1 Mehefin 2018

 

Os oes gennych ffocws pendant, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i ehangu eich gorwelion, gallai fod yn bryd chwilio am eich pasbort!

Mae Cyswllt Ffermio wedi dechrau chwilio am ffermwyr a choedwigwyr brwdfrydig ac uchelgeisiol sy’n awyddus i gynyddu elfen gystadleuol a hyfywedd eu busnes trwy gymryd rhan yn y rhaglen Gyfnewidfa Rheolaeth eleni.  Bydd y rhaglen, sydd yn ei hail flwyddyn erbyn hyn, yn darparu cyllid hyd at £4,000 i bob un sy’n cymryd rhan i gwblhau taith astudio i Ewrop.  

Os ydych chi’n un o’r rhai ffodus i gael eu dewis ar gyfer y cyfle unigryw hwn i weld arfer dda ar fenter fferm neu goedwigaeth o’ch dewis chi yn Ewrop, gallai fod yn bryd i chi bacio eich cês! 

“Cafodd ymgeiswyr llwyddiannus y llynedd gyfle gwych i weld nifer o ddulliau gwahanol o resoli busnesau, sydd wedi ehangu ar eu gwybodaeth, eu gallu technegol a’u harbenigedd rheolaeth,” meddai Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio.

“Mae’r wybodaeth werthfawr a gafwyd yn parhau i gael ei rannu gyda’r diwydiant ehangach yma yng Nghymru trwy Cyswllt Ffermio, sydd wedi arwain at lawer iawn mwy o fusnesau fferm yn elwa ac yn mabwysiadu dulliau mwy effeithlon neu broffidiol o weithio.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Os ydych chi’n unigolyn cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ac yn credu y byddech yn elwa o daith gyfnewid i fusnes ffermio a choedwigaeth o fewn yr UE, a/neu os oes gennych ddiddordeb croesawu rheolwr fferm cymwys a phrofiadol sy’n gweithio yn yr UE i’ch daliad, byddem yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl,” meddai Ms Davies. Mae’r cyfnod ymgeisio’n dechrau ar 31 Mai hyd 30 Mehefin 2018.

Nodau’r rhaglen yw galluogi dwy ochr y gyfnewidfa i adnabod cyfleoedd datblygu ar lefel bersonol ac fel busnes, ac i hwyluso’r broses o drosi gwybodaeth yn arferion da neu arloesol y mae modd eu rhoi ar waith gartref a’u rhannu gyda’r diwydiant ehangach yng Nghymru. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus rannu canfyddiadau yn deillio o’u profiad trwy sianeli cyfathrebu arferol Cyswllt Ffermio a’r rhaglen ddigwyddiadau.

Bydd panel o feirniaid annibynnol yn gyfrifol am y broses dethol gystadleuol.  Bydd angen i bob ymgeisydd fod ar gael i fynychu cyfweliad ddydd Llun 9 Gorffennaf neu ddydd Mawrth 10 Gorffennaf 2018 yn Aberystwyth.  Bydd enwau’r rhai sy’n cael eu dewis yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni swyddogol yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd, ddydd Llun 23 Gorffennaf 2018. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gynnal ymweliad neu groesawu ymwelydd am gyfnod hyd at oddeutu chwech wythnos. Anogir cyfnewidfa ddwy ffordd ond nid yw’n hanfodol. 

Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu ar gyfradd o 100%, hyd at uchafswm o £4,000 gyda chostau’n cael eu ad hawlio yn dilyn y cyfnod ymweld neu groesawu. 

Am fanylion pellach ynglŷn â manteision rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, Telerau ac Amodau, meini prawf cymhwysedd ac i lawr lwytho ffurflenni cais cliciwch yma.

 

Astudiaeth Achos y Gyfnewidfa Rheolaeth - Richard Roderick, Newton Farm, Scethrog, Powys

richard roderick 0
Llynedd, bu Richard Roderick, un o ymgeiswyr llwyddiannus y Gyfnewidfa Rheolaeth sy’n ffermio fferm bîff a defaid cymysg Newton Farm ger  Aberhonddu mewn partneriaeth â’i wraig, Helen, yn ymweld â’r Alban a gogledd Lloegr i edrych ar gynhyrchu gwartheg sugno yn broffidiol, yn seiliedig ar wneud y defnydd gorau posibl o borthiant.

“Ein nod dros y pum mlynedd nesaf yw cryfhau’r busnes i baratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod. Bydd busnes cynaliadwy yn golygu cynhyrchu cig oen a bîff, a hynny o borthiant yn bennaf, er mwyn ceisio cadw costau cynhyrchu’n isel.

“Roedd y lletygarwch a’r wybodaeth a rannwyd gan y ffermydd y bûm yn ymweld â nhw’n wych.

“Roedd hi’n fraint cael ymweld â ffermwyr/cynhyrchwyr profiadol eraill ac fe ddysgais rywbeth newydd neu ffordd newydd o wneud pethau ar bob ymweliad.

“O ganlyniad i’r ymweliadau, byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o systemau pori cylchdro ar fferm Newton Farm yr haf hwn a byddwn yn cofnodi ac yn gwerthuso data yn unol â’r dangosyddion perfformiad allweddol newydd a osodwyd o ganlyniad i’r gyfnewidfa.”

 

Astudiaeth Achos y Gyfnewidfa Rheolaeth - Hugh Brookes, Penlan Heritage Breeds, Cenarth, Sir Gâr

Mae Hugh Brookes a’i wraig Katharine yn bridio moch Mangalitza ar eu fferm yn Sir Gâr, ac fe aeth â’i

hugh brookes 0
waith ymchwil i faeth moch gam ymhellach y llynedd gyda chefnogaeth rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Fel rhan o’u gwaith o fewn rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, roedd y pâr eisoes wedi derbyn cyngor gan faethegydd sy’n adnabyddus yn genedlaethol a oedd wedi llunio diet yn cynnwys sgil-gynhyrchion gan gyflenwyr lleol, gan gynnwys maidd o gwmni Caws Cenarth; grawn bragu o gwmni Mantle Brewery a thatws sy’n cael eu tyfu’n lleol nad ydynt yn bodloni safon y farchnad.

“Mae wedi bod yn ddiet llwyddiannus sydd wedi gweddu i’n system, gan ein cynorthwyo hefyd i wella proffidioldeb, perfformiad a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond roeddwn i’n awyddus i ddysgu am wahanol agweddau o reoli moch gan fridwyr arbenigol eraill.”

Roedd Hugh yn un o 11 ymgeisydd llwyddiannus yn 2017, a bu’n ymweld â bridiwr blaenllaw o foch Mangalitza yn Arche De Wiskentale, Awstria, lle bu’n dysgu am fridio detholus, maeth, magu a sgiliau cigyddiaeth.

“Roedd fy nhaith gyfnewid yn fuddiol iawn, ac rydym bellach yn rhoi’r hyn a ddysgais ar waith, wedi i mi lunio a sefydlu system badogau newydd ac adeiladu tylciau moch.”

Mae eu porc bellach ar fwydlenni rhai o fwytai mwyaf blaenllaw Llundain, wedi’i goginio gan gogyddion adnabyddus, felly mae awydd y pâr i ddysgu - ac i gynhyrchu porc arbenigol - yn bendant wedi talu ar ei ganfed.

 

Astudiaeth Achos y Gyfnewidfa Rheolaeth - Robb Merchant, White Castle Vineyard, Y Fenni

rob merchant 0
Prynodd Robb Merchant a’i wraig dyddyn 12 erw ger Y Fenni ym 1993, gan ychwanegu pum erw yn 2008. Er mai tu allan i fyd amaeth oedd eu prif ffynhonnell incwm, roedd cefndir cynnar Robb yn ymwneud â ffermio, ac mae’n dweud bod hynny wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer plannu Gwinllan White Castle Vineyard yn 2009.

Gyda chefnogaeth rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, cafodd Robb ymwled â gwinllannau llwyddiannus ar raddfa fechan yn rhanbarth Loire yn Ffrainc.

“Dysgais agweddau ehangach yn ymwneud â gwinwyddaeth o’r radd flaenaf ac ystyriaethau rheoli costau cymhleth yn ogystal â chynhyrchu gwin a chymysgu ar raddfa fechan o fewn ardal ddaearyddol benodol.”

Cafodd Robb gyfle i weld drosto ei hun sut mae cynhyrchwyr yn Ffrainc yn cynnal ac yn gwella ansawdd eu grawnwin a’u gwinoedd gan ganolbwyntio ar gydbwysedd ac iechyd y pridd. Cafodd hefyd gyfle i gymharu modelau busnes gwindai bychain eraill sy’n gweithredu’n annibynnol yn hytrach nag o fewn trefniant cydweithredol, gan nodi bod yr ail opsiwn yn dal i ganiatáu cynhyrchwyr i gynnal eu brandiau eu hunain.

Dechreuodd y gyfnewidfa gydag ymweliad â sioe Loire Wine Show, sef digwyddiad masnach a’i cyflwynodd i nifer o arbenigwyr yn y diwydiant gan gynnwys tyfwyr, newyddiadurwyr gwin a phrynwyr gwin cyn iddo ddechrau ar ei daith yn ymweld â gwinllannau a gwindai.

“Un o’r prif bwyntiau i’w dysgu oedd plannu’r gwinwydd. Mae’r pellter rhwng y gwinwydd yn y rhes yn cael ei bennu gan dyfiant y math penodol, ac roedd y pellter yn amrywio o 600mm i 1.2m ac yn defnyddio techneg tocio unigol Guyot. Mae’n system sy’n caniatáu pob gwinwydd i gynhyrchu cyfanswm tebyg o rawnwin sy’n aeddfedu’n rhwyddach ac yn cynnwys mwy o siwgr wrth gynaeafu.”

 

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu