14 Gorffennaf 2018

 

Y pennawd brawychus ‘Rydych yn edrych ar y person sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch chi’ wrth ochr drych sy’n eich dangos chi eich hun... llyfryn ‘arferion da’ diogelwch fferm sy’n cynnwys delwedd rymus o ffermwr o’r Fenni a gollodd ei goes mewn damwain gyda chombein... a thîm o fentoriaid diogelwch fferm hyfforddedig fydd yn ymweld â’ch fferm i’ch galluogi i wneud eich fferm yn lle mwy diogel i weithio. 
 

Dyma rai o’r tactegau grymus a’r offer y mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, corff ar y cyd sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru, yn gobeithio y byddant yn herio agweddau at ddiogelwch fferm ac yn ysgogi newid mewn ymddygiad. Bydd yr ymgyrch ymwybyddiaeth newydd, a gefnogir gan Cyswllt Ffermio, yn cychwyn yn ystod ‘Wythnos Diogelwch Fferm’ eleni (16-20 Gorffennaf) pan fydd y Sefydliad Diogelwch Fferm yn arwain sefydliadau allweddol yn y diwydiant ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ail feddwl am eu hagwedd at ddiogelwch ac yn atgoffa’r ffermwr bod ffermio yn ddiogel yn gyfystyr a’ch iechyd, eich diogelwch, a’ch dewis chi!

Yn adroddiad 2017/2018 y Pwyllgor Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Anafiadau Angheuol ym Mhrydain, nodir bod 33 o farwolaethau, ac o’r rhain roedd 29 yn weithwyr fferm. Dengys eu hystadegau bod gweithiwr fferm erbyn hyn chwe gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd ar fferm nag ar safle adeiladu. Ond yn wahanol i ddiwydiant adeiladu’r Deyrnas Unedig, sydd wedi lleihau’r cyfraddau anafiadau yn y gweithlu yn sylweddol, trwy wneud safleoedd adeiladu yn llefydd mwy diogel i weithio, nid yw ffermio wedi mynd ati i’r un graddau.        

Mae aelodau Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Wythnos Diogelwch Fferm ac maent yn benderfynol o gyfleu’r neges, os na fyddwch chi’n cymryd cyfrifoldeb am eich diogelwch eich hun ar y fferm, y gallech fod mewn perygl o beryglu eich bywyd eich hun a bywydau a lles pobl eraill.  Fel cadeirydd y Bartneriaeth, mae’r ffermwr o ganolbarth Cymru a’r arbenigwr iechyd a diogelwch, Brian Rees, yn pwysleisio, nad y dioddefwyr yn unig sy’n dioddef, ond mae bywydau eu teuluoedd hefyd yn newid am byth.

“Mae cyfartaledd o 32 o farwolaethau'r flwyddyn ar ffermydd Prydain.  Mae 32 o fywydau, yn drasig, yn dod i ben yn rhy fuan, ac mae 32 o deuluoedd yn byw hefo’r canlyniadau bob dydd.  Mae cannoedd yn fwy o unigolion yn dioddef anafiadau sy’n newid eu bywyd o flwyddyn i flwyddyn.

“Bydd yr ymgyrch newydd yma yn helpu i ddarbwyllo ffermwyr y dylent wynebu eu cyfrifoldebau, ystyried, nid eu diogelwch eu hunain yn unig, ond diogelwch eu teuluoedd a’u gweithwyr hefyd.  

“Rhaid i ni annog y ffermwyr i gyd i Stopio, Meddwl, Cadw’n Ddiogel ac i gymryd camau a fydd yn sicrhau bod eu ffermydd yn lleoedd diogel i weithio,” dywedodd Mr Rees.

Bydd tîm newydd Cyswllt Ffermio o Fentoriaid Iechyd a Diogelwch yn helpu’r ffermwyr i roi’r cyngor hwn ar waith. Yn rhan o raglen fentora boblogaidd Cyswllt Ffermio, byddant yn darparu hyd at 22.5 awr o gyfarwyddyd cyfrinachol ar y fferm sydd wedi ei ariannu’n llawn, l er mwyn helpu ffermwyr i ddynodi risgiau a dileu peryglon.  Bydd ffermwyr cymwys yn gallu pori trwy broffiliau’r mentoriaid newydd ar gyfarwyddiadur mentoriaid ar-lein Cyswllt Ffermio y gellid ei hidlo er mwyn dangos y rhai sydd ag arbenigedd Iechyd a Diogelwch.  

Bydd yr ymgyrch hefyd yn cael ei hyrwyddo gan holl bartneriaid y Bartneriaeth fydd yn mynychu’r Sioe Frenhinol.  Ym mhafiliwn Llywodraeth Cymru, bydd neges ddidostur ac arddangosfa drych yn gofyn i ffermwyr ‘edrych wyneb yn wyneb â chi eich hun’ a bod yn onest ynglŷn ag a ydynt yn gwneud popeth a ddylent i ddiogelu bywyd ac atal anafiadau. 

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i nôl copi am ddim o ‘Arferion da i wneud eich fferm yn lle mwy diogel i weithio’ y Bartneriaeth.  Wedi ei gyhoeddi gan Cyswllt Ffermio, mae clawr y llyfryn cyfleus, maint poced hwn yn dangos delwedd rymus o Robin Foord, y ffermwr o’r Fenni a gollodd ei goes ddeng mlynedd yn ôl mewn damwain erchyll gyda chombein ac sy’n cefnogi’r ymgyrch newydd.

“Mae’n hanfodol gwneud popeth allwn ni i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau trychinebus yr hyn all ddigwydd os na fyddwch yn mabwysiadu arferion diogel ar y fferm.

“Doeddwn i ddim yn hunanfodlon, fe wnes i arfer y weithdrefn ‘Stopio Diogel’ sydd yn llyfryn WFSP ddwywaith, wrth geisio clirio rhwystr mewn peiriant anghyfarwydd.

Yn anffodus, fe wnes i fentro’n ofalus wedyn a gadael y combein heb ei ddiffodd ac o ganlyniad cafodd fy nghoes ei ddal ynddo ac roedd yn rhaid ei dorri i ffwrdd yn y glun.”

“I mi, fe wnaeth arbed ychydig funudau trwy beidio â diffodd y combein i wneud rhywbeth arferol ar beiriant anghyfarwydd newid fy mywyd i a bywyd fy ngwraig a’m plant hefyd am byth,” dywedodd Mr Foord.

 “All bywyd ddim bod yr un fath ar ôl damwain fawr sy’n newid bywyd, felly rwyf yn eich annog i roi eich teulu yn gyntaf, gadael llyfryn y Bartneriaeth ar y bwrdd yn y gegin a gofyn am gyngor am ddim gan un o fentoriaid Cyswllt Ffermio i wneud yn siŵr eich bod yn rhedeg busnes fferm ddiogel.” 

main 0

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint