Hyd: 1 diwrnod

Dull Cyflwyno: Theori ac Ymarferol

Cyflwyniad:

Mae'r cwrs hwn yn arbennig o berthnasol i unigolion a sefydliadau yn y sectorau cynnal a chadw tirwedd, rheoli cyfleusterau, cynnal a chadw eiddo a’r sector amwynderau (amenities)

Trosolwg cryno:

Oherwydd lledaeniad eang a/neu oruchafiaeth nifer o rywogaethau planhigion ymledol yn yr
amgylchedd, mae galw cynyddol i ddefnyddio dulliau rheoli priodol.

Mwy o fanylion:

Mae rhywogaethau ymledol yn gallu cymryd drosodd cynefin a chael gwared ar lawer o blanhigion gwyllt brodorol o fewn cynefin. Mae planhigion ymledol yn gallu arwain at greu sefyllfa lle mae un un cnwd yn unig yn cymryd drosodd. Sefyllfa sy'n effeithio ar dir pori, coetir, amgylcheddau trefol ac ardaloedd o ddiddordeb i fywyd gwyllt.

Mae Clymog Japan yn gallu niweidio adeiladau ac mae ei bresenoldeb yn gallu peryglu gwerthiant eiddo neu gais am forgais.

Mae Efwr Enfawr (Giant Hogweed) yn achosi pothelli/llosgiadau difrifol os ydy’n cyffwrdd eich croen.
Mae nifer o’r planhigion hyn heb unrhyw elyn naturiol yn y Deyrnas Unedig (DU).

Mae galw am ddulliau rheoli effeithiol gan Awdurdodau Lleol, Ffermwyr, Grwpiau Cadwraeth, Cyfleustodau, Cyfoeth Naturiol Cymru a Pherchnogion Eiddo ac ati.

Beth fydd yn cael ei gynnwys yn y cwrs?

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Adnabod 7 o rai o'r rhywogaethau planhigion mwyaf ymledol yn y DU.
  • Bod yn ymwybodol o ddulliau atgynhyrchu/lledaenu a thechnegau goroesi’r rhywogaethau
  • Bod yn ymwybodol o effeithiau ecolegol ac amgylcheddol y rhywogaethau ymledol
  • Deall pam ei bod yn bwysig rheoli'r rhywogaethau ymledol
  • Bod yn ymwybodol o'r dulliau rheoli sylfaenol
  • Bod yn ymwybodol o'r dulliau priodol o waredu llystyfiant wedi'i dorri.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Simply the Best Training Consultancy Ltd

Enw cyswllt:
Julie M Thomas


Rhif Ffôn:
01443 670267


Cyfeiriad ebost:
julie@simplythebesttc.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.simplythebesttc.co.uk


Cyfeiriad post:
Caerlan Farm, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf CF40 1SN


Ardal:
Cyrsiau llif gadwyn, plaladdwyr, cymorth cyntaf ac ATV yn Ne Ddwyrain Cymru. Popeth arall ar gael ar draws Cymru gyfan

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cwrs Agronomeg (Agored)
Mae’r cwrs Agronomeg hwn yn cael ei gynnig gan Goleg Sir Gâr ac
IEMA Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol i'r Gweithlu (undydd)
Trosolwg o’r cwrs: Mae'r cwrs yn cwmpasu'r prif risgiau
Cynnal a Chadw, Hanes ac Egwyddorion Ecolegol Dolydd Blodau Gwyllt
Cyflwyniad Mae'r cwrs un neu ddau ddiwrnod hwn yn galluogi