Cig oen, cig dafad a gwlân, dyna’r cynnyrch rydan ni’n gyfarwydd â nhw wrth ffermio defaid yng Nghymru. Bellach, dylem ychwanegu llaeth dafad at y rhestr, wrth i ni weld 14 o ffermwyr eleni yn godro defaid. Mae dau o'r unigolion arloesol yma yn ymuno gyda Geraint Hughes am sgwrs sef Alan Jones o Chwilog, ger Pwllheli a Huw Jones o Lanerchymedd, Ynys Môn. Cafodd y rhifyn yma eu recordio o safle prosesu newydd, Llaethdy Gwyn ym Methesda, Dyffryn Ogwen, sydd wedi’i ddatblygu gan Carrie Rimes yn bwrpasol i broeseu llaeth dafad.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 108 - Gweithio tuag at hunangynhaliaeth o ran protein
Mae’r bennod hon wedi’i recordio yn ystod un o 15 digwyddiad
Rhifyn 107 -Cloffni mewn Gwartheg Llaeth: Pennod 2
Mae Sara Pedersen yn ymweld â Fferm Maenhir, Hendy-gwyn ar Daf
Pennod 106: Rhifyn Arbennig gyda Mari Lovgreen ac Ifan Jones Evans
Gwrandewch ar rifyn arbennig o bodlediad Clust i’r Ddaear sy’n