20 Rhagfyr 2018

 

 

gearing up for the festive season with a christmas rib of welsh black beef and rack of prime welsh lamb fourth generation farmer and butcher shaun hall jones from llanybydder pictured in his butchery busi 0

Er gwaetha’r pryderon am Brexit a ‘diffyg dêl neu ddêl wael’ i fusnesau ac aelwydydd fel ei gilydd, mae cartrefi drwy Gaerdydd wedi bod yn edrych ymlaen at ddathlu’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd gyda chynnyrch Cymreig o ansawdd o ffermydd ar odre Mynyddoedd y Cambria lle mae porfa dda. Mae'n newyddion da i nifer o ffermwyr da byw Cymru sy’n poeni am gynaliadwyedd tymor hir eu busnesau. Mae hefyd yn newyddion da iawn i un ffermwr uchelgeisiol o Gymru! 

Mae siopwyr Treganna, ardal ffasiynol o Gaerdydd, wedi cael gwledd o gynnyrch y Nadolig hwn diolch i fentergarwch arloesol y ffermwr a’r cigydd, Shaun Hall Jones a’i siop, Oriel Jones – Ffermwr a Chigydd. Sefydlodd Shaun, gŵr busnes ifanc, dynamig ac egnïol, ei fusnes ym mis Tachwedd 2017 ac mae’r cigydd yn mynd o nerth i nerth. Gyda chynlluniau ar y gweill i agor ail siop ym Mhontcanna yn y flwyddyn newydd, mae busnes yn amlwg yn llewyrchus i’r entrepreneur ifanc yma. Dywed Shaun fod cael ei ddewis fel ymgeisydd ar gyfer rhaglen gyntaf un Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn 2012 wedi’i annog i anelu’n uchel mewn bywyd!

Rhoddodd Shaun y gorau i’w yrfa fel athro cynradd yn 2011.  Penderfynodd ddychwelyd at ei wreiddiau a helpu ei dad Barrie i ddatblygu Llygadenwen, fferm 364 erw ar gyrion Llanybydder, pentref yn Sir Gaerfyrddin lle maent bellach yn cadw mwy na 600 o ddefaid Abermax a 40 o wartheg Duon Cymreig.

Mae’r ffermwr a’r cigydd, sy’n bedwaredd genhedlaeth o’r teulu, yn llefarydd amlwg dros ddiwydiant amaethyddol ac sy’n cyfrannu at ‘Farming Focus’ ar gyfer cylchgrawn y Farmers Weekly, nid yn unig yn angerddol dros fwyd da, ond mae hefyd yn gorfod cynnal enw da’r teulu! Mae ei daid Oriel Jones, ei dad Barrie ac ambell hen ewythr wedi bod yn ymhél â’r busnes bwtsiera ers bron i ganrif! Mae Shaun yn benderfynol o gynnal eu henw da a chynnig cynnyrch Cymreig arbennig i’w holl gwsmeriaid. 

Mae’r rhan fwyaf o’r cig y mae Shaun yn ei werthu wedi’i fagu naill ai ar y fferm deuluol neu ar ffermydd eraill y mae'n gweithio mewn partneriaeth â nhw yn Ne Orllewin Cymru, ac mae’r rhain yn arddel a chynnal y safonau gorau posibl o ran lles anifeiliaid a gofalu am yr amgylchedd. Defnyddir dulliau ffermio traddodiadol law yn llaw â’r ymchwil a’r technegau gwyddonol gorau diweddaraf sydd wedi galluogi i’r busnes teuluol hwn gynhyrchu dewis enfawr o gynnyrch Cymreig sydd wedi ennill gwobrau. Yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae asennau enfawr o gig Eidion Duon Cymreig, toriadau blasus o gig oen Cymreig a phorc a chywion ieir Cymreig o’r safon gorau wedi bod yn gwerthu’n gyflym o’r siop yn Nhreganna i gwsmeriaid craff, a nifer o brif fwytai’r brifddinas a phrynwyr cyfanwerthu.  

“O bensiynwyr oedrannus sy’n picio i’r siop i brynu un neu ddau o olwythion cig oen Cymreig, un neu ddwy selsigen gartref neu wyau buarth i brynwyr cyfanwerthu a chogyddion blaenllaw sydd eisiau trafod bwydlenni y maen nhw’n eu cynllunio, rydym yn ymfalchïo ar gynnig yr un gwasanaeth a rhoi’r un croesi i bawb.

“Rydym yn awyddus i’n holl gwsmeriaid fwynhau cynnyrch Cymreig o’r safon gorau o Gymru, gan wybod tarddiad y cig, o’r fferm i’r fforc, oherwydd dyma fydd yn cynnal ffermwyr Cymru er gwaetha amodau masnachu ansicr y dyfodol,” meddai Shaun.

“Roedd dechrau busnes bwtsiera newydd yng Nghaerdydd, lle mae marchnad cig a chynnyrch gwych eisoes yng nghanol y ddinas, yn ogystal â nifer o siopa cigyddion annibynnol llwyddiannus a’r holl fanwerthwyr mawr, yn teimlo fel breuddwyd hynod anodd, bron yn amhosibl.

“Roedd angen cryn ddewrder a hyder arnaf i agor fy siop gyntaf ond rwy’n falch fy mod i wedi mentro, gan nad oes dim yn rhoi mwy o foddhad na chlywed nifer o’n cwsmeriaid ffyddlon yn dweud ein bod yn gwerthu’r cynnyrch mwyaf arbennig iddyn nhw ei flasu erioed!”

Dywed Shaun, a ddewiswyd gan Sainsbury’s yn 2015 fel un o naw fferm yn y DU i gael gwahoddiad i dreialu prosiect pori am ddwy flynedd a hanner, fod ei brofiad o gwblhau Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio wedi bod yn ffactor sydd wedi cyfrannu at ei hyder mewn busnes. 

 “Fel cyn athro, rwy’n deall pwysigrwydd ddysgu. Mae'n hanfodol bod yn agored i syniadau newydd, ysbrydoliaeth newydd a chroesawu ffyrdd newydd a gwell o weithio. Credaf mai’r busnesau fferm sy’n datblygu ac yn llwyddo fwyaf yw’r rhai sy’n cael eu rhedeg gan unigolion sy’n fodlon datblygu eu sgiliau personol eu hunain, sydd yn ei dro’n eu helpu i ddatblygu sgiliau busnes mwy uchelgeisiol .

 “Gallai Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, trwy ei raglen hyfforddi, mentora, cefnogi ac arwain ac efallai’n bwysicach na dim, trwy ei gyfleoedd rhwydweithio, roi cyfle i chi newid eich bywyd, felly fy nghyngor yw, ymgeisiwch nawr!”

Gallwch wneud cais ar gyfer Academi Amaeth 2019 o ddydd Mawrth 22 Ionawr 2019 hyd at 31 Mawrth. Am wybodaeth bellach a meini prawf cymhwysedd ewch i'r wefan.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y