Mae cyfres o ffermydd traws sector o bob cwr o Gymru, a ddewiswyd gan Cyswllt Ffermio, wedi bod yn mesur a monitro tyfiant glaswellt ar gyfer Prosiect Porfa Cymru.
Mae data technegol ar gyfer pob fferm sy’n cymryd rhan ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, a fydd yn gallu cynorthwyo ffermwyr i wneud penderfyniadau rheolaeth deallus a sicrhau’r canlyniadau posib o’u strategaeth pori. Ar fferm Rhiw Las, Bala, y nod yw ymestyn y cyfnod pori cymaint â phosib i’r hydref, felly mae’r glaswellt wedi cael ei fesur a’i reoli trwy gydol y tymor er mwyn cyflawni hynny.
Dywedodd Sam Carey: “Rydym yn mesur yn wythnosol ac yn defnyddio lletem laswellt trwy gydol y tymor i reoli dyraniadau ac i osgoi gormodedd neu ddiffyg, ac yn sicrhau bod gorchudd yn cael ei bori yn ystod y cyfnod tair deilen. Rydym yn defnyddio cyllideb laswellt yn yr hydref er mwyn adeiladu gorchudd a sicrhau ein bod yn gallu pori’n hwyr yn yr hydref.”
“Mae mesur glaswellt yn hanfodol ar gyfer proffidioldeb y busnes, gan mai dyma’r ffactor sy’n gyfrifol yn bennaf am arwain elw ar y fferm. Os nad ydych yn ei fesur, ni allwch ei reoli.”
Mae Sam wedi haneru faint o ddwysfwyd a ddefnyddiwyd eleni o ganlyniad i wneud gwell defnydd o laswellt, ac mae hefyd wedi gweld cynnydd mewn tyfiant glaswellt.
“Yn ddiweddar, fe drawsnewidiom ni’r fferm o gadw bîff a defaid - ac rydym wedi buddsoddi’n drwm mewn Calch, P a K. Mae hynny, ynghyd â gwell rheolaeth pori wedi ein cynorthwyo i sicrhau cynnydd o oddeutu 20% yn nhyfiant y glaswellt o’i gymharu â’r llynedd. Rydym yn profi’r priddoedd ac yn cywiro’r pH, P a’r K yn flynyddol gan ein bod yn ymdrechu’n galed i gynyddu gallu’r fferm i dyfu. Mae caeau sy’n tanberfformio’n cael eu hail hadu gyda rhywogaethau glaswellt sy’n gallu hybu tyfiant.”
Am ddata technegol ynglŷn â’r holl dreialon ar bob fferm sy’n cymryd rhan, cliciwch yma.