Jacqui Banks
Enw: Jacqui Banks
E-bost: jacqui.banks@menterabusnes.co.uk
Symudol: 07961 958806
Lleoliad: Sir Benfro
Arbenigedd(au): Rheoli tir yn gynaliadwy, Ffermio adfywiol, Amaeth-goedwigaeth gan gynnwys coed-borfeydd
- Mae Jacqui a’i gŵr yn berchen ar 10 erw o dir lle maen nhw wedi gallu adeiladu eu tŷ eu hunain diolch i redeg eu busnes o’r safle a phrofi y gallent fodloni meini prawf ecolegol llym. Ers symud i Glandwr yn 2012 mae'r pâr wedi datblygu system goed-borfeydd gyda defaid yn pori o dan amrywiaeth o goed sydd newydd eu plannu a fydd yn darparu stoc rhieni ar gyfer meithrinfa amaeth-goedwigaeth y maent yn ei sefydlu ar hyn o bryd.
- Mae gan Jacqui hefyd rôl weinyddol gyda Cyswllt Ffermio ac mae wedi dysgu’n uniongyrchol am y manteision diriaethol sy’n deillio o raglen ‘dysgu gweithredol’ wedi’i hwyluso Agrisgôp, sy’n dod ag unigolion o’r un anian at ei gilydd i ddatblygu syniad neu fenter sy’n gysylltiedig â ffermio. Gan gydnabod bod hwn yn faes lle gallai ei sgiliau a'i gwybodaeth ei hun fod yn nodwedd ddefnyddiol, mae bellach yn mwynhau ei rôl ddiweddaraf fel arweinydd Agrisgôp.
- Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae gan Jacqui brofiad a gwybodaeth eang yn y sector amaethyddol ac yn ogystal â hwsmonaeth anifeiliaid yn gyffredinol, trwy rolau rhan-amser blaenorol ar ffermydd llaeth lleol a oedd yn cynnwys godro, rheoli buchesi, AI a mwy, mae ganddi hefyd brofiad o amaethyddiaeth adfywiol ac amaeth-goedwigaeth gan gynnwys coed-borfeydd neu 'bori a reolir' sef yr arfer o integreiddio coed, porthiant a phori anifeiliaid mewn ffordd sy'n fuddiol i'r ddwy ochr.
- Mae rolau blaenorol Jacqui wedi rhoi ymagweddau arloesol a blaengar o reoli tir a phobl iddi ac mae hi hefyd wedi datblygu sgiliau ymchwil a chynllunio busnes da. Yn gyfathrebwr hamddenol, mae ei rôl flaenorol yn y celfyddydau cymunedol wedi rhoi profiad iddi o weithio gydag unigolion o gefndiroedd amrywiol a sgiliau hwyluso rhagorol. Yn rhagweithiol, arloesol a bob amser yn canolbwyntio ar y dasg, fe welwch Jacqui yn awyddus i yrru syniadau da yn eu blaenau – disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan ei hangerdd am yr hyn y mae'n ei wneud ac am yr hyn y bydd yn eich annog chi i'w gyflawni hefyd!
Busnes fferm presennol:
- Daliad amaeth-goedwigaeth 10 erw
- Diadell o ddefaid Torwen
- Coed-borfeydd
- Ethos ffermio adfywiol
Profiad, sgiliau, cymwysterau perthnasol
- BA (Anrh) Dosbarth Cyntaf (Actio)
- DIY AI
- Gweithrediadau’r Diwydiant Llaeth (Dyfarniad Lefel 2)