Cwrs undydd yw Meistr Gwndwn Llysieuol a fydd yn sicrhau bod gan y rhai sy’n cymryd rhan y wybodaeth sydd eu hangen arnynt i sefydlu a rheoli gwndwn llysieuol yn llwyddiannus er budd da byw, iechyd y pridd a’r amgylchedd ac y byddant yn gallu:
Trafod manteision gwndwn llysieuol o ran y pridd, yr amgylchedd ac iechyd anifeiliaid, adnoddau er lles cadwraeth, a gwella bioamrywiaeth.

  • Cynnal asesiadau iechyd y pridd gweledol i bennu'r ffactorau sy'n cyfyngu ar gynhyrchiant ac asesu'r potensial i ddefnyddio rhywogaethau amrywiol i wella cynhyrchiant.
  • Deall yr ystyriaethau ar gyfer cynllunio system gwndwn llysieuol sy'n briodol ar gyfer gweithrediad eich fferm gan gynnwys sefydlu.
  • Deall manteision gwahanol rywogaethau gan gynnwys glaswellt, codlysiau a pherlysiau.
  • Darparu strategaethau rheoli pori i gael y perfformiad gorau posibl gan anifeiliaid a hirhoedledd planhigion.

Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer y Meistr Gwndwn Llysieuol nawr wedi cau


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Meistr ar Borfa Cymru
A oes gennych chi ddealltwriaeth dda o reolaeth tir glas ac yn
Meistr ar Slyri Cymru
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr a chontractwyr sy’n
Meistr ar Briddoedd Cymru
A hoffech chi wella eich rheolaeth pridd? Cynyddu eich