Y bennod hon yw'r ail yn ein cyfres ar gyfer cynhyrchwyr dofednod, ond bydd y cynnwys hefyd o ddiddordeb i ffermwyr sy'n defnyddio llawer o ynni ar y safle. Mae Catherine Price, Prif Swyddog Technegol Llaeth a Dofednod Cyswllt Ffermio yn cael cwmni nid un, nid dau ond tri o westeion. Mae'r cynhyrchwyr wyau Llyr Jones ac Osian Williams wedi buddsoddi’n helaeth mewn ynni adnewyddadwy ar y fferm a’r arbenigwr ynni Chris Brooks sy’n rhoi dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sydd wedi arwain at y cynnydd mewn prisiau ynni, a sut y gallwn edrych ar ein heffeithlonrwydd ynni cyn ystyried a yw ynni adnewyddadwy yn dal i fod yn fuddsoddiad ymarferol.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 127 - Defnyddio synwyryddion acwstig i fonitro bioamrywiaeth ffermydd
Mae ffermwyr yn adnabod eu tir yn well nag unrhyw un - ond gall
Rhifyn 126 - Ffliw Adar a goleuadau sied ddofednod
Croeso i gyfle arall i ddal i fyny ar weminar Cyswllt Ffermio a
Pennod 125 - Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio: Golwg fanylach ar goetiroedd, bioamrywiaeth, a charbon
Ymunwch â'r arbenigwyr o dîm Cyswllt Ffermio wrth iddynt agor y