13 Rhagfyr 2018

 

the pasture for pollinators project open day at cop house farm near chester 0
Fel arfer ni fydd ffermwyr llaeth Cymru a chacwn yn cael eu cynnwys yn yr un frawddeg ond mae grŵp o ffermwyr llaeth organig, sy’n marchnata cynnyrch dan frand Calon Wen, yn gobeithio newid pethau.

Gan eu bod yn pryderu am dynged y cacwn mae ffermwyr Calon Wen wedi penderfynu gweithredu.

Mae chwech o ffermwyr Calon Wen o bob rhan o Gymru yn arwain prosiect ymchwil “Porfa i Beillwyr”, gan edrych ar sut y gallant atal, a hyd yn oed wyrdroi’r gostyngiad ym mhoblogaeth y cacwn trwy reoli eu porfeydd ychydig yn wahanol.

Cychwynnodd y Prosiect, sy’n cael ei ariannu trwy raglen Partneriaeth ArloesI Ewrop (EIP Wales) a reolir gan Menter a Busnes, ar ddechrau 2018.

photo credit anna hobbs 1
Mae’r ffermwyr yn defnyddio cymysgedd arbennig o hadau yn eu porfa, a gyflenwir gan Cotswold Seeds, sy’n cynnwys cyfran uchel o blanhigion addas i beillwyr. Bydd hyn yn cael ei gyfuno â thechnegau rheoli glaswellt syml yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y tymor silwair bydd y ffermwyr yn gadael stribed bedwar metr ar hyd ymylon y caeau heb ei thorri i sicrhau bod gwledd barhaus o flodau i beillwyr. Maent hefyd yn edrych sut y gallant reoli cynefinoedd eraill ar y fferm, fel gwrychoedd a phorfeydd heb eu gwella.

“Mae gweld bywyd gwyllt ar fy fferm yn gwneud fy ngwaith yn llawer mwy pleserus, ac mae dysgu am y cacwn wedi bod yn ddiddorol iawn” dywedodd David Edge, un o ffermwyr Calon Wen a fu’n rhan o sefydlu’r Prosiect.

Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn rhoi’r arbenigedd technegol ar gyfer y prosiect, ac maent yn monitro poblogaeth y peillwyr ar draws yr holl ffermydd. “Rwyf yn hynod o falch o’r ffordd mae’r prosiect yn mynd cyn belled” dywedodd Sinead Lynch, Uwch Swyddog Cadwraeth yn yr Ymddiriedolaeth. “Ar hyn o bryd rydym yn dal yn ein cyfnod treialu cychwynnol ac rydym eisoes yn sylwi ar rai canlyniadau diddorol iawn. Rydym wedi ymweld â’r ffermydd i gyd, wedi cwblhau arolygon a gweld bod gan y ffermwyr ddiddordeb mawr ac yn deall y prosiect yn llawn, sy’n wych.”

Dywedodd Anna Hobbs, Swyddog Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn sy’n gyfrifol am arolygu’r ffermydd “mae’r canlyniadau yr ydym wedi eu casglu yn ystod cyfnod treialu 2018 wedi bod yn galonogol iawn.

photo credit cotswold seeds ltd 1
Maent yn dangos y gall gadael y darnau yma ar hyd ymylon caeau heb eu torri helpu i gynnig blodau parhaus y mae ar gacwn a pheillwyr eu hangen i gael bwyd ohonynt”.

Mae’r prosiect hefyd wedi dal dychymyg y cyhoedd. Dywedodd preswyliwr lleol, Mark, o Benarlâg, yng Ngogledd Cymru wrthym “Rwy’n meddwl bod ffermwyr Calon Wen yn gwneud gwaith gwych yma. Rwyf yn cerdded y caeau yma bob dydd gyda’r ci ac ers dechrau’r prosiect rwyf wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o gacwn a pheillwyr eraill sydd o gwmpas, sy’n dangos bod y prosiect yn llwyddiant yn barod.”

Dros y ddwy flynedd nesaf mae tîm y Prosiect yn gobeithio gallu dangos bod gofalu am beillwyr yn hawdd ac ymarferol, ac mae yn mynd law yn llaw gyda chynhyrchu llaeth o safon.

 

 

Gwybodaeth Cefndirol:

Mae EIP Wales, yn cael ei redeg gan Menter a Busnes, ac wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae poblogaeth y cacwn a pheillwyr eraill yn y Deyrnas Unedig dan fygythiad cynyddol. O’r 270 rhywogaeth o wenyn a gofnodwyd yn y Deyrnas Unedig, rydym wedi colli 13 rhywogaeth gyda 35 dan fygythiad y byddant yn diflannu.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gadwraeth Cacwn yn 2006 ac mae’n sefydliad a arweinir gan wyddoniaeth gyda phrosiectau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r Ymddiriedolaeth yn anelu at ysbrydoli pobl i helpu i gynnig y cynefin y mae ar y pryfed carismatig yma eu hangen ar draws cymunedau a chefn gwlad i sicrhau bod gan y boblogaeth hon ddyfodol tymor hir yn y Deyrnas Unedig.

Nod EIP Wales yw datrys problemau amaethyddol a choedwigaeth cyffredin trwy ddwyn pobl o gefndiroedd ymarferol a gwyddonol at ei gilydd. Mae’n gyfle i ffermwyr a choedwigwyr roi eu syniadau ar waith trwy brofi technolegau neu dechnegau newydd.

E-bost: eipwales@menterabusnes.co.uk

Cynhaliodd Calon Wen ddiwrnod agored ar 9 Hydref 2018 i ffermwyr, cynghorwyr, ymchwilwyr ac aelodau o’r cyhoedd i esbonio’r Prosiect ac ystyried y cynnydd hyd yn hyn. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu