Tanlinellwyd pwysigrwydd maethiad i fentrau pesgi bîff ac i hybu cynhyrchiant diadelloedd defaid mewn diwrnod agored ar Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio.
Ar fferm Plas, Ynys Môn, amlinellodd Hefin Richards, o Ymgynghoriaeth Maethiad Profeed sut y gall targedu dognau yn ystod y cyfnod tyfu a phesgi a gwario rhagor o arian ar fwyd o ansawdd gwell i wartheg bîff helpu i dorri costau cyffredinol a chynyddu’r elw. Tanlinellodd y milfeddyg Kate Hovers sut y mae sicrhau bod y mamogiaid mewn cyflwr da gyda’r porthiant iawn yn cael effaith gadarnhaol ar ffrwythlondeb ac ansawdd colostrwm, sydd o fantais wrth gynhyrchu ŵyn.
Esboniodd Mr Richards, yn ystod y cyfnod tyfu, y gall ffermwyr arbed hyd at 10c y dydd trwy borthi dogn i wartheg sy’n seiliedig ar silwair o safon well ar 11ME. Dylai anifeiliaid sy’n tyfu fod â chyfradd dyfu darged o 1kg y dydd, gyda diet sy’n llawn protein a ffibr ond heb lawer o starts er mwyn i ffrâm yr anifail dyfu.
“Gyda silwair o ansawdd gwell mae’r lefelau protein ac ynni yn uwch, felly mae’r anifeiliaid yn gallu dibynnu mwy ar y silwair yn y dogn a llai ar fwyd wedi ei brynu i mewn,” dywedodd Mr Richards.
Pan fydd gwartheg yn cael eu pesgi, y tyfiant targed yw 1.5kg y dydd, trwy borthi dognau llawn egni a starts gyda digon o ffibr i gynnal iechyd y rwmen. Dylai’r targed ar gyfer pesgi fod yn 50-80 diwrnod ac mae bwyd sy’n cynnwys llawer o gynnwys sych yn bwysig yn ystod y cyfnod hwn i gael yr effeithlonrwydd gorau o’r porthiant.
“Mae dogn o safon uchel yn gwella cymhareb trosi porthiant yn gig yr anifail (effeithlonrwydd bwyd), a thrwy hynny yn cynhyrchu mwy o gig o lai o fewnbwn a chostau” ychwanegodd Mr Richards.
Roedd dogn oedd yn costio £1.50 y dydd i bob pen yn dangos elw o £52.50, ond roedd dogn yn costio £1.90 y pen y dydd yn dangos elw o £92 oherwydd bod yr anifail yn magu rhagor o bwysau bob dydd o’r dogn gwell ac yn cymryd 30 diwrnod yn llai i’w besgi yn barod i’w ladd.
Ar Fferm Plas mae Arwyn Jones yn pesgi 600-700 o wartheg y flwyddyn. Mae’r cyfan yn cael eu prynu i mewn yn wartheg stôr 18-22 mis oed ac yn cael dogn seiliedig silwair glaswellt, gyda grawn a dyfwyd gartref yn cael ei ategu ato a phrotein wedi ei brynu i mewn.
Mae gan Arwyn hefyd ddiadell o 1,100 o famogiaid croes Suffolk a 350 o famogiaid miwl. Bydd y mamogiaid yn dechrau ŵyna yng nghanol Ionawr, gyda’r ŵyn benyw yn ŵyna o ganol Mawrth ymlaen. Yn ystod y tymor ŵyna nesaf bydd prosiect Cyswllt Ffermio yn gobeithio lleihau’r defnydd o wrthfiotig ar adeg ŵyna.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar iechyd y mamogiaid a’r ŵyn, yn benodol ansawdd y colostrwm a faint sy’n cael ei gymryd, er mwyn lleihau’r defnydd o wrthfiotig. Bydd y milfeddyg annibynnol Kate Hovers yn gweithio gydag Arwyn ar y prosiect. Dywedodd: “Nid yw rhoi meddyginiaethau ar raddfa fawr i atal afiechyd yn gynaliadwy mewn gwirionedd. Rhaid i ni geisio atal afiechydon yn gyntaf trwy well rheolaeth.”
Mae colostrwm yn cynnwys gwrthgyrff sy’n helpu i atal heintiau a gall cymryd digon ohono yn yr ychydig oriau ar ôl eu geni roi hwb i berfformiad, gan arwain at well pwysau wrth ddiddyfnu a llai o ddyddiau i besgi. Fel rhan o’r prosiect, bydd y maethiad yn cael ei ddadansoddi a bydd proffiliau metabolig o’r mamogiaid yn cael eu creu.
“Mae’n ddefnyddiol iawn gwneud y proffiliau dwy i dair wythnos cyn yr ŵyna gan ei fod yn rhoi canllaw i weld a yw’r famog yn cael digon o egni a phrotein i gynhyrchu colostrwm o safon uchel. Mae hyn yn rhoi digon o amser i addasu pethau os bydd angen.”
Bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd gan yr ŵyn pan fyddant rhwng deuddydd a phum diwrnod oed i fonitro’r colostrwm y maent wedi ei amsugno ac ni fydd gwrthfiotig yn cael ei roi fel rhan o’r patrwm i ŵyn sengl ac efallai i’r efeilliaid cryfion. Bydd lefelau amsugno’r colostrwm yn cael eu cymharu, ynghyd â chyfraddau tyfu a diddyfnu.
Trafododd Kate hefyd reolaeth ar famogiaid yn gynnar yn eu beichiogrwydd a thua’r canol, gan bwysleisio trefn borthi, diffygion o ran elfennau hybrin, trin cloffni a llyngyr a phwysigrwydd rhoi sgôr cyflwr corff.
Am ragor o wybodaeth am y prosiectau sy’n cael eu cynnal ar draws Rhwydwaith Arddangos Cyswllt Ffermio cliciwch yma.