Gyda chynlluniau i ehangu'r Parthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad, mae storio slyri a rheoli maethynnau yn faterion pwysig i ffermwyr da byw.

Bydd cynllunio storfeydd slyri sy’n addas ar gyfer rheoliadau’r dyfodol, gwerthuso’r buddsoddiad angenrheidiol er mwyn uwchraddio storfeydd a’r heriau sy’n ymwneud â rheolaeth slyri a thail ymysg y pynciau trafod mewn cyfarfod Cyswllt Ffermio ar fferm Moor Farm, Walwyn’s Castle, Hwlffordd.

Bydd egwyddorion rheoli maethynnau, cynllunio systemau storio hir dymor ac opsiynau cost effeithiol yn cael eu trafod gan Keith Owen ac Aled Roberts, ADAS. Byddant hefyd yn amlinellu sut all parthau NVZ effeithio ar reoliadau a sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad presennol ar y parthau NVZ yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys taith o amgylch y fferm, sy’n un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio, lle mae’r teulu Rees yn ystyried opsiynau i uwchraddio eu system slyri.

 

Datrysiadau Slyri addas ar gyfer y Dyfodol

Dyddiad: Dydd Llun 21ain Dachwedd 2016

Amser: 11:00 – 14:45

Lleoliad: Moor Farm, Walwyn’s Castle, Hwlffordd SA62 3EE

 

Mae croeso cynnes i bawb yn y digwyddiad, a darperir cinio. Gofynnwn i chi archebu lle ymlaen llaw trwy gysylltu â Jamie McCoy ar 07985 379819 neu jamie.mccoy@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermydd newydd i ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd ar gyfer 2026
16 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ceisiadau gan
Curwch y cnoiad a brechwch yn gynnar, gweithredwch nawr i amddiffyn eich stoc rhag y Tafod Glas!
11 Mawrth 2026 Gyda'r misoedd cynhesach yn agosáu, anogir
Tyfu ar gyfer twf E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio – Tymor y gwanwyn 2026