chyrsiau a gynigir trwy ILM. Unwaith y byddwch wedi sefydlu eich menter arallgyfeirio newydd, mae amrywiaeth o gyrsiau marchnata digidol i helpu i hyrwyddo eich menter newydd – a’r cyfan wedi’u hariannu 80%.
Mae amrywiaeth o fodiwlau e-ddysgu ar-lein ar gael gan gynnwys ffermio cydweithredol ac ar y cyd, arallgyfeirio busnesau fferm, cynllunio a chyllid, technoleg fanwl gywir mewn amaethyddiaeth, ynni adnewyddadwy a TAW. Gellir cyrchu'r rhain o'ch cartref ar amser ac mewn lle sy'n gyfleus i chi.

4) Mentora

Gwyddom eich bod yn hoffi gweld beth mae ffermwyr eraill wedi’i wneud. Dyna pam mae Cyswllt Ffermio yn darparu mentora rhwng ffermwyr, ac mae ganddynt dîm o fentoriaid sydd wedi bod yn yr un sefyllfa ac sydd wedi gwireddu eu syniadau.
Mae yna lawer o fentoriaid sydd wedi’u cymeradwyo yn awyddus i rannu eu profiadau eu hunain o arallgyfeirio, gan gynnwys mentoriaid arbenigol ar ddatblygu eiddo a thwristiaeth er enghraifft.
Mae'r cymorth hwn yn cynnwys 15 awr o sesiynau mentora wedi'u hariannu'n llawn gyda mentor o’u dewis, trwy ymweliadau wyneb yn wyneb, sgyrsiau dros y ffôn, galwadau fideo neu gyfnewid e-bost.
Mae rhai mentoriaid yn arbenigo mewn arallgyfeirio a gellir gweld rhestr o’r rhain yma.

5) Agrisgôp

Wrth ymgymryd â phrosiect arallgyfeirio i sector anghyfarwydd, gall ffurfio grŵp gydag eraill sy'n mynd trwy broses debyg ddarparu rhywfaint o ofod i feddwl a chymorth y mae ei angen yn fawr.
O dan arweiniad hwylusydd hyfforddedig, mae Agrisgôp yn dod ag 8 - 10 busnes ynghyd i ddysgu sgiliau rheoli newydd, i gyrchu gwybodaeth a chael cymorth arbenigol a herio ei gilydd i hyrwyddo’r prosiect. Cliciwch yma i ddewis eich hwylusydd.

6) Podlediadau

Roedd Digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio diweddar Cyswllt Ffermio yn cynnwys amrywiaeth o bodlediadau byw, gyda thri yn ymwneud yn benodol ag arallgyfeirio.

Mewn un podlediad, mae Claire Jones yn trafod arallgyfeirio i fusnes llaeth ar Fferm Pant, Llanddewi Brefi, tra bod David Selwyn o Landsker yn edrych ar beth i’w ystyried cyn arallgyfeirio ac yn cael cwmni dau unigolyn sydd wedi sefydlu busnesau fferm newydd sbon.

Archwilir cyfleoedd i arallgyfeirio o fewn y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru hefyd.
Mae dros 80 o benodau ar gael y gellir gwrando arnynt unrhyw bryd ac o unrhyw le, felly beth am i chi edrych ar wefan Cyswllt Ffermio neu chwiliwch am bodlediad Clust i’r Ddaear ar Apple i-tunes neu Spotify i archwilio’r ystod eang o gyfweliadau gyda ffermwyr ac arbenigwyr diwydiant ar ystod o themâu amserol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma neu cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint