Rhywbeth ychydig yn wahanol yn y bennod hon wrth i ni gael ein harwain gan arweinydd yr Academi Amaeth, Llyr Derwydd ac aelodau o’r rhaglen Busnes ac Arloesedd wrth iddynt ymweld â Bilboa a rhanbarth y Basg. Mae'n daith wib o amgylch arferion ffermio amrywiol y rhanbarth, o fferm laeth confensiynol yn Laukiz i winllan a chynhyrchydd tomatos yn Arrankudiaga. Bu'r grŵp hefyd yn ymweld â Mutriku, pentref glan môr lle mae'r gwaith trydan tonnau cyntaf yn Ewrop. Mae’r daith hon yn sicr wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid ffermio a choedwigaeth yng Nghymru.

Cliciwch yma i wrando


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 115 - Tyfu’n Fyd-eang: Sut Daeth Meithrinfeydd Seiont yn Bwerdy Allforio Garddwriaethol yng Nghymru
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y daeth meithrinfa yng Nghymru
Rhifyn 114 - Ffocws ar eneteg, iechyd yr anifail a defnyddio EID yn y ddiadell Gymraeg Cyfnod newydd yn Ystâd Rhug
Cyfle unigryw i ymweld ag Ystâd Rhug ac i ddysgu mwy am y newid
Rhifyn 113 - Atal Cloffni: Ffermwyr yn arwain y ffordd
A yw cloffni yn broblem ar eich fferm laeth? Er gwaethaf degawdau