Mae’r defnydd o driniaeth wrthfiotig yn bwnc llosg. Mae pryder cynyddol ynglŷn â'r posibilrwydd o ymwrthedd gwrthficrobaidd ac ymrwymiad gan y diwydiant amaeth i leihau faint o wrthfiotigau a ddefnyddir. Mae llawer o'r sylw yn y cyfryngau’n canolbwyntio ar iechyd dynol, ond mae dyletswydd arnom hefyd i ddiogelu effeithiolrwydd triniaethau ar gyfer yr anifeiliaid dan ein gofal. Gwelwyd rhai achosion o heintiau E.coli angheuol mewn ŵyn newydd anedig yn y DU sydd ag ymwrthedd i fwy nag un math o driniaeth wrthfiotig. Mae dilyn egwyddorion sylfaenol a defnyddio meddyginiaeth ataliol yn hybu defnyddio gwrthfiotigau mewn modd cyfrifol.

Nid oes un ateb unigol er mwyn lleihau’r defnydd o driniaeth wrthfiotig mewn anifeiliaid. Dylid lleihau’r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd trwy nifer o fesurau. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio i leihau'r defnydd o driniaeth wrthfiotig yn ystod cyfnod ŵyna. Dylai monitro maeth y famog ac arferion rheolaeth ar ddiwedd beichiogrwydd, a dilyn protocolau bioddiogelwch caeth yn ystod y cyfnod ŵyna helpu i leihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau ‘rhag ofn’, ac annog defnyddio meddyginiaethau mewn modd mwy cyfrifol a chynnig arbedion ariannol sylweddol.

Y prif ddefnydd ar gyfer triniaethau gwrthfiotig mewn diadelloedd yw ar gyfer achosion o erthylu, cloffni ac yn ystod y cyfnod ŵyna (yn enwedig gydag ŵyn newydd anedig).

 

img 1155

Mae’r holl famogiaid ar fferm Plas yn cael eu brechu i atal erthyliad Ensöotig a Thocsoplasmosis felly nid yw Erthyliad Ensöotig (sef yr haint sy'n cael ei drin gan ddefnyddio gwrthfiotig yn ystod achosion o’r afiechyd) yn broblem. Mae’r ddiadell hefyd yn derbyn brechiad yn erbyn clwy’r traed ac mae amseriad y dos atgyfnerthu wedi cael ei altro ychydig eleni i rhwng 3 a 4 wythnos cyn dod â nhw i mewn, felly roedd yn gweithio ar ei orau yn ystod y cyfnod pan oedd y mamogiaid dan do. Bydd y sylw ychwanegol at hylendid, gan ddefnyddio calch dan wellt glân a glanhau’r prif gorlannau rhwng grwpiau o famogiaid wedi lleihau niferoedd heintiau clwy'r traed yn ogystal ag eraill a all effeithio ar yr ŵyn. Ychydig iawn o famogiaid cloff a welwyd, sy’n fonws ychwanegol, ac yn un sy'n effeithio ar gyflwr y corff a chynhyrchiant llaeth.

Dechreuodd y ddiadell o 1,100 o famogiaid Suffolk croes a 350 o famogiaid miwl ŵyna ar fferm Plas, Llandegfan, Ynys Môn ganol mis Ionawr, gydag ŵyn benyw yn ŵyna o ganol mis Mawrth ymlaen. Yn dilyn achosion o Haint y Cymalau, Cegleithedd a Chocsidiosis, roedd defnyddio gwrthfiotig trwy'r genau mewn ŵyn newydd anedig yn gyffredin ar y fferm, gan gyfrannu at gostau milfeddyg a meddyginiaeth sylweddol. Er mwyn ceisio rhoi diwedd ar yr arfer hon, dechreuodd y prosiect drwy ganolbwyntio ar reolaeth y famog. Mae sicrhau bod Cynllun Iechyd Anifeiliaid gweithredol mewn lle wedi galluogi’r fferm i fesur eu defnydd o driniaeth wrthfiotig ac i gymryd camau i leihau’r defnydd hwn.

Mae’r ffermwr, Arwyn Jones, bob amser yn dadansoddi ei borthiant ac yn llunio dogn yn unol â hynny. Eleni fe samplwyd gwaed y mamogiaid yn ogystal dair wythnos cyn  ŵyna, a chrëwyd proffil metabolig. Mae’r proffil metabolig yn rhoi darlun mwy manwl o gyflwr y famog, gan fesur lefelau egni, protein a mwynau ac mae'n eich galluogi i addasu'r diet cyn ŵyna. Dangosodd y proffiliau metabolig fod y mamogiaid a oedd yn cario gefeilliaid ychydig yn brin o egni, a allai arwain at gydbwysedd egni negyddol. Mae defaid sydd mewn cyflwr o gydbwysedd egni negyddol yn defnyddio braster y corff fel ffynhonnell egni, a gallant ddatblygu cyflwr tocsaemia beichiogrwydd (a elwir hefyd yn glwy'r eira) o ganlyniad i gyfuniad o lefelau glwcos isel yn y gwaed ac effaith gwenwynol y cyrff cetonig a gynhyrchir wrth i'r braster dorri i lawr. Er mwyn osgoi hyn, cynyddwyd y dwysfwyd yn y dogn - a fyddai wedi cael ei gynyddu i 600g y dydd fel arfer - hyd at 720g y dydd. Dangosodd proffiliau metabolig y grŵp olaf i ŵyna lefelau da o egni a phrotein, felly nid oedd angen addasu gan roi hyder y byddai ansawdd y colostrwm yn dda.

Yn ôl y milfeddyg annibynnol a'r ymgynghorydd defaid Kate Hovers, sy'n gweithio ar y prosiect hwn ar fferm Plas,

 “Mae maeth yn hanfodol er mwyn cynhyrchu digon o golostrwm o ansawdd da, sy'n cynnwys gwrthgyrff sy'n helpu i atal heintiad. Mae llyncu digon o fewn yr oriau cyntaf ar ôl genedigaeth yn hanfodol ar gyfer perfformiad, gan arwain at bwysau trymach wrth ddiddyfnu a llai o ddyddiau hyd pesgi."

Er mwyn monitro amsugniad colostrwm, cymerwyd samplau gwaed gan 12 oen o'r grŵp cyntaf a 42 oen o’r grŵp mamogiaid olaf yn 2 ddiwrnod oed. Profwyd lefelau imiwnoglobwlin, sy'n ddangosydd o ansawdd y colostrwm a faint ohono sydd wedi'i amsugno. Bydd yr ŵyn yn cael eu monitro wedyn gan edrych ar gynnydd pwysau byw dyddiol a baich llyngyr nes y byddant yn cael eu gwerthu fel ŵyn wedi’u pesgi. Roedd yr holl ŵyn yn y grŵp cyntaf yn dangos lefelau imiwnoglobwlin da, a phob un heblaw am 3 yn yr ail grŵp. Roedd dau o’r tri oen gyda’r lefelau isaf yn cael eu hystyried mewn perygl (yn fychan, ac yn araf i sugno, mamog wael). Mesurwyd y colostrwm gan famau’r ŵyn yma hefyd ar y fferm gan ddefnyddio teclyn Brix Refractometer. Mae hon yn ddyfais syml a ddefnyddir fel arfer wrth wneud jam, lle mae 2 neu 3 diferyn o golostrwm yn cael ei ollwng ar blât gan gymryd darlleniad oddi ar raddfa benodol wrth edrych i lawr y sylladur. Cânt eu defnyddio gan rai ffermwyr llaeth er mwyn asesu ansawdd colostrwm ar gyfer eu lloeau ac mae rhai ffermwyr defaid wedi dechrau eu defnyddio yn y sied ddefaid. Er ei bod yn anymarferol i brofi pob mamog, mae'n broses weddol syml i brofi ambell famog o wahanol grwpiau yn ystod y cyfnod ŵyna er mwyn rhoi lefelau cyfartalog, ac i roi hyder o bosib nad oes angen gwrthfiotigau ar bob oen, ac y gellir canolbwyntio ar eu defnyddio ar unigolion sydd mewn mwy o berygl. Mae’r un peth yn wir am gymryd samplau o waed ŵyn er mwyn gwirio lefelau protein yn y gwaed i gael syniad o'r imiwmoglobwlin a ddaw o'r colostrwm. Gall cymryd sampl gan ambell oen, yn enwedig ŵyn lluosog ar ddechrau’r cyfnod ŵyna roi hyder fod popeth yn iawn, neu ddenu sylw at rywbeth sydd angen ei ymchwilio cyn i broblemau godi.

Mae dilyn protocolau hylendid caeth yn agwedd arall o'r prosiect sydd hefyd yn anelu at leihau'r defnydd o wrthfiotigau ar gyfer pob anifail. Mae cyfleusterau golchi dwylo bellach yn y sied ddefaid gyda dŵr poeth, sy’n faes sy’n cael ei anghofio’n aml er y gall afiechydon ddatblygu'n sydyn ar ddwylo, dillad ac esgidiau. Mae ambell i gorlan unigol wedi eu gosod mewn bloc ar wahân ar gyfer mamogiaid sy’n sâl neu sy’n erthylu, neu ŵyn sâl. Ni fydd corlannau sydd wedi cael ŵyn sâl yn cael eu defnyddio eto nes eu bod wedi cael eu glanhau, eu golchi a'u diheintio. Mae mamogiaid ac ŵyn yn mynd o gorlannau unigol i gorlannau mwy cyn cael eu troi allan. Mae’r rhain wedi cael eu glanhau rhwng pob grŵp eleni, yn yr un modd a'r prif gorlannau ŵyna. Mae’r siediau ar fferm Plas yn adeiladau traddodiadol ond mae modd cael mynediad atynt i’w glanhau gan ddefnyddio tractor, a oedd yn cymryd oddeutu 20 munud cyn gosod gwellt yn barod ar gyfer y grŵp nesaf.

Ni chafodd y 500 oen cyntaf i'w geni ar fferm Plas unrhyw driniaeth wrthfiotig, a chafwyd un achos o gegleithedd ac un haint y cymalau. Bydd rhai gwrthfiotigau’n cael eu defnyddio ar yr ŵyn a anwyd yn hwyrach, wedi’u targedu at ŵyn mewn mwy o berygl, rhai nad ydynt mor fywiog ar enedigaeth, pwysau ysgafn neu drwm ar enedigaeth (dan 3.5kg neu dros 6kg) a mamogiaid gwael neu sâl.

Bydd y canlyniadau, y costau a’r arbedion ariannol yn cael eu dadansoddi er mwyn gweld effaith y drefn newydd hon ac i weld lle gellir gwneud gwelliannau pellach.

Cliciwch yma am fwy o fanylion ynglŷn â phrosiectau rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y