Yn y dosbarth meistr lefel uwch hwn, bydd ffermwyr yn cael y cyfle i ddod i ddeall am brif barasitiaid defaid a datblygu dealltwriaeth o’r parasitiaid hyn ar yr anifail a’r ddiadell, ynghyd ag unrhyw oblygiadau statudol. Bydd cyngor yn cael ei roi ar ddiagnosis gofalus, triniaeth a rheoli gwahanol barasitiaid, gan ganolbwyntio ar wneud y gorau o reoli pori a defnyddio meddyginiaethau mewn ffordd gyfrifol.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gadael y Dosbarth Meistr wedi trafod y canlynol -

  • Datblygu dealltwriaeth o brif barasitiaid defaid, gan gynnwys llyngyr gastroberfeddol, llyngyr yr iau, clafr defaid, trogod a llau.  
  • Datblygu dealltwriaeth o egwyddorion SCOPS i reoli parasitiaid.  
  • Deall pwysigrwydd ymwrthedd anthelminitig a sut i fesur, monitro a rheoli hyn.
  • Datblygu dealltwriaeth ynghylch defnyddio gwrthficrobaidd mewn ffordd gyfrifol, sydd wedi’i dargedu ar wahanol barasitiaid.  
  • Datblygu dealltwriaeth o brofion diagnostig allweddol ar gyfer gwahanol barasitiaid, ynghyd â deall sut gallant gael eu defnyddio, a’r cyfyngiadau all fod arnynt.  
  • Deall pwysigrwydd bioddiogelwch a magu hyder i ddatblygu cynllun bioddiogelwch ar y cyd â’u milfeddyg eu hunain.

Trwy gydol y sesiynau, bydd dealltwriaeth o economeg cynhyrchu / peidio â chynhyrchu, llafur a chostau meddyginiaeth yn cael eu hystyried i alluogi’r rhai sy’n bresennol ystyried hyn wrth wneud eu penderfyniadau eu hunain yn y dyfodol.

Siaradwr - Joseph Angell BVSc MSc (Epi) PhD MRCVS

 

Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer y Meistr Parasitiaid - Defaid nawr wedi cau


 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Meistr ar Briddoedd Cymru
A hoffech chi wella eich rheolaeth pridd? Cynyddu eich
Meistr ar Faeth Cymru
Mae maeth yn effeithio ar berfformiad y ddiadell yn yr hirdymor –
Meistr ar Gloffni Cymru (Llaeth)
Ydych chi’n awyddus i ddysgu ac i fabwysiadu’r technegau