Doedd dim darbwyllo Bryony Gittins pan gafodd y cyfle i ddychwelyd i’r fferm deuluol yn Llanddewi Nant Hodni ger y Fenni, lle magwyd hi, i helpu ei rhieni i redeg y fferm o ddydd i ddydd. Yn ei harddegau hwyr roedd hi a’i brodyr a’i chwiorydd wedi helpu ei rhieni i arallgyfeirio, gan sefydlu menter farchogaeth a merlota lwyddiannus ar y fferm.     

A hithau wedi byw a gweithio y tu allan i’r diwydiant ers nifer o flynyddoedd, yn Llundain ac yn fwy diweddar yn y Gelli Gandryll, lle bu’n gweithio fel hyfforddwraig campau awyr agored, mae Bryony yn awr ar ymgyrch bersonol i ddwyn y fferm deuluol yn ôl i’w gogoniant ac ennill ei bywoliaeth fel ffarmwraig lawn amser.  

“Mae’r fferm wedi bod yn ein teulu ni ers dwy genhedlaeth yn barod, ac nid oeddwn am weld yr olyniaeth yn dod i ben.”

Er mwyn sicrhau bod y busnes yn cyflawni ei botensial eto - mae’n cynnwys 276 erw o dir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda 100 erw arall ar rent - gwyddai Bryony bod rhaid iddi adnewyddu ei sgiliau ffermio a’i gwybodaeth, a dyna pryd y gwnaeth droi at Cyswllt Ffermio. 

Mae ei rhieni Colin a Cordelia Passmore wedi bod yn graddol lacio eu gafael ar y ffermio o ddydd i ddydd ers nifer o flynyddoedd. Yn 2016 roeddent wedi rhoi eu buches o 60 o wartheg Henffordd pedigri i fyny i ganolbwyntio ar eu diadell gymysg o ddefaid Lleyn, Texel a Charollais, yr oeddent yn gobeithio fyddai’n llai trwm o ran gwaith. 

Ond ar ôl penderfynu lleihau maint y ddiadell, fe wnaethant weld bod ganddynt broblem newydd. Roedd gormod o laswellt, a aeth yn fuan yn dir ffrwythlon i ysgall, danadl poethion a rhedyn. 

 “Fe wnaeth Dad fy nghynghori i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ac yn fuan fe welais gymaint o arweiniad a chefnogaeth sydd ar gael, y rhan fwyaf ohono wedi ei ariannu’n llawn neu gyda chymhorthdal sylweddol.

stanton bryony crop
 

 “Dwi’n cofio ymuno â chyrsiau busnes Cyswllt Ffermio flynyddoedd yn ôl, pan wnaethom sefydlu’r fenter ferlota gyntaf, ac rwyf yn dal i ddefnyddio’r sgiliau hynny heddiw, felly doedd dim llawer o waith darbwyllo arnaf.”  

Yr hyn nad oedd Bryony yn ei ddisgwyl, oedd y gallwch chi ddysgu llawer o gysur eich cartref eich hun y dyddiau hyn os ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Gwelodd fanteision e-ddysgu am y tro cyntaf wedi iddi gwblhau cynllun datblygu personol ar-lein (PDP) a ddynododd ei chryfderau ond hefyd y bylchau yn ei gwybodaeth, ymunodd â chwrs Iechyd a Diogelwch fferm ar-lein gan Cyswllt Ffermio. Mae hyn yn hanfodol os ydych yn bwriadu ymgeisio am hyfforddiant ymarferol a chyrsiau peiriannau.

Er mwyn taclo mater y borfa wael ei hansawdd, fe wnaeth wedyn ymuno ag e-gyrsiau ar systemau pori a rheolaeth glaswelltir yn gyffredinol. 

“Mae’n ddyddiau cynnar, ond rwyf eisoes wedi dechrau defnyddio'r hyn yr wyf wedi ei ddysgu. Mae’r modiwlau yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys eich stoc mewn ardaloedd llai a’u cylchdroi i borfa ffres, felly rydym eisoes wedi dechrau eu torri’n llai trwy wella’r holl ffensys a’r pyst giatiau.”

stanton gittins crop

Ymgeisiodd Bryony hefyd am gefnogaeth un i un trwy raglen fentora Cyswllt Ffermio. Mae Ben Anthony, ffermwr defaid profiadol o Sir Gaerfyrddin, a lwyddodd i wella perfformiad ei ddiadell ei hun trwy wella’r rheolaeth ar borfa wrth ddefnyddio cnydau a phorthiant wedi eu tyfu gartref, yn awr yn annog Bryony i ystyried rhai o’r systemau a’r rhywogaethau o laswellt y mae ef wedi eu profi ei hun. 

Mae gan Bryony a’i thad 500 o famogiaid yn mynd at yr hwrdd eleni, gyda 150 yn ymuno â nhw'r flwyddyn nesaf, ac mae’n bwriadu cynyddu niferoedd y stoc mewn rhaglen ehangu gyson.

 “Rwyf yn gweld dyddiau agored Cyswllt Ffermio yn ddefnyddiol dros ben, ac yn ychwanegol at weld beth sy’n gweithio orau i ffermwyr eraill, rwyf wedi dysgu cymaint hefyd am bynciau yn amrywio o ymwrthedd i driniaeth llyngyr mewn defaid hyd at reoli porfa,” dywedodd Bryony. Yn ddiweddar llwyddodd i gael ei thystysgrifau PA1 a PA6 plaleiddiaid, a gyllidwyd trwy gwrs hyfforddi Cyswllt Ffermio. 

Daeth y fenter farchogaeth i ben rai blynyddoedd yn ôl, ond mae Bryony eisoes yn sôn am y dyfodol a’r cyfleoedd am ffrwd incwm newydd.

“Os cawn ni’r tir a’r stoc yn perfformio ar eu gorau eto does wybod beth ddaw wedyn!”

Am ragor o wybodaeth am sgiliau a mentora, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites