Mae deuddeg unigolyn uchelgeisiol, llawn cymhelliant sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yn paratoi i bacio cês a chwilio am eu pasbort cyn cychwyn ar daith gyfnewid i fusnes yn y sector ffermio neu goedwigaeth yn Ewrop.   

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, enwau’r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio eleni mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun, 24 Gorffennaf.

Wrth longyfarch yr unigolion llwyddiannus, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, “Mae’r rhaglen yn gyfle gwych i weld â’ch llygaid eich hun sut mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn ymdrin â’r materion a’r heriau a wynebir o ddydd i ddydd yma yng Nghymru. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant, byddwch yn sicr o gael cyflwyniad i gysyniadau newydd a dulliau gwahanol neu well o weithio.

“Byddwch yn dysgu am wahanol agweddau tuag at reoli busnes a thrwy ehangu eich sgiliau, eich gallu technegol a’ch arbenigedd busnes, gobeithiaf y byddwch yn dychwelyd i roi’r wybodaeth a’r arbenigedd yma ar waith yn eich busnesau eich hunain. A bydd Cyswllt Ffermio yn gofyn i chi rannu’r wybodaeth hon drwy ei rhwydweithiau ei hun, a fydd yn ei dro o fudd i’r diwydiant ehangach yng Nghymru.

“Rwy’n hynod falch bod y rhaglen bwysig hon, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, unwaith eto wedi denu ceisiadau o safon uchel iawn gan unigolion a oedd yn gallu dangos eu hymrwymiad i ddatblygu’n broffesiynol, a phob unigolyn yn amlwg yn awyddus iawn i ddatblygu elfen gystadleuol a hyfywedd eu busnesau eu hunain.”

Dewiswyd yr ymgeiswyr eleni gan banel o feirniaid annibynnol dan arweiniad yr Athro Wynne E. Jones OBE FRAgS, cadeirydd Bwrdd Cynghori Strategol Cyswllt Ffermio; Alun Jones, prif weithredwr Menter a Busnes, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Gethin Owen, ffermwr ifanc o Gonwy a astudiodd dechneg rheoli glaswellt ‘Charpentier’ yn Ffrainc fel rhan o raglen cyfnewidfa gyntaf Cyswllt Ffermio.

Nodau’r rhaglen yw galluogi’r ddwy ochr i adnabod cyfleoedd datblygu ar lefel bersonol a busnes, ac i hwyluso trosglwyddiad a gweithrediad gwybodaeth yn arfer dda arloesol a fyddai’n gallu cael ei roi ar waith gartref a rhannu gyda’r diwydiant ehangach yng Nghymru. Disgwylir i bob cyfnewidfa gymryd hyd at chwe wythnos, ac mae’r rhai a ddewiswyd hefyd yn cael cyfle i groesawu rheolwr fferm neu goedwig wedi’i hyfforddi’n briodol sy’n gweithio yn yr UE ar hyn o bryd i’w daliad cartref.

Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus rannu canfyddiadau eu profiad dysgu trwy sianeli cyfathrebu a rhaglen digwyddiadau arferol Cyswllt Ffermio.

 

Am wybodaeth fanwl ynglŷn ag ymgeiswyr eleni ac i weld y lleoliadau maent yn bwriadu ymweld â nhw a’r hyn y maent yn gobeithio ei ddysgu, cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint