25 Tachwedd 2019
Bu Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn bresennol mewn seremoni arbennig yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, lle bu’n annerch ymgeiswyr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio eleni wrth i’w blwyddyn ‘academaidd’ o hyfforddiant, mentora a theithiau astudio ddirwyn i ben.
Cynhaliwyd y seremoni ddydd Llun 25 Tachwedd ym mhafiliwn Llywodraeth Cymru yng nghwmni cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol Cymru. Rhoddodd tri arweinydd yr Academi Amaeth gyflwyniad byr yn canolbwyntio ar rai o uchafbwyntiau a’r wybodaeth a ddatblygwyd eleni, gan gynnwys y teithiau astudio tramor a roddodd gyfle unigryw i’r ymgeiswyr gymharu gwahanol ffyrdd o weithio a rheoli mentrau gwledig. Teithiodd ymgeiswyr y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig i bencadlys Sefydliad Masnach y Byd yn Genefa, ynghyd ag ystod eang o fusnesau fferm llwyddiannus; bu ymgeiswyr y Rhaglen Busnes ac Arloesedd yn ymweld â rhai o fusnesau amaethyddol mwyaf blaenllaw’r Iseldiroedd, gan gynnwys fferm laeth sy’n arnofio yng nghanol dociau Rotterdam; a chafodd ymgeiswyr Rhaglen yr Ifanc gyfle i ymweld â busnesau arloesol yng Ngwlad yr Iâ, gan gynnwys ffermydd cig coch gydag ardaloedd gwylio i dwristiaid yn y sied wartheg; fferm a oedd wedi datblygu melin wlân ar y safle a thaith o amgylch lladd-dy.
Dywedodd Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ynghyd â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, fod y 36 ymgeisydd llwyddiannus eleni yn cynnwys ffermwyr; milfeddygon; darlithydd coleg; syrfëwyr gwledig; genetegwyr; arbenigwyr cyfathrebu a chaffael a nifer o fyfyrwyr, ac roedd eu diddordebau’n amrywio o rygbi i dreialon cŵn defaid ac o foch i ddofednod.
Bu’r Gweinidog yn gwrando ar gyflwyniadau gan arweinydd y seremoni, ysgolor Nuffield a’r cyflwynydd adnabyddus, Aled Rhys Jones, sydd hefyd yn gyn-aelod o’r Academi Amaeth, sydd bellach yn arwain Rhaglen yr Ifanc; y ffermwr ifanc a’r dyn busnes llwyddiannus, Llŷr Jones, Fferm Derwydd ger Corwen, sydd hefyd yn gyn-aelod o’r Academi Amaeth, sydd bellach yn arwain Rhaglen Busnes ac Arloesedd, ac Olwen Thomas, a fu’n gweithio gyda rhaglenni’r Ifanc a’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig am y tro olaf eleni.
Diolchodd y Gweinidog yn bersonol i Ms Thomas am ei chyfraniad i’r Academi Amaeth, a ddechreuodd yn 2012 pan lansiwyd y rhaglen, cyn llongyfarch yr holl ymgeiswyr am eu hymroddiad a’u ffocws, a chyflwyno’r tystysgrifau.
“Does dim amheuaeth fod y rhaglen ddwys o fentora, hyfforddiant a theithiau astudio wedi rhoi’r hyder, y sgiliau a’r rhwydweithiau angenrheidiol i’r 236 o unigolion sy’n gyn-aelodau o’r Academi Amaeth.
“Mae’r rhaglen wedi eu cynorthwyo i gyflawni eu nodau personol, yn ogystal â chreu cyfleoedd busnes. Mae’r grŵp ffodus hwn o unigolion yn benderfynol o ‘roi rhywbeth yn ôl’ i’w busnesau teuluol ac i’r economi wledig.
“Yr ethos hwn sydd ei angen er mwyn creu diwydiant cynaliadwy lle gall cynhyrchwyr Cymru barhau i arwain y maes o ran ansawdd, tarddiad a sicrhau’r safonau uchaf posibl o ffermio, gan ddiogelu dyfodol ein hamgylchedd ar yr un pryd.”
Bu’r Gweinidog hefyd yn annog y rhai a oedd yn bresennol i fod yn llysgenhadon ar ran yr Academi Amaeth.
“Erbyn canol mis Ionawr, pan fydd Undeb Amaethwyr Cymru’n cynnal ei frecwast ffermdy blynyddol ym Mae Caerdydd, bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth y flwyddyn nesaf ar agor.
“Mae’r fenter wedi trawsnewid gyrfaoedd, busnesau a llawer mwy.
“Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn gadw’r momentwm, ac mae’n rhaid i ni wneud hynny.”
Enillydd Her Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth 2019
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod Robert Powell, rheolwr newid yn un o’r prif gwmnïau prosesu cig, sy’n ffermio ar y fferm deuluol yn Waunarlwyd, ger Abertawe, wedi ennill her Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth eleni.
Graddiodd Robert o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn amaethyddiaeth ac astudiaethau busnes, ac mae wedi datblygu’r busnes teuluol yn sylweddol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r fferm wedi cynyddu i bron ddwbl y nifer o erwau. Mae ei agwedd benderfynol er mwyn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd i gynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb ar y fferm gartref drwy ganfod ffrydiau incwm newydd yn amlwg wedi darparu sylfaen gadarn iddo, gan ei fod wedi rhoi egwyddorion tebyg ar waith yn ystod yr her Busnes ac Arloesedd eleni.
Yr her ar gyfer y 12 ymgeisydd a ddychwelodd o’u taith astudio’n ddiweddar i fentrau gwledig llwyddiannus yn yr Iseldiroedd, oedd creu strategaeth fusnes ar gyfer Sam Jones, Brookhouse Farm, Swydd Gaerloyw, yn dilyn eu hymweliad â’r fferm yn ystod yr hydref.
Roedd Mr Jones, a enillodd deitl ‘Arloeswr Defaid y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Ffermio Prydain yn 2018, wrth ei fodd gydag argymhellion Robert, a oedd yn cynnwys arallgyfeirio i dyfu blodau haul, gan gynnwys opsiwn i bobl gasglu’r blodau eu hunain, a gwerthu hadau i’r diwydiant bwyd adar, yn ogystal â defnyddio’r gwres a gynhyrchir eisoes gan y boiler biomas i gynhyrchu olew blodau haul. Awgrymodd hefyd y byddai modd adeiladu drysfa o flodau haul ynghyd â theithiau marchogaeth.
Dywedodd Mr Jones fod cyflwyniad Robert yn wych ac yn dangos ôl ymchwil.
“Roedd yn gryno ac yn broffesiynol ym mhob agwedd o fewn yr amser a ganiatawyd, a llwyddodd ei negeseuon a’i syniadau fy argyhoeddi o’r hyn yr oedd yn ceisio ei sefydlu ar fy fferm.
“Byddaf yn sicr yn mabwysiadu nifer o syniadau a gafwyd gan y grŵp Academi Amaeth, a does dim amheuaeth eu bod wedi cynnig nifer o syniadau gwych er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Mae pob un ohonynt yn glod i’r diwydiant,” meddai Mr Jones.
Mae Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.