3 Mawrth 2020

 

Mae dros 100 o grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru wedi mynegi diddordeb mewn ymchwilio i ddulliau mwy effeithlon o weithio neu gyflwyno technolegau newydd drwy gyfres o brosiectau sector-benodol a ariennir gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru.

Ers i'r rhaglen gael ei lansio yn 2016, cymeradwywyd dros 30 o geisiadau grŵp ar gyfer amryw o brosiectau mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru ac maent bellach yn mynd rhagddynt.  Dywed Lynfa Davies, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, sy'n bennaeth rhaglen EIP yng Nghymru ar ran Cyswllt Ffermio, fod dros 150 o ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau wedi'u hariannu gan EIP. 

"Rwy’n hynod falch o nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd hyd yma, sy'n adlewyrchu penderfyniad y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant i ganfod a gweithredu cyfleoedd newydd i wella effeithlonrwydd a chynyddu proffidioldeb ar yr adeg dyngedfennol hon, wrth i'r diwydiant baratoi ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd a ddisgwylir yn gyffredinol pan fyddwn yn gadael yr UE.

"Gan ystyried ehangder ac ansawdd y ceisiadau yr ydym yn eu prosesu ar hyn o bryd, rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o 45 o brosiectau ac felly nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau ychwanegol.

"Mae'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth wedi bod yn rhan bwysig o'r broses EIP, gan gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i gynlluniol prosiectau i'r grwpiau wrth iddynt eu datblygu. Bydd y cymorth hwn yn parhau i fod ar gael, ac os hoffai ffermwyr a choedwigwyr weld gwybodaeth am ganfyddiadau diweddaraf yr ymchwil, gallant gysylltu â'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth drwy Cyswllt Ffermio," meddai Ms Davies.

Un o'r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yw ymchwilio i ffyrdd o ychwanegu gwerth at ddefaid, sy’n brif ffynhonnell incwm i lawer o fusnesau yng Nghymru.  Yn 2017, ymunodd Alan Jones, ffermwr defaid o Chwilog, ger Pwllheli, sydd erbyn hyn yn fentor cymeradwy Cyswllt Ffermio, â grŵp Agrisgôp lleol Cyswllt Ffermio dan arweiniad Geraint Hughes.  Roedd Mr Hughes wedi gwahodd nifer o ffermwyr defaid yn ei ardal i ymchwilio i ffyrdd o ychwanegu gwerth i'w mentrau defaid i'w helpu i baratoi ar gyfer y cyfnod ansicr o’n blaen fydd yn heriol yn economaidd.  

Yn ogystal â materion hwsmonaeth a maeth, roedd prif ffocws y grŵp ar reoli mamogiaid godro ar gyfer cynhyrchu caws, rhywbeth yr oedd nifer o aelodau'r grŵp wedi llwyddo i’w wneud hynny mor llwyddiannus, ac aeth Mr. Hughes at i’w hannog i fynd â'u hymchwiliadau i'r lefel nesaf drwy ofyn am gyllid gan EIP Cymru.

"Cafodd ein grŵp Agrisgôp gychwyn addawol, a arweiniodd at nifer ohonom yn dechrau darparu llaeth dafad i gynhyrchwyr caws arbenigol. Rydym yn awr yn adeiladu ar yr wybodaeth a gafwyd, na allem fod wedi’i wneud mor llwyddiannus heb gefnogaeth EIP Cymru," meddai Mr Jones.

Dyfarnwyd yr uchafswm o £40,000 i'r grŵp dros gyfnod o ddwy flynedd. Ariannodd hyn gyngor gan nifer o brif arbenigwyr y DU, gan eu galluogi i fonitro ansawdd y llaeth a gwella proffil bacteriolegol y llaeth a gynhyrchwyd gan bob aelod.

“Mae hyn yn golygu ein bod ni i gyd wedi gallu cynhyrchu llaeth mamogiaid o ansawdd gwell a gan mai ein gweledigaeth ar y cyd yw bod ar flaen y gad yn y sector hwn sy'n datblygu, credwn bellach fod gennym sylfaen gadarn a system gynhyrchu a fydd yn ein helpu i fanteisio ar y farchnad yma sy’n ehangu’n gyflym, "meddai Mr Jones.

Roedd Lynfa Davies yn awyddus i bwysleisio y bydd gan ehangder y pynciau yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd botensial enfawr i'r diwydiant yng Nghymru.

"Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael ei rhannu drwy sianeli cyfathrebu Cyswllt Ffermio fel bod llawer o ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr eraill yn gallu elwa ar ganfyddiadau a gwersi EIP.

"Mae ystod y sectorau a'r pynciau a drafodir yn eang iawn, o leihau gwrthfiotigau mewn defaid ac asesu potensial profion genomeg mewn buchesi godro i dyfu asbaragws organig ar raddfa fach a sefydlu coedwigoedd newydd mewn tir sydd wedi'i ddifetha gan redyn," meddai Ms. Davies.

Er nad oes modd derbyn unrhyw geisiadau newydd ar gyfer EIP Cymru, ychwanegodd Ms Davies fod nifer o wasanaethau a phrosiectau Cyswllt Ffermio eraill yn cynnig cymorth sy'n annog arloesi, yn cyflwyno technolegau newydd a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon o weithio.

Gall y rhai sy'n dymuno datblygu syniadau i wella perfformiad busnes fanteisio ar gymorth ymgynghorol, gyda nawdd o hyd at 80% ar gyfer unigolion neu 100% ar gyfer grwpiau, gan arbenigwyr annibynnol. Hefyd mae mynediad i gyngor ar brosiectau arallgyfeirio a nifer o bynciau sector-benodol ar gael drwy raglen fentora un i un a ariennir yn llawn gan Cyswllt Ffermio.

Am ddiweddariadau ar brosiectau EIP Cymru sydd wedi'u cwblhau neu sydd ar y gweill, neu i gael cyngor ar yr holl gymorth arall sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, cliciwch yma.

Mae EIP Cymru, sy'n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes, wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen