aled jones

24 Ionawr 2018

 

Aled Jones (25), yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio Dolfelin, fferm ucheldir ger Llanfair-ym-muallt. Derbyniodd Aled radd mewn peiriannegamaethyddol, ac mae bellach yn cyfuno gwaith llawn amser ochr yn ochr â’i rieni gyda’i swydd dymhorol fel cneifiwr ar gontract.

Mae 800 o famogiaid Lleyn croes Cheviot yn bennaf a 200 o ŵyn, ynghyd â buches o wartheg South Devon yn cael eu cadw ar y daliad bîff a defaid 400 erw. Mae Aled hefyd yn ffermio daliad 50 erw ei hun ychydig filltiroedd o fferm ei rieni ac yn cadw tua 70 o ddefaid Miwl a Texel sy’n cael eu gwerthu fel ŵyn wedi eu pesgi ym marchnad Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r ffermwr ifanc brwdfrydig hwn yn dweud bod ei brofiad, ynghyd a’i astudiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC, wedi ei wneud yn benderfynol i wneud popeth o fewn ei allu i gynyddu effeithlonrwydd ar fferm ei rieni a’i ddaliad ei hun gyda’r gobaith o ehangu arno ryw ddiwrnod.

Bu Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol Aled, sef Nerys Hammond, yn ei annog i lunio cynllun datblygiad personol (PDP) ar-lein i’w helpu i ganfod ei gryfderau a chanolbwyntio ar y mannau y gallai wella effeithlonrwydd ar y fferm neu gynnig ffrwd incwm gwell iddo.

Cafodd Aled, sydd eisoes yn gneifiwr profiadol, ei ysbrydoli gan y dull mwy modern ac effeithlon o gneifio a welodd yn ystod dau ymweliad â Seland Newydd ar gyfer gweithio. Yn ystod yr adegau prysuraf, sydd fel arfer rhwng canol mis Mai tan yn hwyr ym mis Medi, mae’n cneifio tua wyth i naw awr pob diwrnod naill ai adref neu fel contractwr. Felly, mae’n awyddus iawn i wella a moderneiddio ei dechneg.

Yn gynnar y llynedd, gwnaeth Aled gais am gwrs cneifio dau ddiwrnod dwys a oedd yn cael ei gynnal gan y British Wool Marketing Board, gyda chymhorthdal o 80% gan Cyswllt Ffermio. Dywedodd Aled fod y cwrs hwn yn ddelfrydol fel ‘cwrs gloywi’.

“Fe ysbrydolodd yr hyfforddwr ni i gyd gyda’i wybodaeth a’i effeithlonrwydd. Cyflwynodd bopeth mewn ffordd gyfeillgar ac roedd ein grŵp bach ni wedi gorffen y cwrs gyda llawer mwy o hyder yn ein gallu. Dysgodd pob un ohonom ni sut i gyflymu’r broses a gwella ein techneg.”

Dywedodd Aled na fyddai ei gynllun datblygu personol yn dod i ben nawr. Mae’n benderfynol o gymryd rhan mewn cymaint â phosib o’r gwasanaethau cymorth sydd gan Cyswllt Ffermio er mwyn helpu’r busnes i leihau costau a chyflawni effeithlonrwydd gwell ar y fferm.

Mae manteisio ar raglen samplu pridd Cyswllt Ffermio, sydd wedi cael ei gyllido’n llawn, y gwanwyn llynedd eisoes yn talu ffordd gyda gwell cnwd o borfa a llai o fewnbwn

 

Y nesaf ar ei restr ddysgu yw cwrs cyfrifon busnes fferm ac mae hefyd yn awyddus i wneud rhai o’r modiwlau e-ddysgu sydd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

“Mae gwneud y modiwlau byr ar-lein ar fy ngliniadur adref ar ôl dewis o ystod eang o bynciau sydd ar gael, yn ffordd wych o ddatblygu fy ngallu,” dywedodd Aled, sydd yn amlwg ddim yn un i laesu dwylo.

Mae’r cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn dechrau ar ddydd Llun, 5 Chwefror tan ddydd Gwener 2 Mawrth 2018. Cliciwch yma am ddyddiadau a lleoliadau’r cyrsiau hyfforddiant nesaf gan gynnwys hyfforddiant cneifio, a gwybodaeth am y modiwlau e-ddysgu yn ogystal â gwasanaethau eraill Cyswllt Ffermio a allai fod o gymorth i chi a’ch busnes.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites