2 Medi 2019

 

Mae cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant wedi cael eu hychwanegu at y rhestr gynhwysfawr o gyrsiau sgiliau busnes, technegol ac ymarferol a chyrsiau hyfforddiant sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, felly mae’n bryd i chi ystyried eich opsiynau!

Mae’r trydydd cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar agor nawr hyd 17:00 ddydd Gwener 1 Tachwedd 2019, a dyma’r cyfnod ymgeisio olaf am eleni.

Mae’r rhaglen, a ddarperir gan Lantra Cymru ar ran Cyswllt Ffermio, yn darparu ystod gynhwysfawr o hyfforddiant mewn sawl fformat ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywed Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, ei bod yn hanfodol i bawb sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol er mwyn rhedeg eu busnesau mewn modd effeithlon wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer amodau masnach ansicr at y dyfodol.

“Rwy’n annog pob busnes sydd wedi cofrestru i ystyried y cyfleoedd sydd ar gael yn ystod y cyfnod ymgeisio olaf ar gyfer 2019.

“Er y bydd mwy o gyfle i ymgeisio yn ystod y flwyddyn nesaf, rydym ni’n awyddus i annog pob aelod cymwys o’ch teulu nad ydynt wedi cofrestru gyda’r rhaglen eisoes i gofrestru nawr ac i fanteisio ar yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael. 

“Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael tuag at gyrsiau hyfforddiant i fusnesau cofrestredig, ac mae eich busnes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, gallwch chi, aelodau’r teulu a gweithwyr PAYE ddewis unrhyw hyfforddiant sy’n angenrheidiol,” meddai Mr Thomas.

Mae Cyswllt Ffermio bellach yn cynnig dros 80 o gyrsiau hyfforddiant. Ynghyd â’r pynciau sydd eisoes ar gael, mae’r cyrsiau mwyaf diweddar a ychwanegwyd yn cynnwys cyrsiau diogelwch bwyd a phrosesu cig; technoleg drôn a hyfforddiant iechyd a diogelwch, un ogystal â chyrsiau’n ymwneud â busnes ac iechyd anifeiliaid megis sgorio symudedd gwartheg, defnyddio a gwasgaru slyri’n ddiogel a chyfrif wyau ysgarthol.

“Trwy barhau i ymateb i ofynion y farchnad, mae’r ystod o hyfforddiant a ddarperir yn datblygu’n barhaus, a chredwn fod gennym ni rywbeth i’w gynnig i bob unigolyn ym mhob busnes yng Nghymru,” meddai Mr Thomas.

Bydd angen i bob ymgeisydd gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) Cyswllt Ffermio ar lein. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ddydd Llun, 28 Hydref 2019. Mae cyfraddau ariannu’n amrywio. Mae cyrsiau gwella busnes a sgiliau technegol yn cael eu hariannu hyd at 80%. Mae cyrsiau defnyddio peiriannau ac offer yn cael eu hariannu hyd at 40%. Mae opsiynau eraill, gan gynnwys modiwlau e-ddysgu ar lein, cyrsiau TG a gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi’u hariannu’n llawn.

Cyn ymgeisio ar gyfer hyfforddiant, mae’n rhaid i bob ymgeisydd gwblhau cynllun datblygu personol (PDP) Cyswllt Ffermio ar lein. Mae cefnogaeth ar gael mewn gweithdai PDP arbenigol, wedi’u trefnu naill ai gan Cyswllt Ffermio gyda chefnogaeth swyddog datblygu rhanbarthol Cyswllt Ffermio, neu gan ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy. Cliciwch yma am ddyddiadau a lleoliadau ar gyfer y gweithdai nesaf.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r broses ymgeisio ar gyfer sgiliau, y broses llunio Cynllun Datblygu Personol (PDP) ac i lawr lwytho rhestr lawn o bob cwrs hyfforddiant Cyswllt Ffermio a darparwyr hyfforddiant, cliciwch yma neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Neu gallwch gysylltu â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites