9 Ionawr 2019

 

Gosodwyd targedau i gynhyrchwyr defaid a bîff i ostwng eu defnydd o wrthfiotigau o 10% erbyn 2020, gan ganolbwyntio’r sylw ar leihau’r defnydd proffylactig.

Yn ystod cyfres o gyfarfodydd Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd trwy Gymru i roi cyngor i ffermwyr ar ddefnyddio gwrthfiotigau yn briodol ac a gynhaliwyd ar y cyd â milfeddygon lleol, roedd ffermwyr bîff a defaid yn cael eu hannog i weithredu strategaethau atal.

Dywedodd Harry Williams, o Teilo Vets, Llandeilo, er bod ychydig iawn o ddefnydd o Wrthfiotigau Hanfodol Bwysig yn y sector bîff a defaid, bod arferion proffylactig yn gyffredin.

Bydd ffermwyr yn rhoi Spectam i’r ddiadell i gyd i osgoi clwyf ceg ddyfrllyd mewn ŵyn a defnyddir Oxytetracycline i atal mamogiaid rhag erthylu.

Rhybuddiodd Mr Williams bod defnyddio gwrthfiotigau ar y ddiadell gyfan i reoli erthylu yn hen ffasiwn. Er y gall helpu i reoli ymosodiad, mae rhaglen frechu yn fwy effeithiol a hyfyw yn economaidd i reoli’r afiechyd.

Rhybuddiodd na ddylid defnyddio gwrthfiotigau proffylactig i ŵyn newydd-anedig heblaw mewn sefyllfaoedd lle mae’r risg yn fawr, gan gyfeirio at adolygiad iechyd a lles FAWL sydd ag adrannau am ddefnyddio gwrthfiotigau a phrotocolau anthelmintig.

Er bod gwrthficrobiaid yn dal i chwarae rhan bwysig o ran iechyd a lles anifeiliaid, roedd Mr Williams yn annog ffermwyr i ystyried a allai newidiadau o ran rheoli stoc leihau’r defnydd ohonynt. Wrth ystyried a oes eu hangen, dylid gwerthuso pob achos yn unigol, dywedodd.

Mae deall gwahanol gategorïau o ddos yn gam cyntaf wrth reoli parasitiaid. Dylai’r rhain gael eu rhoi ar y gyfradd ddos gywir a dylid osgoi dosio gormod ar famogiaid aeddfed.

Dylid cynnal rhaglenni rheoli llyngyr ar y cyd â chyfrif wyau ysgarthol, sy’n dangos lefel y baich o lyngyr. Bydd hyn o gymorth wrth ddewis yr amser mwyaf priodol i roi dos. 

Yn y sector bîff, y meysydd lle mae mwyaf o ddefnydd gwrthfiotig yw afiechydon resbiradol, ysgôth mewn lloi a chloffni, ond gellir atal rhai o’r rhain trwy strategaethau fel gwella’r awyru mewn adeiladau a thrin traed.

Dywed Mr Williams y bydd brechiadau yn chwarae rôl allweddol wrth leihau’r defnydd o wrthfiotig ond mae eu trin a’u storio yn allweddol o ran eu heffeithiolrwydd. Dylai’r rhan fwyaf gael eu storio ar 2-8 gradd Ganradd, dywedodd.

Mae glanweithdra a hylendid yn hanfodol wrth roi’r brechiadau i atal cyflwyno baw ar y nodwydd, a allai arwain at ffurfio casgliad.

Er bod y targedau ar gyfer lleihau’r defnydd o wrthfiotigau yn uchelgeisiol, mae Mr Williams yn cynghori dull cam wrth gam.

Bydd dynodi’r cyflyrau sydd angen triniaeth wrthfiotig ar lefel fferm unigol yn gam cyntaf tuag at wneud newidiadau.

“Canolbwyntiwch ar y prif broblemau ar eich fferm a thaclo’r rheini yn gyntaf,” dywedodd Mr Williams.

Cynghorodd y ffermwyr i gyfeirio at eu dogfen adolygu FAWL flynyddol a fydd yn cynnwys adrannau am ddefnyddio gwrthfiotig a phrotocolau anthelmintig.

Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio gyda milfeddygon ar draws Cymru i roi cyfle i ffermwyr gael cynnal samplo a phrofi gyda’u milfeddyg lleol. Mae busnesau fferm sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gymwys am daleb £100 tuag at gost samplo a phrofi.

Dywedodd Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Cymru), y dylai gwrthfiotigau fod yn ddewis olaf bob amser, ar ôl i faterion rheoli gael sylw.

“Defnyddiwch gynlluniau rheoli iechyd anifeiliaid i ymdrin â materion sy’n achosi afiechydon a salwch, nid yn unig mae’n arfer cadarn o safbwynt ariannol ond mae’n dangos defnydd cyfrifol da o feddyginiaethau,” dywedodd.

Am fanylion am ddigwyddiadau ymwybyddiaeth gwrthfiotig yn y dyfodol ewch i dudalen Digwyddiadau Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu