25 Mawrth 2019

 

aa 0
Yn fuan wedi lansiad rhaglen datblygiad personol flaenllaw Cyswllt Ffermio, sef yr Academi Amaeth, yn 2012 bu ymgeiswyr y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig (RLP) i gyfarfod arweinwyr polisi amaethyddol yn Senedd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, roedd angen ail ystyried yr ymweliadau astudio blynyddol hynod addysgiadol hynny â Brwsel ac Ewrop. Mae’r tirlun gwleidyddol wedi newid ar gyfer yr Academi Amaeth a’i 200 o gyn-fyfyrwyr. Bydd yr unigolion ffodus hynny nad ydynt wedi eu dethol eto ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig 2019, yn ymweld â phencadlys Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa.

Felly, wrth i’r byd drafod Brexit a’i oblygiadau, beth sydd flaenaf heddiw ym meddyliau ‘Dosbarth Arweinyddiaeth Wledig 2012’? Pan fyddent yn cwrdd i gael un o’u haduniadau rheolaidd – mae’r mwyafrif wedi cadw mewn cysylltiad agos dros y blynyddoedd - ydyn nhw’n siarad am Brexit? Mae’n ymddangos mai’r ateb yw ‘na’!

Y grŵp arbennig yma oedd y llu cyntaf un o ymgeiswyr a fu’n rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, sy’n gydweithrediad gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Saith mlynedd yn ddiweddarach, am fod eu rhif wedi tyfu erbyn hyn gyda nifer o bartneriaid a gwŷr a gwragedd o’r un meddylfryd â nhw, maent yn dal i fod yn gyfeillion, yn dal i’w cefnogi ei gilydd, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn weladwy iawn, yn arweinwyr gwledig amlwg sy’n dylanwadu ar yr agenda gwledig yng Nghymru wrth iddi ei pharatoi ei hun ar gyfer posibiliadau bywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Gyda’i gilydd, maent yn siarad cyfrolau am fanteision y rhaglen, sy’n denu amrywiaeth mawr o geisiadau o un flwyddyn i’r nesaf gan unigolion o bob oedran, gan gynrychioli meysydd niferus o fywyd gwledig yng Nghymru.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth 2019, y Rhaglen Fusnes ac Arloesi a Rhaglen yr Ifanc (wedi’i thargedu ar gyfer y rheiny sy’n 16 - 19 oed) yn agored yn awr hyd 31 Mawrth.

Mae pob rhaglen yn cylchdroi o amgylch tri chyfnod dwys o dri diwrnod sy’n cynnwys cyfarfodydd rhwydweithio, mentora, hyfforddiant ar gyfer y cyfryngau ac ymweliad astudio dramor. Cynigir cyfle i ymgeiswyr iau gael profiad gwaith hefyd, sy’n ddefnyddiol iawn ar bob cv.

“Ar y penwythnos cyntaf hwnnw yn 2012, roedd hi’n ymddangos ein bod yn grŵp hollol gymysg o unigolion o bob oedran a phroffesiwn. Roedd gennym y ffermwyr llaeth, eidion a defaid yr oeddem oll yn disgwyl eu gweld mae’n debyg, ond roedd hefyd gyfreithwyr, syrfewyr, asiantiaid tir a nifer o rai eraill oedd wedi dargyfeirio ac a oedd yn rhedeg busnesau gwledig llwyddiannus ochr yn ochr â ffermio o ddydd i ddydd. Doedd yr un ohonom wedi disgwyl y cyfeillgarwch cadarn, y rhwydweithiau cefnogi a’r arweiniad sy’n parhau heddiw, saith mlynedd yn ddiweddarach.”

Daw’r dyfyniad yma gan Keri Davies, sy’n ffermio yn Glwydcaenewydd, sef daliad organig eidion a defaid 330 erw yng Nghrai, a gynhaliodd yr aduniad cyntaf yn 2019 yn un o’i sguboriau gwyliau enfawr 5* wedi’u haddasu. Cafodd yr aduniad diweddaraf ei hysbysebu fel cyfle i gymryd seibiant, adolygu eu cyflawniadau dros y pum mlynedd diwethaf ac ystyried eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i’r diwydiant amaeth baratoi ar gyfer dyfodol ansicr y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl yr aelod o’r grŵp Dr. Catherine Nakielny, ymgynghorydd amaethyddol ac arbenigwr defaid adnabyddus, mae’r ffocws bob amser ar faterion y gall yr unigolion eu rheoli eu hunain, felly mae trafodaethau fel arfer yn canolbwyntio ar lefelau perfformiad y dyfodol, a chyflawni cymaint ag y gallent ar ‘lefel bersonol, busnes a chymuned’.

Mae’r cyfreithiwr gwledig, Dr Nerys Llewelyn Jones o Agri Advisor, yn dweud bod manteision ymuno â’r Academi Amaeth wedi bod yn anfesuradwy iddi.

 “Cyflwynodd ffyrdd newydd o feddwl i ni a rhoddodd gyfle i ni ddablygu sgiliau arweinyddiaeth er mwyn i ni allu dod yn eiriolwyr ac yn llefarwyr dros ein cymunedau gwledig.

“Mae’r manteision yn anodd eu cyfrif, ond does dim amheuaeth yn fy meddwl i bod y profiad Academi Amaeth, gyda’i ffocws ar les holistig a deallusrwydd emosiynol, yn effeithio ar ba mor dda yr ydym oll yn byw ein bywydau.”

Mae’r ysgolor o Nuffield, Gail Jenkins, sy’n syrfewr gwledig yn ogystal â ffermwr, yn dweud bod y profiad Academi Amaeth yn newid bywydau.

 “Wna i byth anghofio gweithgaredd torri’r rhew pan fuom oll yn glynu nodiadau gludiog o gyngor i’n gilydd ar fwrdd gwyn yn dilyn ein trafodaethau cynnar.

“Yn ystod y penwythnos cawsom y cyfle i wrando ar ein gilydd, i gael ein hysbrydoli, ein hannog ac, yn fwyaf pwysig, i siarad yn onest ac yn agored amdanom ein hunain ac am ein gobeithion ar gyfer y dyfodol.

 “Mae’n rhaid fy mod wedi dweud rhywbeth am geisio magu’r hyder i deithio, oherwydd gwelais nodyn gan un aelod o’r grŵp, Chris Hanks. Roedd wedi ysgrifennu ‘dos i weld y byd, mae gen ti’r gallu i wneud hyn’.

 “Ac fe wnes, drwy fy Ysgoloriaeth Nuffield!”

Roedd Chis, sy’n raddedig mewn cemeg and yn arbenigwr mewn deunyddiau adnewyddadwy sy’n gweithio ar fferm 2,000 erw ym Mro Morgannwg, yn un o’r ymgeiswyr cynnar hynny sydd, fel pawb arall, yn argyhoeddedig am effaith yr Academi Amaeth ar ei fyd ef a byd pobl eraill.

 “Roeddwn wedi bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i mewn i’r diwydiant erioed ac roeddwn yn awyddus i esbonio i blant ysgol, yn enwedig y rheiny mewn ardaloedd trefol, y dylai gyrfa ar y tir fod yn rhywbeth y gallent ei hystyried o ddifrif.”

Heddiw, mae Chris Hanks ac Emily Davies, sy’n arbenigwr manwerthu gwledig sy’n gweithio i Hybu Cig Cymru erbyn hyn ac sy’n Llysgennad i Sioe Frenhinol Cymru eleni, wedi uno gyda’r ffermwr llaeth adnabyddus o Forgannwg Abi Reader. Gydag Abi (RLP 2014) a nifer o gyn-fyfyrwyr eraill yr Academi Amaeth, byddent oll yn helpu i lansio prosiect sioe deithiol diweddaraf Abi, Cows on Tour i blant ysgol ledled Cymru’r gwanwyn yma.

Os ydych yn nabod rhywun allai elwa o ymuno ag Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, anogwch nhw i wneud cais heddiw. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen eleni ac i lawrlwytho ffurflenni cais, cliciwch yma. Y dyddiad cau yw 31 Mawrth 2019.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn clywed sut mae cynllun 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio yn diogelu ffyniant ffermydd teuluol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
18 Gorffennaf 2024 “Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu
Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio yn ceisio dod o hyd i reolaeth fiolegol effeithiol yn erbyn gelyn tyfwyr mefus
11 Gorffennaf 2024 Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd