9 Mawrth 2020

 

Ysgrifennwyd gan - Chris Duller Ymgynghorydd pridd a phorfa

 

Prin fod tymereddau'r pridd wedi gostwng yn is na 4o C drwy’r gaeaf yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru, ac maent ar hyn o bryd tua 6 o C mewn sawl lle (edrychwch ar Fap Tymheredd Pridd Cyswllt Ffermio).

Mae tymereddau pridd yn hanfodol ar gyfer adfer nitrogen a wasgarwyd. Ar gyfer pob 1o C o gynnydd, mae’n bosibl cynyddu lefel y nitrogen sy’n cael ei adfer o tua 5%. Mae priddoedd gwlyb, trwm yn tueddu i aros yn oerach am gyfnod hirach, felly hefyd unrhyw gae sy'n wynebu'r gogledd, felly arhoswch am ychydig cyn gwrteithio’r caeau hynny.

I lawer, nid yw tymheredd pridd yn berthnasol, yn hytrach, yr hyn sy’n bwysig yw cyflwr y tir a lefelau dŵr y pridd. Nid oes diben gwrteithio’n gynnar a baeddu’r caeau. Gyda llawer o briddoedd yn dal llawer o ddŵr, ni fydd angen ond ychydig bach o law i nitradau symud yn gyflym i ddraeniau cae a chael eu colli.

Am yr ychydig wythnosau nesaf, dylid gwrteithio’r caeau sychaf, neu rannau o gaeau, pan fydd amodau yn caniatáu hynny. Ceisiwch ddefnyddio tractorau bach, gydag olwynion dwbl, rhag gwneud rhowtiau. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio peiriannau chwalu gwrtaith ar gefn beic cwad. Cofiwch, dim ond 5 munud y mae'n ei gymryd i wneud difrod, ond bydd yn cymryd blwyddyn neu fwy i'r pridd ddod ato’i hun.

Gyda statws dŵr pridd uchel, mae'n bwysig ystyried a dewis cynnyrch sy’n ceisio lleihau colledion. Mae hefyd yn bwysig defnyddio'r cyfraddau gwasgaru priodol.

Wrea fyddai'r dewis rhesymegol i'w ddefnyddio yn ystod amodau oer a gwlyb. Ond mae angen i chi fod yn ofalus gan fod tymheredd aer uwchben 12 o C yn golygu bod amonia’n cael ei golli’n gynt o wrea, yn enwedig mewn tywydd gwyntog. Mae'r 12 awr gyntaf ar ôl ei wasgaru’n allweddol i lefel yr amonia a gollir, felly os bydd hi’n dechrau cynhesu yna dylech fod yn meddwl am ei wasgaru yn ystod y pnawn a gyda'r nos. Mae prosiect ar Fferm Rhiwaedog, Safle Arddangos Cyswllt Ffermio, yn edrych ar ddefnyddio wrea wedi'i ddiogelu i gymharu adfer nitrogen gyda wrea arferol a Amoniwm Nitrad (AN), felly cadwch lygad allan am y canlyniadau.)

Gwyddom fod sylffwr yn chwarae rhan allweddol yn y broses o adfer nitrogen, felly, byddai'n gwneud synnwyr defnyddio cynhyrchion sylffwr y gwanwyn yma. Yr hyn sy’n cael ei argymhell ar gyfer tir pori yw 20-30kg/ha o sylffwr ar gyfer pob 100kg/ha o nitrogen a wasgarir, felly byddai cynnyrch â sylffwr o 7-9% yn ddelfrydol. Ar gyfer caeau silwair, argymhellir eich bod yn defnyddio 40kg/ha o sylffwr ar gyfer pob toriad, felly efallai y bydd angen cynnwys sylffwr ychydig yn uwch, megis 27:0:0:12.

Mae rheoli risg yn hynod o bwysig wrth ystyried cyfraddau gwasgaru. Os yw'n gae sych sy'n llawn rhygwellt ac yn tyfu'n dda, a bod rhagolygon y tywydd ar gyfer yr wythnos yn addawol, yna gall y cyfraddau godi. Os yw'n aros yn oer a gwlyb, byddwn yn pwyllo ac yn fwy na thebyg yn cadw'r cyfraddau nitrogen o dan 30 uned/erw (37kgN/ha).

Neges allweddol: Mae pob cae ar fferm yn wahanol. Ceisiwch osgoi gwasgaru gwrtaith ar y rhai sy’n wlyb, ac yn bendant peidiwch â baeddu’r caeau


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu