Cyflwyniad
Mae'r cwrs un neu ddau ddiwrnod hwn yn galluogi dysgwyr o fewn sefydliadau sy'n creu ac yn cynnal dolydd blodau gwyllt i feithrin eu dealltwriaeth o'r ecoleg sylfaenol. Rhoddir pwyslais ar wneud y mwyaf o'r amrywiaeth o flodau gwyllt sy'n gynhenid o fewn system naturiol.
Trosolwg cryno
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o golli amrywiaeth i’w weld ar draws llawer o ardaloedd naturiol y Deyrnas Unedig (DU), a bod cynyddu at nifer o’r ardaloedd hyn ar gyfer hybu dolydd blodau gwyllt o fudd i fywyd gwyllt a phobl. Mae angen gwybodaeth arbenigol i reoli’r safleoedd hyn, a bydd rhywfaint o ddealltwriaeth o'u hanes, eu hecoleg a rheolaeth ddiwylliannol yn galluogi dysgwyr i wella a'u datblygu yn yr hirdymor.
Mwy o fanylion
Bydd dysgwyr yn cael cipolwg ar ecoleg systemau cymhleth trwy archwilio hanes datblygiad dolydd blodau gwyllt, modelau ac egwyddorion cyfredol. Bydd hyfforddiant mewn adnabod rhywogaethau dangosol yn eu galluogi i fagu hyder. Bydd hefyd yn eu galluogi i benderfynu pa broblemau sy’n debygol o godi a pha dechnegau rheoli sy’n cael eu defnyddio i'w datrys.
Pryd mae’r cwrs ar gael?
Mae hwn yn gwrs sydd wedi’i baratoi yn arbennig gan Lantra. Mae wedi'i deilwra i anghenion pob sefydliad ac mae'n cael ei gyflwyno ar eu safleoedd. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn cyngor ac arweiniad sy'n benodol i'w lleoliad nhw yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol.
Dylid gwneud pob ymholiad ar ran sefydliadau i'r darparwr hyfforddiant: