10 Gorffennaf 2018

 

Mewn byd delfrydol, byddai’r genhedlaeth hŷn yn trafod eu cynlluniau ar gyfer dyfodol y busnes fferm yn agored gydag aelodau eraill y teulu. Byddent yn “dechrau’r sgwrs” ymhell cyn i drafodaeth o’r fath fod yn angenrheidiol.  

Yn anffodus, nid yw hyn yn digwydd bob amser, ac mae hynny’n arwain at oblygiadau difrifol i deuluoedd a ffermydd yng Nghymru, yn ôl Einir Davies, rheolwr mentora a datblygu gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

“Y bygythiad mwyaf i nifer o fusnesau fferm yng Nghymru yw diffyg cynllun olyniaeth gadarn, a dyna pam mae Cyswllt Ffermio wedi lansio ymgyrch olyniaeth newydd yn ystod fforwm Merched mewn Amaeth yn ddiweddar ym Mangor Is-Coed ac wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn bwnc trafod o amgylch bwrdd y gegin eleni,” meddai Ms Davies.

Mae’r ymgyrch newydd, “Dechreuwch y Sgwrs, mae’n werth ei chael” yn cynnwys cyfres o wasanaethau cefnogi a chanllawiau ar gyfer cynllunio olyniaeth a fydd yn cynorthwyo teuluoedd i ganfod ffordd o gynnal trafodaethau sy’n aml yn heriol ac yn anodd.

“Mae busnesau nad ydynt yn cynllunio ymlaen llaw mewn perygl o wynebu goblygiadau difrifol iawn ar gyfer y teulu a’r fferm gan amrywio o anghydfod teuluol a cholli cartrefi a bywoliaeth i sefyllfeydd ariannol anffafriol a’r effaith ar bawb pe byddai angen gwerthu, chwalu neu rannu’r fferm deuluol.

“Bydd cynllunio olyniaeth yn mynd i’r afael â sut a phryd y dylid trosglwyddo asedau i’r genhedlaeth nesaf, gan gynnwys eu paratoi ar gyfer y dyfodol a throsglwyddo cyfrifoldeb hefyd,” meddai Ms Davies.

Cam cyntaf ar gyfer y rhai sydd eisiau gwybod pryd y dylent ofyn am gyngor a chan bwy yw derbyn copi o lyfryn cynllunio olyniaeth Cyswllt Ffermio. Mae’r llyfryn A4 hwn yn hawdd i’w ddefnyddio, ac mae’n amlinellu’r gefnogaeth a’r arweiniad sydd ar gael i helpu teuluoedd baratoi ar gyfer y trafodaethau pwysig sydd angen eu cynnal. Mae hefyd yn cynnwys ‘pecyn adnoddau cynllunio olyniaeth’ sy’n darparu templedi sy’n galluogi ffermwyr i drafod a chofnodi’r ffeithiau, barn a nodau pob aelod o’r teulu, gan arbed amser gwerthfawr cyn cysylltu â’u harbenigwyr proffesiynol eu hunain. Gallwch gael copi gan eich swyddog datblygu lleol neu o unrhyw sioe amaethyddol, gan gynnwys Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, ble bydd Cyswllt Ffermio yn bresennol.

Bydd yr ymgyrch newydd yn cyfeirio teuluoedd fferm at dîm o fentoriaid ‘olyniaeth’ sydd newydd eu penodi i ymuno â rhaglen fentora lwyddiannus Cyswllt Ffermio sydd wedi’i hariannu’n llawn. Gall ffermwyr cymwys ymgeisio am hyd at 22.5 awr o gyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol wedi’i ariannu’n llawn gan fentor sydd â phrofiad perthnasol neu ddealltwriaeth o gynllunio olyniaeth. Cliciwch yma i edrych ar y cyfeirlyfr mentora ar lein, sydd hefyd yn cynnwys mentoriaid gyda phrofiad mewn nifer o feysydd busnes a thechnegol, gan gynnwys mentrau arallgyfeirio arbenigol, ynghyd ag arbenigwyr diogelwch fferm. Bydd system hidlo yn eich cynorthwyo i ganfod y mentro gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd arnoch ei angen cyn ymgeisio ar gyfer y gwasanaeth. 

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn trefnu cymorthfeydd olyniaeth ble gall ffermwyr cymwys drefnu cyfarfod un i un wedi’i ariannu’n llawn gyda chyfreithiwr amaethyddol arbenigol. Am fanylion y rownd nesaf o ddyddiadau a lleoliadau ac i archebu lle, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol neu cliciwch yma.

Byddwch yn derbyn crynodeb o’ch cyfarfod, ac yna gallwch drafod gyda’ch cynghorydd proffesiynol eich hun,” meddai Ms Davies, ac ychwanegodd y gall unrhyw deuluoedd sydd angen cefnogaeth bellach gyda chynllunio busnes strategol, gallant dderbyn cyllid o hyd at 80% trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y