Mae Andrew Rees o Moor Farm, ger Hwlffordd, yn rhoi pwyslais enfawr ar effeithlonrwydd o fewn y busnes. Rhwng 2016 a 2019, roedd y fferm yn un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio lle cynhaliodd arbrawf i fanteision gwndwn amlrywogaeth. Gwrandewch i glywed mwy am ganlyniad y treial, barn Andrew ar wella iechyd y pridd, ei brofiadau o ddefnyddio gwrtaith hylifol a ffyrdd o wneud y gorau o slyri’r fferm.