15 Chwefror 2022

 

Gyda chost uchel gwrtaith wedi’i brynu yn peri i ffermwyr ganolbwyntio ar y maetholion o fewn slyri a thail fferm, mae cyfle i ddysgu mwy am fanteisio ar werth y gwrtaith hwnnw yn dal i fod ar gael yng Nghymru.

Ychydig ddyddiau sydd i fynd cyn y dyddiad cau ar 21 Chwefror i wneud cais am le ar gwrs newydd Meistr ar Slyri Cyswllt Ffermio - ond mae lleoedd yn dal i fod ar gael i ffermwyr sy’n gweithredu’n brydlon.

Mae un o’r gweithdai’n cael ei gynnal gan Chris Duller, arbenigwr glaswelltir a phorthiant annibynnol a fydd yn ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â thaenu slyri a thail a bydd yn rhannu ei wybodaeth am werth y maetholion hynny, gan gynnwys gweddillion treuliad anaerobig a thail dofednod.

Bydd cyngor defnyddiol am y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 sydd ar ddod, sy’n cynnwys mapiau risg, tomenni storio a chadw cofnodion, a sut y gall ffermwyr gyfrifo p’un a fydd eu busnes yn cydymffurfio, ynghyd â sesiwn maes ymarferol ar asesu risg ac asesu cyflwr y tir.

Bydd Keith Owen, yr ymgynghorydd amgylcheddol o KeBek, yn arwain y rheini sy’n dilyn y cwrs drwy’r rheoliadau newydd ar storio ac yn rhoi cyngor pwysig ar sut i leihau cynhyrchiant slyri a dŵr budr yn economaidd, a sut i gyfrifo faint o gapasiti storio sydd ei angen, gydag awgrymiadau ar yr hyn y gellir ei gynnwys – a’r hyn na ellir ei gynnwys.

Bydd cyfraniad hefyd gan y ffermwr llaeth o Sir Benfro, Chris James, sydd wedi cael profiad uniongyrchol o ffermio mewn Parth Perygl Nitradau; bydd yn rhannu'r wybodaeth y mae wedi'i hennill drwy lywio drwy’r rheoliadau hynny ac, o ganlyniad, y buddion i gynhyrchu glaswelltir a chost cynhyrchu.
 
Yn ôl Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, Simon Pitt, mae’r cwrs wedi'i gyfyngu i 15 o leoedd, felly fe anogwyd ffermwyr i weithredu'n gyflym i sicrhau eu lle.

“I gymryd rhan, mae angen i ffermwyr a chontractwyr ddangos dealltwriaeth a phrofiad da o ddefnyddio eu hadnoddau allweddol ar y fferm,” eglura.

“Mae angen i gyfranogwyr llwyddiannus hefyd fod yn ymroddedig, ac yn barod i gyfrannu at weithdy lefel uchel.’’

Cynhelir y cwrs yng Ngholeg Gelli Aur, Llandeilo, ar 8 a 9 Mawrth 2022, rhwng 10am a 3.30pm bob dydd.

I wneud cais, ffoniwch Simon Pitt ar 07939 177935, neu ewch i'n gwefan.

Mae Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu