Gall ffermwyr a choedwigwyr sydd wedi cofrestru gyda’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd wneud cais ar lein am gymorth ariannol hyd at 80% ar gyfer cyrsiau hyfforddiant byr wedi'u hachredu sydd ar gael trwy'r rhaglen 'Buddsoddi mewn Sgiliau a Mentora', sef rhaglen dysgu a datblygiad gydol oes arloesol newydd Cyswllt Ffermio. Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig.

Bydd y cyfnod ymgeisio yma ar agor rhwng 1 Mehefin a 30 Mehefin 2016.

Mae’r rhaglen newydd yn cael ei darparu gan Lantra Cymru ar ran Cyswllt Ffermio. Dywedodd Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas heddiw bod nifer y rhai sy'n manteisio ar y rhaglen newydd eisoes wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau gyda thros 1,000 o unigolion wedi derbyn lleoedd ar gyrsiau hyfforddiant. Pwysleisiodd mai dim ond ar lein y gellir cyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol. 

“Mae angen cwblhau proses syml cyn y gallwch ymgeisio, sy’n cynnwys cwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) ar lein. Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r rhaglen Cyswllt Ffermio ac wedi derbyn eich rhif cofrestru Cyswllt Ffermio unigol cyn y gallwch gwblhau eich Cynllun Datblygu Personol (CDP).

“Mae dros 1,350unigolyn bellach wedi cofrestru ar gyfer Cynlluniau Datblygu Personol. Bydd CDP yn rhoi man cychwyn i chi a fydd yn gosod lefel bresennol eich dealltwriaeth ac yn eich cynorthwyo i adnabod anghenion hyfforddiant ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar sail tymor byr neu dymor hir," meddai Mr Thomas.

Gall unrhyw un sydd angen cymorth i gwblhau eu Cynllun Datblygu Personol alw heibio i gyfres o weithdai a drefnwyd ledled Cymru - mae dyddiadau a lleoliadau ar gael ar dudalen Cynllun Datblygu Personol gwefan Cyswllt Ffermio.

Bydd angen i unrhyw un sy’n bwriadu gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer cwblhau cwrs yn ymwneud â defnydd o beiriannau neu offer gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch Cyswllt Ffermio gyntaf.

Mae ffurflenni cais, ynghyd â rhestr o gyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio a darparwyr hyfforddiant sydd wedi’u cymeradwyo, gwybodaeth ynglŷn â'r amrywiaeth newydd o gyrsiau e-ddysgu, ac arweiniad ynglŷn â chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar gael ar dudalen Hyfforddiant gwefan Cyswllt Ffermio. 

Bydd angen i unrhyw un sy’n bwriadu ymgeisio ar gyfer hyfforddiant siarad gyda'r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd ganddynt gyntaf, er mwyn derbyn y costau cywir ar gyfer y cwrs, gan fod angen eu cynnwys ar y ffurflen gais.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â'r rhaglen newydd a sut all fod o fudd i chi, yn ogystal â manylion cyswllt eich Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol fydd yn gallu rhoi'r gefnogaeth a'r arweiniad sydd arnoch ei angen ar wefan Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y