hannah 2 0
Hannah Wright yw’r swyddog datblygu Cyswllt Ffermio a benodwyd yn ddiweddar ar gyfer rhanbarth De Cymru, sy’n cynnwys y Gŵyr ac ardal fawr yn hen sir Forgannwg.

Cafodd Hannah ei magu ar ddaliad bîff a defaid ei theulu yng ngogledd Gŵyr. Er bod bwlch yn yr olyniaeth ffermio yng nghenhedlaeth ei rhieni, gyda’i thad a’i mam yn gweithio mewn meysydd eraill, dywed mai ei nod erioed oedd dychwelyd adref a datblygu’r bumed genhedlaeth o’r teulu i ffermio. Bellach mae'n cyfuno ei swydd newydd gyda Cyswllt Ffermio â ffermio rhan amser ochr yn ochr â’i thadcu a’i mamgu yn ogystal â bod ar ei blwyddyn olaf yn gwneud ail radd sylfaen mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr.

“Roedd fy ngradd 2.1 gyntaf mewn ffasiwn a bûm yn gweithio fel gwniadwraig am nifer o flynyddoedd. Ond yn 2014, dilynais fy ‘mreuddwyd amaethyddol’ a gweithiais ar fenter odro fawr yn Seland Newydd lle dysgais gymaint am reoli busnes. Yn 2015 roedd yn bryd dychwelyd i’r DU felly symudais i’r Alban gan weithio drwy’r tymor ŵyna, profiad dysgu gwych arall, cyn dychwelyd i Gymru a chofrestru i ddilyn ail radd mewn amaethyddiaeth.

Erbyn heddiw, mae Hannah yn bwriadu ailgyflwyno rhaglen fridio i’w fferm. Yn ddiweddar prynodd ddiadell fach o ŵyn benyw Llŷn ac mae’n bwriadu cynyddu’r nifer fesul blwyddyn. Ochr yn ochr â hyn, mae'n gobeithio cynyddu’r fenter magu lloi, trwy gyflwyno buches fechan o wartheg Hereford croes. 

Mae Hannah yn edrych ymlaen at ei swydd newydd gyda Cyswllt Ffermio.

“Er bod fy ardal ddaearyddol yn fawr, ac yn tueddu ar hyn o bryd i ganolbwyntio’n bennaf ar ffermio bîff a defaid, mae’n ardal sy’n denu llawer o gynlluniau twristiaeth hefyd. 

“Rwy’n awyddus i gyfeirio ffermwyr at wasanaethau a phrosiectau niferus Cyswllt Ffermio. Ar ôl manteisio ar nifer ohonynt fy hun, rwy’n gwybod eu bod yn gallu helpu i drawsnewid effeithlonrwydd busnes a chynhyrchiant yn y ffordd fwyaf effeithiol a phroffidiol.

“Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau’n gysylltiedig ag arallgyfeirio, cynllunio technegol a busnes ond hefyd prosiectau arbenigol sy’n gallu helpu ffermwyr i wella datblygiad personol a busnes, sy’n gallu gwneud eu busnesau’n fwy proffidiol a bydd hynny yn ei dro’n datblygu’r diwydiant yng Nghymru,” meddai Hannah.     

Mae Hannah eisoes yn adnabyddus yn lleol drwy ei swydd flaenorol gyda NFU Mutual yn Abertawe a’i chysylltiadau parhaus â changen CFfI Morgannwg lle mae wedi bod yn gyn drysorydd ac ysgrifennydd, ac mae'n cael ei gwahodd yn aml i helpu i feirniadu a chynghori ynghylch cystadlaethau lleol.  

Bydd yn rheoli tri grŵp trafod Cyswllt Ffermio ar bynciau penodol ar gyfer ffermwyr defaid yn ei hardal ond mae hefyd yn awyddus i glywed oddi wrth ffermwyr bîff, gan ei bod yn bwriadu sefydlu grŵp trafod newydd cyn bo hir.

“Cysylltwch â mi os ydych yn awyddus i wella lefel cynhyrchiant eich gwartheg bîff. Rwy’n bwriadu cynnwys milfeddyg lleol sy’n rhan o brosiect sgrinio BVD a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’r grŵp a byddwn yn trafod pynciau fel maeth ac iechyd a lles cyffredinol anifeiliaid,” meddai Hannah.   

Efallai y byddwch hefyd yn gweld Hannah yn rhai o’r arwerthiannau yn ei hardal, yn cynnwys Penderyn yng Nghwm Nedd a Marchnad y Bontfaen. 

I gysylltu â Hannah a chael mwy o wybodaeth sut y gall Cyswllt Ffermio eich helpu chi a’ch busnes, cliciwch yma, neu cysylltwch â Hannah ar 07984 251190 / hannah.wright@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o