Gareth Griffiths, Mabis Amaeth
Mae Gareth yn siaradwr Cymraeg rhugl o Sir Gaerfyrddin, ond mae'n gallu teithio ledled Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Ar ôl cael ei fagu ar fferm laeth, cig eidion a defaid gymysg a gweithio yn y diwydiant amaethyddol am dros 15 mlynedd, mae gan Gareth ddealltwriaeth a gwybodaeth gref am y sector amaethyddol. Mae Gareth wedi cwblhau dau gwrs gyda Sian Bushell, gan ganolbwyntio ar olyniaeth a hwyluso cyfarfodydd teuluol ac mae'n deall pwysigrwydd cynllunio olyniaeth ar ffermydd teuluol. Mae hefyd yn gwerthfawrogi y gall fod yn bwnc anodd mynd i'r afael ag ef. Mae gan Gareth bron i 8 mlynedd o brofiad o reoli a hwyluso grwpiau trafod, ynghyd â hyn, mae Gareth hefyd wedi cwblhau'r cwrs 'Hwyluso mewn Arweinyddiaeth Sefydliadol'.