10 Ionawr 2018

 

Os ydych chi eisiau i’ch busnes fferm berfformio ar ei orau, ai nawr yw’r amser i ganolbwyntio ar hyfforddi a sgiliau datblygu personol? A fydd cymryd amser i ganfod yr arfer gorau ar amrywiaeth o bynciau, o dechnegau ŵyna a chneifio i Gymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch yn fuddiol i’ch busnes? Dyma adeg gorau’r flwyddyn i flaenoriaethu'r rhain i gyd!

Ydych chi’n awyddus i gyflymu a gwella systemau ar gyfer agwedd ariannol a rheolaeth y busnes? Ydych chi’n meddwl y byddai hyfforddiant yn eich helpu chi neu aelod o’ch teulu i weithio yn gyflymach, yn fwy effeithlon ac yn fwy proffidiol?

Os nad ydych chi’n gwybod yr ateb i rai o’r cwestiynau hyn a’ch bod chi wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ystyriwch gwblhau ‘cynllun datblygu personol’ (PDP) ar-lein. Bydd y PDP yn eich helpu chi i ganfod eich cryfderau neu unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth. Gallwch chi osod targedau hyfforddiant i chi eich hun gyda chymorth y PDP ac yna diweddaru’r ddogfen ar-lein wrth i chi gyrraedd pob targed. Byddwch chi hefyd yn gwybod pa hyfforddiant i ymgeisio amdano.

Mae’r cyfnod ymgeisio cyntaf o dri sydd ar gael eleni yn dechrau ar ddydd Llun 5 Chwefror tan ddydd Gwener 2 Mawrth 2018. Bydd y cyfle nesaf i ymgeisio am gyllid yn dechrau ar ddydd Llun 4 Mehefin tan ddydd Gwener 29 Mehefin a bydd y trydydd cyfnod, a’r un diwethaf,  yn dechrau ar ddydd Llun 1 Hydref tan ddydd Gwener 26 Hydref 2018.

Mae elfen hyfforddiant y Rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Lantra Cymru. Ers 2015, mae dros 2,500 o unigolion wedi cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi achrededig byr sydd wedi cael eu hariannu hyd at 80%. Mae hyn yn gwneud y cwrs yn gynnig atyniadol a manteisiol i nifer o fusnesau a’u gweithwyr.

Mae Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn dweud bod y rhaglen eisoes yn trawsnewid sgiliau busnes a phersonol nifer o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru. Mae Mr Thomas yn dweud ei fod yn galonogol bod nifer y ceisiadau ar gyfer hyfforddiant datblygu busnes wedi cynyddu bob blwyddyn. Pwysleisiodd hefyd mai ar lein yn unig y mae modd cyflwyno ffurflenni cais am gyllid a bod yna broses syml i’w gwblhau yn gyntaf.

“Cyn eich bod yn medru cyflwyno ffurflen gais ar lein, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a derbyn eich enw defnyddiwr a chyfrinair BOSS eich hun oddi wrth Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio. Ar ôl i chi wneud hyn gallwch chi fewngofnodi i wefan BOSS a chwblhau eich PDP,” dywedodd Mr Thomas.

Mae cyngor ar sut i gwblhau’r PDP ar gael trwy eich darparwr hyfforddiant lleol neu gallwch ystyried fynychu un o’r digwyddiadau PDP rhanbarthol sy’n cael eu trefnu gan Cyswllt Ffermio ym mis Ionawr a mis Chwefror 2018. Ewch i wefan Cyswllt Ffermio am ddyddiadau a lleoliadau.

Bydd unrhyw un sy’n gwneud cais am gyllid ar gyfer cwblhau cwrs sy’n ymwneud â defnyddio peirianwaith ac offer angen cwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch ar-lein yn gyntaf, sydd am ddim gan Cyswllt Ffermio.

Cliciwch yma i weld rhestr o holl gyrsiau hyfforddi achrededig Cyswllt Ffermio ynghyd â rhestr o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy; gwybodaeth am ystod o gyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio sydd wedi cael eu hariannu’n llawn; arweiniad ar sut i gwblhau Cynllun Datblygu Personol a’r ffurflen gais am gyllid i gyd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol am fwy o wybodaeth am hyfforddiant, gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio a allai fod o fudd i’ch cwmni. Bydd y Swyddog Datblygu yn medru rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar eich cyfer. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint