Cael gwell dealltwriaeth o gylch heintio a pheryglon tymhorol llyngyr yr iau yw’r camau cyntaf i’w drin a’i reoli yn fwy effeithiol ar ffermydd.
Mae llyngyr yr iau yn effeithio ar ddefaid a gwartheg o bob oed a gall leihau cynnydd mewn pwysau byw o 10% mewn oedolion a 30% mewn ŵyn a lloeau. Mae’r tywydd yn cael effaith fawr ar amlygrwydd llyngyr yr iau, yn arbennig gaeafau mwyn a hafau gwlyb, ac ar ôl gaeaf pan oedd y risg yn uchel a arweiniodd at halogi’r porfeydd yn gynharach eleni, mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Afiechydon Anifeiliaid Cenedlaethol (NADIS) wedi rhagweld risg fawr o weld llyngyr yr iau yn datblygu yn ystod yr hydref a’r gaeaf hwn.
“Yn ogystal â gostyngiadau o ran cynnydd pwysau, mae costau anuniongyrchol hefyd fel diffygion o ran perfformiad atgynhyrchiol mewn defaid a gwartheg,” dywedodd Dr Philip Skuce, un o brif wyddonwyr Sefydliad Ymchwil Moredun, oedd yn siarad mewn cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Cyswllt Ffermio i godi ymwybyddiaeth o lyngyr yr iau.
Mae’r arwyddion clinigol o lyngyr yr iau yn cynnwys marwolaeth sydyn, poen ddifrifol yn y stumog ac anifeiliaid sy’n anfodlon symud neu’n methu gwneud hynny. Gallant hefyd ddatblygu chwydd dan eu cegau ac anaemia, ynghyd â bod mewn cyflwr gwael, colli pwysau a chyflwr a pherfformiad gwael.
Er mwyn cael diagnosis llyngyr yr iau gall samplau gwaed gael eu cymryd i chwilio am ensymau’r iau a gwrthgyrff llyngyr a gellir dadansoddi samplau o danciau llaeth. Cyfrif wyau ysgarthol yw’r dull diagnostig mwyaf poblogaidd, ond gan fod wyau llyngyr yr iau yn cael eu rhyddhau yn ysbeidiol, gall arwain at anawsterau wrth ddehongli’r canlyniadau.
Gall cylch bywyd cymhleth llyngyr yr iau hefyd wneud eu trin yn anodd. Bydd llyngyr sy’n oedolion yn iau’r anifail yn dodwy wyau sy’n mynd ar y borfa trwy ysgarthion. Bydd larfa yn datblygu tu mewn i’r ŵy sy’n deor ac yn mynd i mewn i falwen y llaid, lle gall luosogi hyd at 500 gwaith. Yna mae’r larfae yn gadael y falwen ac yn aros ar y borfa fel codennau bach sy’n cael eu bwyta gan anifeiliaid sy’n pori. Ar ôl cyrraedd yn ôl i anifail mae’r codennau yn deor yn llyngyr aeddfed a chyn pen 10 i 12 wythnos byddant yn cynhyrchu wyau, gan gychwyn y cylch eto.
“Mae deall y cylch bywyd yn wirioneddol bwysig,” ychwanegodd Dr Skuce. “Dyna sy’n pennu beth sy’n digwydd ar eich fferm, mae hefyd yn pennu eich dewisiadau o ran triniaeth a rhai o’ch dewisiadau diagnostig.”
Gan nad yw’r rhan fwyaf o driniaethau yn lladd pob cam yn natblygiad y llyngyr, mae’n hanfodol deall y cylch bywyd i bennu pa gynnyrch i’w ddefnyddio. Triclabendazole sydd yn gweithredu ehangaf yn erbyn pob cam yn natblygiad y llyngyr, ond mae wedi arwain at gael ei orddefnyddio ac fe gofnodwyd gwrthedd i’r cyffur.
“Pwynt arall pwysig yw nad yw cyffuriau sy’n lladd llyngyr cyffredin fel arfer yn lladd llyngyr yr iau,” pwysleisiodd Dr Skuce.
Pwysleisiwyd y dylai ffermwyr beidio dibynnu ar gyffuriau yn unig ac y dylent ddefnyddio dewisiadau rheoli eraill.
“Yn anffodus nid yw hynny’n gynaliadwy, rhaid i ni geisio dod o hyd i ffyrdd eraill o wneud pethau, mae triniaeth yn sicr yn rhan o hynny, ond dim ond un rhan o’r darlun cyffredinol.”
Mae’r cynllun rheoli pedwar pwynt yn seiliedig ar gamau tymhorol sy’n effeithio ar gylch bywyd y llyngyr:
Gwanwyn: Diogelu porfeydd trwy beidio â gadael i anifeiliaid chwalu wyau a all fynd i falwod y llaid, naill ai trwy gadw stoc oddi ar borfa neu ddefnyddio cynnyrch i ladd y llyngyr sy’n oedolion a’u hatal rhag dodwy wyau.
Haf: Lleihau’r boblogaeth o falwod y llaid trwy ddraenio rhannau gwlyb, torri brwyn a all fod yn gartref i falwod y llaid a gwella ardaloedd sydd wedi potsio fel na fydd dŵr yn sefyll yno.
Hydref: Osgoi heriau mawr trwy fynd a’r anifeiliaid i bori oddi wrth rannau y tybir neu y gwyddys eu bod yn rhai lle mae’r risg yn uchel. Gallwch osod ffensys dros dro i gadw anifeiliaid draw o rannau corslyd.
Gaeaf: Triniaeth strategol i anifeiliaid ‘mewn perygl’ gyda chynnyrch priodol.
“O ran triniaeth, rhaid i chi drin yr anifeiliaid iawn ar yr amser iawn gyda’r cynnyrch iawn â’r dos iawn. Mae hynny mor bwysig.”
Wrth ystyried dewisiadau rheoli, rhoddwyd anogaeth i ffermwyr wneud y defnydd gorau o’r holl wybodaeth fel hanes eu fferm a’i lleoliad, adroddiadau lladd-dai, samplau diagnostig, amodau hinsawdd a ffactorau risg ar y fferm. Dylai pobl hefyd weithio gyda’u milfeddyg a’u cynghorydd iechyd anifeiliaid i greu strategaethau rheoli llyngyr cynaliadwy wedi eu teilwrio i ffermydd unigol.
Mae Cyswllt Ffermio hefyd gynnig adnodd e-ddysgu ynglŷn â rheoli llyngyr yr iau ar eich fferm.
Cyfres o arddangosfeydd a fwriadwyd i godi ymwybyddiaeth o lyngyr yr iau, y rhagwelir y bydd yn risg fawr yn rhannau gorllewinol y Deyrnas Unedig y gaeaf hwn.
Mae llyngyr yr iau yn effeithio ar wartheg a defaid o bob oed.
Malwen y llaid sy’n lletya llyngyr yr iau dros dro.