Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr a chontractwyr sy’n awyddus i feistroli eu harferion storio a rheoli maetholion ar y fferm, cyn i’r rheoliadau dŵr newydd gael eu cyflwyno, a dod yn llysgenhadon rheoli tail ar ran y diwydiant yng Nghymru. 

 

Mae’r Dosbarth Meistr ar Slyri yn gyfyngedig i 15* o leoedd; felly, er mwyn cymryd rhan, mae angen i ffermwyr a chontractwyr ddangos fod ganddynt ddealltwriaeth a phrofiad da o ddefnyddio un o’u hadnoddau allweddol ar y fferm. Bydd angen i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn ymroddedig ac yn barod i gyfrannu at weithdy lefel uchel o dan arweiniad dau o arbenigwyr annibynnol y diwydiant.

Er mwyn i ni gael syniad o sefyllfa unigryw pob unigolyn, a fyddech cystal â llenwi’r holiadur canlynol. Bydd yr atebion yn cael eu cadw’n ddienw ac yn sicrhau bod siaradwyr a hwyluswyr ein Dosbath Meistr ar Slyri yn teilwra’r sesiynau ar sail anghenion yr ymgeiswyr llwyddiannus. Os na fyddwch yn llwyddo i gael lle ar y gweithdy y tro hwn, peidiwch â phoeni – byddwch yn cael eich cyfeirio at wasanaethau perthnasol, cyngor a hyfforddiant a gynigir drwy raglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru.

 

Bydd angen i bawb sy’n cymryd rhan gadarnhau bod gan eu busnes Gynllun Rheoli Maetholion dilys (nad yw dros 5 mlwydd oed).

Mae arian ar gael ar gyfer Cynllun Rheoli Maetholion – cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol i gael rhagor o wybodaeth.

*yn amodol i newid, yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr

Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer Meistr ar Slyri Cymru ar gau.

 

 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Meistr ar Briddoedd Cymru
A hoffech chi wella eich rheolaeth pridd? Cynyddu eich
Meistr Gwndwn Llysieuol
Cwrs undydd yw Meistr Gwndwn Llysieuol a fydd yn sicrhau bod gan
Meistr ar Gloffni Cymru (Llaeth)
Ydych chi’n awyddus i ddysgu ac i fabwysiadu’r technegau