7 Mehefin 2021

 

A ydych chi'n barod am her?  Her a allai eich helpu i gyflawni eich uchelgais bersonol, creu cyfleoedd datblygiad proffesiynol newydd a rhoi'r hyder i chi anelu'n uchel, gan gredu yn eich hun a'r hyn y gallwch ei gyflawni?

“Os ydych chi'n uchelgeisiol, yn awyddus i ddatblygu mwy o graffter ym myd busnes a gwireddu eich potensial fel unigolyn, hoffem eich gweld yn ymgeisio am le ar raglen Academi Amaeth eleni,” meddai Einir Davies, rheolwr mentora a datblygu gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd y cyfnod ymgeisio am le yn Academi Amaeth eleni yn agor ar ddydd Llun, 7 Mehefin ac yn cau ar ddydd Mercher, 30 Mehefin. Gyda dwy raglen ar wahân, nod y rhaglen Busnes ac Arloesi yw cynorthwyo ac ysbrydoli cenhedlaeth nesaf yr arloeswyr ym myd amaeth a choedwigaeth a meithrin entrepreneuriaeth, a bydd y rhaglen Iau, sef rhaglen ar y cyd â mudiad CFfI Cymru, yn cynorthwyo pobl ifanc (16-19 oed) sy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu reoli tir.

“I nifer o’r 260 o unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen Academi Amaeth dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, ac sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghymru wledig, mae’r profiad wedi newid eu bywydau.

“Mae fformwla unigryw yr Academi o ddarparu gwasanaeth mentora, hyfforddiant, ymweliadau astudio a rhwydweithio, sy'n canolbwyntio ar dri chyfnod astudio byr ond dwys, wedi rhoi sgiliau newydd iddynt, cysylltiadau a ffrindiau newydd, ymdeimlad newydd o hyder ac i nifer, ychwanegiad pwysig iawn i'w cv,” meddai Ms Davies.

Oherwydd Covid-19, sydd wedi effeithio ar drefnu ymweliadau astudio i wledydd tramor ymlaen llaw, bydd ymgeiswyr yr Academi eleni yn cyfuno sesiynau 'cyfarfod a chyfarch' ar-lein a gweminarau ar gyfer sectorau penodol gydag ymweliadau â gwahanol rannau o'r DU, ond mae Ms Davies yn dweud bod hyn yn cynnig ei fanteision ei hun. 

“Pan oedd y pandemig ar ei anterth yn ystod yr haf y llynedd, roedd hi'n amlwg bod cynulleidfa barod o unigolion ar gael sydd wrth eu bodd yn cael y cyfle i ymuno â gweminarau ar-lein, ac mae hyn, wrth gwrs, yn golygu y gallwn ehangu'r dewis o ran ein siaradwyr a'n mentoriaid, gan gynnwys arbenigwyr o bron i unrhyw fan yn y byd gyda chyswllt â'r rhyngrwyd.

“Felly, ni fydd unrhyw deithiau darganfod ffeithiau i Ewrop eleni, ond bydd arlwy o siaradwyr a fydd yn gallu eich tywys ymhellach,” meddai Ms Davies. 

Bydd yr holl drefniadau ar gyfer rhaglen eleni yn cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau teithio a chadw pellter cymdeithasol y gallent fod mewn grym oherwydd Covid-19.

Am agor o fanylion ynglŷn â rhaglen yr Academi Amaeth 2021 ac i lawr lwytho ffurflen gais, cliciwch yma.

 

Astudiaethau achos:
 

Dr Edward Thomas Jones – Academi Amaeth 2018 

Yn 2018, penderfynodd yr academydd a ffermwr rhan amser adnabyddus o Ynys Môn, Dr Edward Thomas Jones, ymgeisio am le yn yr Academi Amaeth, rhaglen datblygiad personol arobryn Cyswllt Ffermio, ac mae’n disgrifio’r profiad fel un unigryw sydd wedi cyfoethogi ei fywyd.

Ochr yn ochr â’i fywyd fel darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor, lle mae Dr Jones (41) wedi bod yn cynghori llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru yn ymwneud ag ystod eang o brosiectau a mentrau, mae’n byw ac yn gweithio’n rhan amser ar y fferm bîff a defaid teuluol ar Ynys Môn. Ar ôl dychwelyd i fyw ar y fferm, bu’n adnewyddu tŷ fferm ei hen nain a thaid, ac erbyn hyn, ef yw’r bedwaredd genhedlaeth i fyw yno.

Felly, pam oedd Edward yn teimlo’r angen i ddatblygu ei yrfa ymhellach?

“Roeddwn i’n gwybod y byddai cymryd rhan mewn rhaglen ddatblygiad personol mor unigryw yn rhoi cyfle i mi weld y broses o wneud penderfyniadau, ynghyd â darparu cyswllt gyda gwneuthurwyr polisi sydd â chyfrifoldeb i bennu dyfodol y diwydiant amaeth a’r economi wledig yng Nghymru,”  meddai Dr Jones.

Roedd ei CV eisoes yn drawiadol, wedi iddo gwblhau gradd BA mewn Economeg a Mathemateg, gradd Meistr mewn Bancio a Chyllid a PhD mewn Economeg. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi rheolaeth o fewn y diwydiant bancio ac mae’n meddu ar gymwysterau proffesiynol gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig a’r Gymdeithas Ystadegau Frenhinol. 

Ond mae Dr Jones  yn nodi mai ei brofiad fel cyn-aelod o’r Academi Amaeth a roddodd yr hyder a’r sgiliau iddo chwarae rôl fwy sylweddol yn y diwydiant y mae mor frwdfrydig drosto i ymgeisio am Ysgoloriaeth Nuffield. Nid yw’n syndod bod ei gais Nuffield wedi llwyddo’r tro cyntaf, ac oni bai am y pandemig Covid 19, a rwystrodd ei daith i America ac Ewrop y llynedd, byddai bellach ar y trywydd iawn i gwblhau ei draethawd hir ar arloesi a thechnoleg mewn amaeth

Pam astudio’r pwnc hwn? Unwaith eto, mae’n nodi bod yr Academi Amaeth wedi ei arwain ar daith o ddarganfod, datblygiad proffesiynol, ac efallai’n bwysicaf oll, o gwrdd â ffrindiau a mentoriaid newydd, ac mae’n dal i fod mewn cysylltiad gyda nifer o’r rhain yn rheolaidd. Fe wnaeth rhai ohonynt ei gynorthwyo i gyflwyno ei gais!

“Yn 2018, ynghyd â’r criw o ymgeiswyr eraill yr Academi, cawsom gyfle i gwrdd ag unigolion ysbrydoledig a dylanwadol yng Nghymru, y DU ac ym Mrwsel. Cawsom y cyfle i fynychu cyfarfodydd yng ‘nghoridorau pŵer’ wrth i weinidogion a gwneuthurwyr polisi roi eu barn ar ddyfodol y diwydiant yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE.

“Roedd yn adeg wych i allu bod yno, ac yn fraint i gael cyfarfod â chymaint o bobl mor ddeallus; o’r rhai a oedd yn arwain ein diwydiant i’r rhai a oedd yn gweithio ar lawr gwlad, ac rydw i’n dal i werthfawrogi barn a chyfeillgarwch y bobl yma hyd heddiw.

“Rhoddodd yr Academi Amaeth gyfle unigryw i mi, a byddem yn cynghori unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol amaethyddiaeth, ein cymunedau gwledig a phroffesiynoli ein diwydiant i ymgeisio.”  

 

Elin Orrells – Rhaglen yr Ifanc 2020

Mae Elin Orrells yn fyfyrwraig Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Elin, sy’n siaradwr Cymraeg, yn byw ar fferm âr a da byw gymysg y teulu yn Sir Drefaldwyn. 

Mae'n mwynhau helpu gyda'r holl stoc, mae'n cynorthwyo gyda gwaith papur y fferm ac mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau i'w galluogi i yrru peiriannau ATV a thrin cyfarpar a pheiriannau fferm eraill yn ddiogel. Ei hantur ddiweddaraf oedd teithio i Carlisle i brynu dwy heffer Limousin pedigri, ac mae’n gobeithio rhoi AI i’r ddwy er mwyn dechrau ei buches fechan ei hun o wartheg Limousin.

Mae’n cymryd rhan weithgar ar lefel clwb a sirol gyda'r CFfI, ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau, gan fwynhau’r cystadlaethau dawnsio stryd yn ogystal â siarad cyhoeddus, gan gynrychioli Sir Drefaldwyn mewn cystadleuaeth genedlaethol. 

Yn rhinwedd ei rôl fel ‘Llysgennad Chwaraeon Ifanc Arian', mae Elin wedi hyfforddi disgyblion o bob oedran mewn amryw o chwaraeon ac mae wedi helpu i drefnu digwyddiadau chwaraeon amrywiol yn yr ysgol i annog disgyblion i gymryd rhan. Cyfrannodd ei pharodrwydd i ‘gymryd rhan mewn unrhyw beth a phopeth' yn y CFfI a'i chymuned leol at ei chyflawniadau mwyaf balch. Yn 2019 enillodd Elin wobr Dysgwr y Flwyddyn Lantra ym maes Diwydiannau’r Tir yn 2019 ac yn 2021 dyfarnwyd hi'n Aelod Iau y Flwyddyn CFfI Cymru.

“Roeddwn i wrth fy modd yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth. Dysgais gymaint gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a’r nifer o ffermwyr ifanc uchelgeisiol eraill y cefais y cyfle i’w cyfarfod ac yr wyf yn cadw mewn cysylltiad â nhw.

“Fe wnaeth yr Academi Amaeth ein helpu ni i gyd i ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni fel pobl ifanc ei wneud i helpu i sicrhau dyfodol hyfyw i amaethyddiaeth ar yr adeg bwysig hon wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer dyfodol sydd bellach wedi newid cymaint oherwydd Brexit, y pandemig a ffocws cynyddol y byd ar faterion amgylcheddol.

 

Caryl Haf Davies – Rhaglen yr Ifanc 2019

Mae Caryl, aelod o Raglen yr Ifanc 2019, yn diolch i’r Academi Amaeth am ehangu ei gorwelion wrth ystyried ei gyrfa ar ôl cael cipolwg ar wahanol sectorau a llwybrau yn y diwydiant.

Ar ôl gadael yr ysgol, cwblhaodd Caryl flwyddyn o brentisiaeth ar fferm laeth yn Abergwaun cyn dychwelyd adref i weithio ar y fferm deuluol yn Sir Benfro, lle mae ei rhieni’n cadw diadell o 600 o famogiaid mynydd Cymreig a 100 o wartheg Limousin pedigri.

Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gydag anifeiliaid, a chyn i'r pandemig daro, roedd hi’n mwynhau dangos  gwartheg Limousin mewn sioeau lleol, ond mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn peiriannau a thechnoleg fodern.

Mae’n aelod brwd o CFfI Eglwyswrw, mae hi’n mwynhau cymryd rhan mewn llawer o gystadlaethau gan gynnwys beirniadu stoc, siarad cyhoeddus a chystadlaethau ‘arddangoswyr ifanc’.

Mae’n chwaraewr hoci brwd ac yn cynrychioli’r tîm hoci merched lleol. Mae hi hefyd yn farchoges frwdfrydig ac yn ystod misoedd y gaeaf mae'n troi allan gyda Helfa Tivyside.

Dywed Caryl, er bod ganddi ddiddordeb mawr mewn geneteg, bridio stoc ac agronomeg, ei bod yn rhy gynnar i gynllunio ei llwybr gyrfa at y dyfodol, ond mae'n awyddus i ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth a gwneud cyfraniad gweithredol i'r diwydiant. Cyn hynny, mae hi wedi gosod ei bryd ar fynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Busnes ac Amaeth.

“Roedd bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn brofiad mor bleserus gan ei fod wedi rhoi'r hyder i mi estyn allan, dysgu a chymryd rhan mewn gwahanol feysydd o'r diwydiant amaethyddol.

“Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, rwy'n bendant y bydd y cysylltiadau a'r cyfeillgarwch a ddatblygais drwy sesiynau amrywiol ar gael i mi alw arnyn nhw yn y dyfodol fel rhan o’m datblygiad personol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn