Gall lleihau amlder niwmonia mewn lloeau ifanc wella perfformiad ac felly proffidioldeb mentrau magu lloeau. Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar gyfer noswaith ar un o’i Safleoedd Ffocws i ddysgu mwy am atal clefydau a sut gall dyluniad ac awyriad mewn adeiladau eich cynorthwyo i fynd i’r afael â materion clefydau resbiradol.

Cewch ddiweddariad ar brosiect Cyswllt Ffermio ar fferm Llindir sy’n anelu at wella cynnydd pwysau byw dyddiol trwy ganfod helaethder achosion niwmonia mewn lloeau ifanc yn y fenter magu lloeau dan do. Fel rhan o’r prosiect, bydd pob anifail yn cael ei archwilio ac yn derbyn sgôr niwmonia, sy’n helpu i leihau’r defnydd o driniaeth wrthfiotig a chanfod heintiad ynghynt. Mae ychwanegu profiotig i laeth fel dull atal hefyd yn cael ei archwilio, yn ogystal â newidiadau i reolaeth a gosod systemau awyru cadarnhaol.

Bydd y milfeddyg, Dai Grove White o Brifysgol Lerpwl, a’r milfeddyg annibynnol, Sarah Pederson hefyd yn trafod gwir gostau niwmonia, opsiynau triniaeth ac atal, ynghyd â dyluniad adeiladau ac awyriad.

 

Atal clefydau a sicrhau’r perfformiad gorau mewn systemau magu lloeau

Dydd Iau, Rhagfyr 1af

6.30yh-8.30yh

Llindir, Eglwys Bach, Bae Colwyn LL28 5SE

 

Croeso i bawb a bydd lluniaeth ar gael. Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Emyr Owen ar 01745 770270 neu 07985 967481 emyr.owen@menterabusnes.co.uk 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint