Dim ond 24 mlwydd oed oedd Eifion Pughe pan gafodd gyfle i ffermio ar ei liwt ei hun, gan wneud pob ymdrech i greu busnes hyfyw er mwyn gallu goroesi’r heriau sy’n wynebu ffermydd teuluol yng Nghymru.

Magwyd Eifion ar fferm bîff a defaid 145 erw’r teulu ger Machynlleth. Daeth ergyd drom pan oedd Eifion yn ddeuddeg oed; bu farw ei dad, gan arwain at ei fam yn gosod ychydig o’r tir ar rent. 

eifion pughe 0
Ar ôl gadael yr ysgol, gweithiodd Eifion i gontractwr amaethyddol yn yr ardal leol, yn ogystal â threulio wyth mis yn gweithio ar ffermydd yn Seland Newydd. Rhoddodd y cyfnod hwn gyfle iddo ehangu ei orwelion a’i annog i feddwl am ddychwelyd i’r fferm deuluol.

Cafodd gyfle i ddangos ei allu yn ei ugeiniau cynnar pan ofynnodd ei fam iddo gymryd cyfrifoldeb dros 20 erw, ac aeth ati i stocio’r tir gyda 50 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella. 

Yn fuan iawn, roedd y ddiadell yn dangos elw iach, ac ymhen ychydig, rhoddodd ei fam gyfle iddo ffermio 145 erw ychwanegol. Cynyddodd y ddiadell i 350 o famogiaid, a bu hefyd yn cadw buches fechan o wartheg sugno Hereford.

Er mwyn gwireddu dyhead Eifion i wella ei berfformiad blynyddol, roedd angen egni ac agwedd fentrus, yn ogystal â gallu busnes a thechnegol. Dyna pryd y bu iddo droi at raglen Cyswllt Ffermio.

“Roeddwn i’n benderfynol o fanteisio ar yr holl gymorth a chefnogaeth a oedd ar gael i mi, ac roedd Cyswllt Ffermio’n gallu darparu’r sbardun i symud y busnes yn ei flaen,” meddai Eifion, sy’n gyn aelod o’r Academi Amaeth, yn aelod o grŵp Agrisgôp, rhan o grŵp trafod Cyswllt Ffermio, ac yn llysgennad brwd dros raglen datblygu a mentora Cyswllt Ffermio.

“Roedd ychydig o’r tir yn tanberfformio, felly ymgeisiais am Gynllun Rheoli Maetholion trwy Cyswllt Ffermio, gan dderbyn cymhorthdal o 80% i samplu fy nghaeau.” 

Roedd y canlyniadau’n syndod. “Roeddwn i’n credu bod angen mwy o galch ar y tir, ond roedd y lefelau pH yn y rhan fwyaf o’r caeau’n dda felly byddwn wedi bod yn gwastraffu arian,” meddai Eifion.

Sylweddolodd bod cae lle’r oedd yn bwriadu tyfu 10 erw o swêj fel porthiant y gaeaf fel rhan o’i gytundeb Glastir Uwch angen calch, potash a ffosffad, felly gyda’r wybodaeth hon, aeth ati i wasgaru’r maetholion hynny. Roedd llwyddiant ei gnwd porthiant gaeaf cyntaf yn golygu bod Eifion wedyn yn gallu gaeafu’r 12 heffer Hereford cyflo a brynwyd ganddo.

“Roedd gaeafu tu allan yn bendant yn arbediad ariannol. Nid oedd gen i lawer o silwair gan mai dyma fy ngaeaf cyntaf yma, ond pe byddem wedi cadw’r gwartheg dan do, byddem wedi gwario llawer o arian ar wellt,” meddai Eifion.

Ar ôl gweld llwyddiant y pori cylchdro a wnaed ar safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Aberbranddu ger Pumsaint yn ddiweddar, mae bellach wedi cynnwys y system hon yn ei gynllun pum mlynedd. Ac mae hefyd yn tyfu gwndwn meillion coch fel silwair ar ôl clywed cyngor gan Dr John Vipond, yn ystod digwyddiad arall ar safle arddangos.

“Os bydd canlyniadau’r dadansoddiad silwair yn dda, byddaf yn ei fwydo i’r mamogiaid dros y gaeaf ac yn lleihau lefel y dwysfwyd yn sylweddol,” meddai.

Gwerthodd Eifion ei fuches sugno gan nad oedd yn ymarferol yn ariannol ac roedd yn awyddus i archwilio ffrydiau incwm newydd; roedd hefyd eisiau gwneud defnydd da o sied wartheg wag.  

Mae’n magu lloi bîff wedi’i bridio o’r fuches laeth hyd at isafswm o 120kg ar ran Dunbia trwy gynllun ‘lloi llaeth i wartheg bîff’ y cwmni. Unwaith y bydd wedi gorffen magu’r anifeiliaid presennol, mae Eifion yn bwriadu ail lenwi’r sied wag gyda’i loi ei hun, a fydd yn cael eu gwerthu trwy Gynllun Bîff Integredig Dunbia CFfI.

Mae Eifion bob amser yn awyddus i ddysgu mwy am ffermio ac i wella ei system, felly ymgeisiodd am arweiniad trwy raglen fentora Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i ariannu’n llawn, gan ddewis y ffermwr da byw a chyn Ffermwr Arddangos Cyswllt Ffermio, Meilir Jones o Sir y Fflint, fel mentor.

“Gwelodd Meilir yn fuan iawn bod potensial ar gyfer cynyddu elw, ac eglurodd y byddai modd i mi gynyddu fy elw o £10 y pen trwy sicrhau gwelliant o 0.1kg mewn cynnydd pwysau byw dyddiol trwy fonitro faint o fwyd sy’n cael ei fwyta.”

Mae Eifion hefyd yn rhan o grŵp trafod Cyswllt Ffermio ar gyfer ffermwyr defaid.

“Roeddwn wedi bod yn ychwanegu soia i’r gymysgedd o haidd, ceirch, pys a ffa yr oeddwn yn ei fwydo i’r defaid, ond awgrymwyd yn y grŵp y dylwn symud o soia i Brotein Dietegol Aniraddadwy (DUP) gan ei fod yn haws i’r defaid ei dreulio ac mae’n rhatach. Rydw wedi gwneud hyn, ac mae wedi bod yn gyngor ardderchog.”

Dywed Eifion fod Cyswllt Ffermio wedi ei gyflwyno i rwydweithiau newydd, arweiniad gwerthfawr a nifer o gyfleoedd na fyddai wedi’u cael fel arall.

“Fy nod yn y tymor hir yw rhedeg y busnes yma’n llwyddiannus heb fod yn ddibynnol ar unrhyw gymhorthdal. Tra bo’r Taliad Sylfaenol yn dal i fodoli, hoffwn iddo fod yn fonws, yn hytrach na ffordd o gadw fy musnes i fynd.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint