24 Medi 2018

 

Ar adeg pan fo ffermwyr a choedwigwyr yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sydd i ddod yn dilyn Brexit drwy weithio’n fwy effeithlon neu broffidiol, mae nawr yn gyfle da i ystyried a yw eich busnes yn perfformio ar ei orau mewn gwirionedd. Os nad yw’n perfformio ar ei orau, mae’n bosib y byddech yn dymuno buddsoddi amser mewn hyfforddiant neu ‘uwch-sgilio’ a allai eich rhoi chi gam o flaen eich cystadleuwyr mewn cyd-destun ariannol ac ymarferol. 

A fyddai eich busnes yn elwa o neilltuo amser ar gyfer hyfforddiant a fyddai’n eich cynorthwyo i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’ch cyfrifon neu gynorthwyo gyda chynllunio eich busnes? A yw rheolaeth glaswelltir neu faterion iechyd anifeiliaid yn feysydd sydd angen sylw er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau o adnoddau pwysicaf y busnes? 

Os oes angen i chi hwyluso neu wella unrhyw un o’ch systemau ar y fferm, gallech ddymuno ystyried ymgeisio ar gyfer un o gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio, sy’n ymwneud ag ystod o sgiliau busnes yn ogystal â sgiliau ymarferol. Gyda chymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer busnesau cymwys, gallai hyfforddiant eich cynorthwyo i redeg busnes cryf a chynaliadwy wrth i chi baratoi ar gyfer y dyfodol.

Bydd y cyfnod ymgeisio olaf ar gyfer 2018 yn dechrau ddydd Llun 1 Hydref ac yn dod i ben ar ddydd Gwener 26 Hydref 2018.

Mae elfen hyfforddiant rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio’n cael ei ddarparu gan Lantra Wales. Ers 2015, mae dros 3,000 o gyrsiau hyfforddiant wedi cael eu cwblhau, gan arwain at ganlyniadau llwyddiannus i nifer o fusnesau a’u gweithwyr.

Dywed Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Wales, fod y rhaglen eisoes yn trawsnewid sgiliau personol a busnes nifer o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru. Yn ôl Mr Thomas, mae’n galonogol iawn bod cynnydd graddol bob blwyddyn yn nifer y ceisiadau ar gyfer hyfforddiant i wella busnes.  Pwysleisiodd mai ar-lein yn unig y gellir cyflwyno’r ffurflen gais ar gyfer cymhorthdal ac mae angen cwblhau proses syml yn y lle cyntaf. 

Cyn gallu cyflwyno ffurflen gais ar-lein, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, darparu cyfeiriad e-bost unigryw a chofrestru gyda Sign On Cymru, ble bydd modd i chi gael mynediad at eich cynllun datblygu personol (PDP) ar lein, cyrsiau e-ddysgu, y ffurflen gais am gymorth ariannol a gweld cofnod o’ch gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus.

“Bydd rhaid i bob ymgeisydd gwblhau PDP cyn cyflwyno ffurflen gais am gymorth ariannol. Bydd y PDP yn eich cynorthwyo i adnabod cryfderau presennol neu unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth. Gyda PDP, gallwch osod eich nodau hyfforddiant a diweddaru’r ddogfen ar-lein wrth i chi gyrraedd pob carreg filltir. Bydd gennych fwy o wybodaeth ynglŷn â blaenoriaethu’r cwrs hyfforddiant sydd fwyaf tebygol o fod o fudd i’ch busnes,” meddai Mr Thomas.

Bydd angen i unrhyw un sy’n bwriadu ymgeisio ar gyfer cymorth ariannol i gwblhau cwrs yn ymwneud â defnyddio peiriannau ac offer gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn y lle cyntaf.

Mae rhestr o holl gyrsiau achrededig Cyswllt Ffermio ynghyd â rhestr o’r darparwyr hyfforddiant cymeradwy a chanllawiau ar gwblhau’r PDP ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

Am wybodaeth bellach neu arweiniad ynglŷn â hyfforddiant, gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio a allai fod o fudd i’ch busnes, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol a fydd yn gallu darparu unrhyw gefnogaeth neu arweiniad. Mae eu manylion cyswllt ar gael yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y