nutrient management and soil improvement equipment 0
29 Mehefin 2018

 

Mae gwerthoedd eithriadol pH y pridd o ganlyniad i ddefnyddio calch yn rheolaidd yn galluogi fferm llaeth organig yn Sir Benfro i dyfu glaswellt gan ddefnyddio slyri a thail buarth fferm sy’n cael ei gynhyrchu gartref yn unig.

Mae asidedd pridd yn ffactor ddylanwadol wrth gynhyrchu porthiant ac mae Clovers Farm yn Letterston yn brawf o’r hyn y gellir ei gyflawni os yw’r pH ar ei lefelau targed.

Troswyd y fferm i gynhyrchu organig yn 2003 ac mae profion pridd diweddar yn dangos bod lefelau pH yn y 12 cae a samplwyd yn amrywio o pH 6.4 i 7 - y targed a argymhellir yw 6.

Roedd y cynnwys deunydd organig yn y pridd yn amrywio rhwng 11 a 18% - mwy na dwywaith y cyfartaledd yng Nghymru - a dangosodd bron pob un o’r 12 cae a brofwyd fynegeion ffosffad (P) a photash (K) ar lefelau targed ar gyfer glaswelltir o 2 a 2 - yn y drefn honno.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Clovers Farm, disgrifiodd Delana Davies, Swyddog Technegol Tir Âr a Garddwriaeth Cyswllt Ffermio y canlyniadau fel “rhagorol”.

“Mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni os byddwch chi’n manteisio i’r eithaf ar adnoddau sydd wedi’u cynhyrchu gartref,” meddai.

Profwyd y slyri yn Clovers Farm a dangoswyd ei fod yn 12.5% o ddeunydd sych - ar y gwerth hwnnw mae 1,000 o alwyni werth £14.

Mae Roger Ridgway yn ffermio Clovers Farm, sydd yn fferm 120 erw gyda’i wraig, Moira, a’i rhieni, Roland a Myfanwy Williams.

Mae eu buches o 75 o fuchod croesfrid yn cynhyrchu 7000 litr ar 4.4% o fraster menyn a 3.3% o brotein o 1.5 tunnell o ddwysfwyd organig yn y parlwr; gwerthir llaeth i Calon Wen.

Mae deg y cant o’r fferm yn cael ei ail-hau bob blwyddyn drwy blannu rêp porthiant i fwydo fel cnwd sefydlog i wartheg yn y gaeaf gan ddilyn gyda haidd, pys a glaswellt sy’n cael ei hau yn y gwanwyn.

“Mae aredig ddwywaith yn gweithio, mae’n ail-gyflwyno maetholion i’r pridd o’r deunydd organig gwyrdd sy’n cael ei aredig i’r pridd,” meddal Mr Ridgway.

Mae profi priddoedd bob tair i bum mlynedd yn galluogi ffermwyr i ddeall anghenion eu priddoedd a dylid ei ystyried fel buddsoddiad yn hytrach na chost, yn ôl yr agronomegydd annibynnol Alan Jenkins.

Mae Cyswllt Ffermio yn cefnogi ffermwyr gyda chyllid hyd at 100% ar gyfer dadansoddi eu priddoedd. Drwy wneud cais i Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gall ffermydd unigol dderbyn cyllid o 80% neu, os ydyn nhw’n gwneud cais fel grŵp o dri neu fwy, mae 100% o gyllid ar gael.

Mae pH yn bwysig ar gyfer defnyddio maetholion yn effeithlon. “Ar 5.6 i 5.8 byddwch yn colli arian ac ni fydd gwrtaith yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon. Calch yw’r bloc adeiladu, bydd glaswellt yn dal i dyfu ar 5.5 ond bydd llai o faetholion ar gael i’r planhigyn ac ni fydd y cnydau glaswellt ar eu gorau,” meddai Mr Jenkins.

“Nitrogen a photash yw’r maetholion allweddol y mae glaswelltir eu hangen. Os ydy’r pH fel ag y dylai fod, yna bydd y planhigion yn gallu ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Rydych chi’n gwastraffu eich amser gyda ffosffad os nad yw’r pH yn iawn gennych chi.”

Argymhellodd ddefnyddio calch ar uchafswm o 2.5 tunnell/erw.

Nid cemeg y pridd yn unig sydd yn bwysig, ond ei strwythur hefyd. Yn dilyn hydref a gwanwyn gwlyb iawn, mae nifer o gaeau yn gywasgedig oherwydd bod da byw wedi sathru arnynt.

Os oes dŵr yn eistedd ar arwyneb y pridd, cynghorodd Mr Jenkins ffermwyr i wneud tyllau i asesu strwythur y pridd. “Dylech weithio allan lle mae’r pan, edrych ar y pridd, ei arogli, ei deimlo,” meddai. “Dylai priddoedd fod yn llawn o fywyd ond os nad oes aer yna nid hyn fydd yr achos.”

Os yw priddoedd wedi’u cywasgu gellir defnyddio offer awyru i wneud hollt yn y pridd i gyflwyno aer.

Mae pryd a sut y bydd slyri’n cael ei ddefnyddio’n dylanwadau ar gyfanswm y ganran o nitrogen sydd ar gael i’r planhigyn.

Mae chwistrellu slyri yn hytrach na’i ddefnyddio ar yr arwyneb gyda phlât ysgeintio yn caniatáu dal 10% yn fwy o nitrogen.

Os bydd y slyri’n cael ei chwistrellu yn y gwanwyn, mae 45% o’r nitrogen ar gael i’r planhigyn, 35% yn yr haf a 30% yn y gaeaf. Mewn cyferbyniad, mae defnyddio plât ysgeintio yn rhoi 35% yn y gwanwyn, 25% yn y gaeaf a 25% yn ystod yr haf.

Wrth i’r drafodaeth am Barthau sy’n Agored i Niwed gan Nitradau yng Nghymru barhau, fe wnaeth Brian Klass o Cyfoeth Naturiol Cymru rybuddio ffermwyr bod ganddynt ddyletswydd gofal mewn perthynas â phryd a sut maen nhw’n defnyddio eu maetholion.

Mae dyfrffosydd yn Nalgylch Cleddau yn cael eu samplu bob mis a gallai’r darlleniadau ddylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol o ran Parthau sy’n Agored i Niwed gan Nitradau, meddai.

Mae’r gyfres o ddigwyddiadau ‘Pridd, Tail ac Arian’ ar draws Cymru yn cael ei chydlynu gan Cyswllt Ffermio, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y