Mae miloedd o ffermwyr a choedwigwyr bellach wedi cofrestru ar gyfer y Rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, sydd wedi'i ariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn ystod yr hydref y llynedd.

“Gyda meini prawf cymhwysedd wedi'u hehangu, a mwy o amrywiaeth o wasanaethau ar gael erbyn hyn, mae'n bwysig sicrhau bod eich busnes yn gymwys i dderbyn yr amrediad lawn o gefnogaeth sydd ar gael," meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig ym Menter a Busnes, sy'n darparu'r gwasanaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd ein timau rhanbarthol yn ymweld â nifer o farchnadoedd da byw a digwyddiadau Cyswllt Ffermio'r gwanwyn hwn, lle bydd unrhyw ffermwyr a choedwigwyr nad ydynt eisoes wedi cofrestru yn cael eu hannog i wneud hynny.

“Mae’n bwysig i gofio er eich bod wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen Cyswllt Ffermio flaenorol, os nad ydych wedi cofrestru ers mis Hydref y llynedd, ni fyddwch yn gymwys i allu manteisio ar yr hyn sydd ar gael erbyn hyn,” ychwanegodd Mrs Williams.

Mae dros 600 o ffermwyr eisoes wedi cwblhau ‘cynlluniau datblygu personol’ neu PDP ar lein, sy’n eu galluogi i fanteisio o nifer o gyfleoedd sydd ar gael trwy becyn sgiliau a mentora rhyngweithiol newydd Cyswllt Ffermio.  Mae hynny’n cynnwys bod yn gymwys ar gyfer elfen e-ddysgu wedi’i ariannu’n llawn, sy’n debygol o ddenu cryn ddiddordeb ymysg rheini yn y diwydiant sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau busnes neu dechnegol newydd yn eu hamser eu hunain ac ar gyflymder sy'n addas iddyn nhw.

“Mae'n bwysig cofio, unwaith y byddwch wedi cwblhau Cynllun Datblygu Personol ar lein, byddwch yn barod i gynllunio eich amcanion personol a busnes tymor byr a thymor hir, ac i gychwyn ar raglen o ddatblygiad proffesiynol parhaus fydd yn eich galluogi i adeiladu neu ddatblygu sgiliau a chymwyseddau newydd," meddai Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, sy'n darparu elfen hyfforddiant cymorthdaledig y rhaglen sgiliau a mentora newydd.

Bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o Weithdai Cefnogaeth TG / Cynllun Datblygu Personol mewn cydweithrediad  â’r rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant wedi’u cymeradwyo ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth gyda chwblhau eu Cynllun Datblygu Personol. Fodd bynnag, er mwyn gallu manteisio ar y gweithdai hyn, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac wedi derbyn manylion mewngofnodi  er mwyn cael mynediad at y Cynllun Datblygu Personol cyn mynychu. Mae manylion ynglŷn â dyddiadau a lleoliadau'r gweithdai ar gael ar dudalen y Cynllun Datblygu Personol.

Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf i ymgeisio ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cymorthdaledig Cyswllt Ffermio ar gael o’r 1 Ebrill hyd  29 Ebrill 2016, a bydd y cyfnod nesaf ar agor rhwng y 1 Mehefin a 30 Mehefin.  Mae'n rhaid cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol cyn cyflwyno ffurflen gais. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i wneud hyn yn bell cyn y cyfnod ymgeisio.

Mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth fydd yn galluogi ffermwyr a choedwigwyr i ddatblygu fel unigolion, a fydd yn ei dro yn cael effaith sylweddol ar effeithlonrwydd eich busnes. 

“Bydd cwblhau eich Cynllun Datblygu Personol yn sicrhau eich bod yn cofnodi eich holl gymwysterau a gweithgareddau uwch-sgilio a’ch bod yn gallu canolbwyntio ar y meysydd fydd yn cael yr effaith fwyaf ar effeithlonrwydd a phroffidioldeb eich busnes,” meddai Mr Thomas. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o