13 Mai 2019

 

oli hodgkinson 1 1
Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio ar y cyd gyda milfeddygon ledled Cymru i ddarparu gweithdai hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer ffermwyr. Nod y fenter yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd anifeiliaid a’i effaith ar dda byw yng Nghymru yn ogystal â’r goblygiadau economaidd a allai gael effaith torcalonnus ac andwyol ar rai busnesau.

Mae pynciau’r gweithdai yn cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd a lles anifeiliaid presennol Llywodraeth Cymru ac mae modiwlau hyfforddiant wedi cael eu llunio gan NADIS (y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefydau Anifeiliaid).  

Mae dros 30 practis a mwy na 120 o filfeddygon fferm yn ymwneud â darparu’r hyfforddiant, a bydd pob un yn hyrwyddo’r gweithdai i’w cleientiaid eu hunain ac o fewn eu cymunedau lleol.  Mae rhestr o’r clefydau a’r materion a fydd yn cael eu trafod yn cynnwys y canlynol ar hyn o bryd: cynllunio iechyd anifeiliaid; ymwrthedd gwrthficrobaidd ac anthelminitig; TB buchol; BVD; Clefyd Johne; cloffni mewn gwartheg llaeth; rheoli parasitiaid mewn defaid, gan gynnwys llyngyr a phryfed; lleihau mastitis a lleihau colledion cyn ac ar ôl ŵyna.

Dywed Rebecca Summons, sy’n rheoli’r prosiect ar ran Lantra Cymru, fod pob ffermwr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gallu ymgeisio am le mewn un neu fwy o’r gweithdai drwy gwblhau ffurflen ‘datganiad o ddiddordeb’ ar lein yn y lle cyntaf, ac mae’r ffurflen ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio. Mae’r wefan hefyd yn rhestru’r gweithdai a’r practisau milfeddygol sy’n cymryd rhan.

“Mae’n rhaid i bob lle gael ei gadarnhau gan y practis perthnasol, gan mai 20 lle yn unig fydd ar gael ym mhob gweithdy. Os nad yw eich milfeddyg eich hun yn cynnig y gweithdy/gweithdai sydd o ddiddordeb i chi, gallwch fynegi diddordeb yn yr un/rhai sydd fwyaf perthnasol.

“Bydd pob gweithdy tair awr o hyd yn darparu arweiniad ymarferol ar ganfod, atal, rheoli a thrin rhai o’r clefydau mwyaf nodweddiadol neu sy’n digwydd fwyaf aml, ynghyd â materion sy’n effeithio ar fusnesau fferm yng Nghymru,” meddai Ms. Summons.

Mae’r milfeddyg fferm, Oliver Hodgkinson o gwmni Trefaldwyn Vets, Sir Drefaldwyn, enillydd teitl Cynghorydd Fferm y Flwyddyn y Farmers Weekly y llynedd, yn un o’r milfeddygon a fydd yn darparu’r gweithdai. Dywed Mr Hodgkinson y bydd y fenter newydd nid yn unig yn helpu ffermwyr i ganfod materion cyn iddynt achosi problem, ond byddant hefyd yn gwybod beth i’w wneud i leihau risgiau o fewn eu busnesau eu hunain.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr, a nifer ohonynt eisoes yn gleientiaid i’r practis, ymuno a dysgu sut i roi systemau arfer dda ar waith gyda hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol wedi’i ariannu’n llawn.

“Bydd pob gweithdy’n ymwneud ag elfennau sy’n cyfrannu at y safonau iechyd a lles gorau posibl gan gynnwys bioddiogelwch a’r ffyrdd gorau i osgoi trosglwyddo clefydau.

“Bydd mynychwyr yn derbyn arweiniad ar arwyddion clinigol a diagnosis, triniaeth a rheolaeth mewn sectorau penodol a byddant hefyd yn datblygu dealltwriaeth o’r goblygiadau economaidd ar gyfer y busnes yn gyffredinol,” meddai Mr. Hodgkinson.

Noder: Bydd ffermwyr defaid sy’n bwriadu ymweld â Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad CAFC eleni (Llanelwedd, Mai 18/19) hefyd yn gallu galw i mewn i glywed cyflwyniad byr ar Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Nghornel y Siaradwyr, Neuadd De Morgannwg am 2pm ddydd Sadwrn, 18 Mai lle bydd Phoebe McCarter, milfeddyg NADIS, yn trafod sut i wella iechyd, cynhyrchiant a phroffidioldeb y ddiadell drwy fynd i’r afael â’r broblem dymhorol o reoli parasitiaid mewn defaid, gan gynnwys llyngyr a phryfed.

Mae Cyswllt Ffermio a’r rhaglen hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu’r rhaglen hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid, sy’n gytundeb ar alw ar gyfer Rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y