28 Tachwedd 2019

 

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiadau ‘Paratoi ar gyfer Ŵyna’ gyda John Vipond, arbenigwr defaid adnabyddus. Yn dilyn amodau tywydd ffafriol dros y 12 mis diwethaf, dylai defaid fod mewn cyflwr da i wynebu misoedd y gaeaf sydd yn arwain at y tymor ŵyna.

 Bydd gofynion maethol mamogiaid, ansawdd porthiant a gwerth am arian o gyfansoddion, atal a thrin afiechydon metabolaidd yn cael eu trafod o fewn y digwyddiad hwn, yn ogystal â phwysigrwydd colostrwm, awgrymiadau i arbed llafur wrth ŵyna, hylendid ac arferion i leihau problemau wrth ŵyna (hypothermia, haint y cymalau, cegleithedd ac ati), materion iechyd sy’n cael effaith ar berfformiad.

Os ydych yn awyddus i ddatblygu eich gwybodaeth yn y maes yma ac i dderbyn y wybodaeth fwyaf diweddar ar gyfer y sesiwn ŵyna o flaen llaw, ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.

Mae archebu lle yn hanfodol. 

Mae lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd y digwyddiadau fel a ganlyn:

Dyddiad

Amser

Lleoliad

2/12/2019

19:30 – 21:30

The Kings Head, Dinbych, LL16 4NL

3/12/2019

19:30 – 21:30

Gwesty Llanina Arms, Llanarth, SA47 0NP

5/12/2019

19:30 – 21:30

The Purple Badger, Abertawe, SA3 1EU

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn